'Hanfodol' ymchwilio i honiadau eang o aflonyddu mewn ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Merch ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ofsted bod yn broblem yn un sy'n perthyn i bob rhan o gymdeithas

Mae angen ymchwilio i honiadau eang o aflonyddu a chamdriniaeth rywiol mewn ysgolion, meddai'r Ceidwadwyr Cymreig.

Mae dros 90 o ysgolion yng Nghymru wedi cael eu crybwyll ar wefan ble mae merched yn rhannu honiadau o aflonyddu a chamdriniaeth rywiol.

Daeth adolygiad o gamdriniaeth mewn ysgolion a cholegau yn Lloegr i'r casgliad bod aflonyddu rhywiol wedi ei "normaleiddio" ymhlith plant ysgol, gyda merched yn derbyn negeseuon gan fechgyn yn gofyn am luniau noeth.

Dywedodd Gweinidog Addysg Cymru, Jeremy Miles wrth BBC Radio Cymru ddydd Iau bod y mater "yn flaenoriaeth i ni yma yng Nghymru hefyd".

Fe wnaeth y corff arolygu ysgolion Ofsted gynnal adolygiad yn Lloegr ar gais Llywodraeth y DU wedi i'r wefan Everyone's Invited ddechrau cyhoeddi honiadau o gam-drin rhywiol gan gyfranwyr dienw.

Fe wnaeth yr elusen NSPCC greu llinell gymorth newydd hefyd mewn ymateb i'r honiadau.

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Laura Anne Jones yn galw am asesu'r broblem yng Nghymru

Gydag addysg yn faes datganoledig, Estyn sy'n goruchwylio ysgolion yng Nghymru.

Mae llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Laura Anne Jones yn galw ar weinidogion Llywodraeth Cymru i weithredu yn sgil "cyfeiriadau gofidus at 91 o ysgolion Cymru" ar wefan Everyone's Invited.

"Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru nawr yn gorchymyn Estyn i weld pa mor gyffredin ydy'r broblem yng Nghymru, asesu polisïau diogelu a phrofiadau mewn ysgolion a cholegau, a chyhoeddi'r canlyniadau," meddai.

"Rhaid i ysgolion fod yn le diogel i'n plant."

Angen camau pwrpasol

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles wrth raglen Dros Ginio bod y mater "yn flaenoriaeth i ni yma yng Nghymru hefyd".

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jeremy Miles bod datblygu dealltwriaeth disgyblion o'u cyfrifoldebau yn rhan o gwricwlwm newydd Cymru

Pan ofynnwyd iddo a oes angen ymchwiliad gan Estyn atebodd: "Y'n ni'n edrych ar y ffordd orau i allu ateb hyn.

"Bydden ni eisiau sicrhau ein bod ni'n cymryd camau pwrpasol i sicrhau bod hynny ddim yn digwydd."

Ychwanegodd: "Byddwn ni gallu dweud mwy am hyn maes o law."

Dywedodd bod cynnwys adroddiad Ofsted "yn syfrdanol" a bod "datblygu dealltwriaeth" disgyblion o'u cyfrifoldebau yn rhan graidd o'r cwricwlwm newydd.

"Rwy'n credu bod hynny'n galonogol iawn ar gyfer y dyfodol," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd adolygiad Ofsted bod merched wedi dod dan bwysau i rannu lluniau noeth o'i hunain

Holodd Ofsted 900 o aelodau staff a disgyblion mewn 30 o ysgolion a cholegau yn Lloegr.

Dywedodd dros dau o bob tri o ferched bod rhywrai'n eu cyffwrdd yn ddieisiau "yn aml".

Roedd wyth o bob 10 wedi dod dan bwysau i rannu lluniau rhywiol o'u hunain.

Pynciau cysylltiedig