'Clywais gwymp, roedd Gwyn yn sownd dan garreg enfawr'

  • Cyhoeddwyd
Huw Thomas a Gwyn WoodlandFfynhonnell y llun, Huw Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Gwyn Woodland (dde) a Huw Thomas (canol) yn eu gwaith yn Nhanygraig

Mae glöwr wedi bod yn disgrifio sut y gwnaeth "lusgo" ei ffrind i le diogel pan oedd wedi'i gaethiwo o dan graig a hynny wedi i bren oedd yn dal y to symud.

Fe wnaeth Huw Thomas, 63, achub Gwyn Woodland o bwll glo Danygraig yn Y Creunant ger Castell-nedd yn 2017, wedi i ystyllod pren "rhad" a oedd yn dal y to dorri.

Ddydd Llun cafwyd cwmni mwyngloddio Three Ds Mining Ltd yn euog o dorri rheolau diogelwch.

Dywedodd cyfarwyddwr y cwmni, David Jones na fyddai'n ymateb i "gelwyddau".

'Roedd e'n sioc'

Yn ystod yr achos clywodd Llys y Goron Abertawe y dylai bariau llorweddog - o drwch nid llai na 2.4 modfedd (63.5mm) fod yn dal y to.

Ond yn haf 2017 roedd perchennog y cwmni wedi dechrau defnyddio ystyllod a oedd mor denau â 0.78 modfedd (20mm) mewn rhai llefydd.

Ffynhonnell y llun, Gweithgor Iechyd a Diogelwch
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys mai ystyllod tenau a oedd yn dal to'r pwll mewn mannau

Roedd Mr Thomas, 63, wedi bod yn rheolwr pwll Danygraig yn ardal Y Creunant, ond yn 2017 roedd yn gweithio fel glöwr llawrydd.

Dywed Mr Thomas ei fod ef a'i gydweithiwr yn gweithio yn y pwll un bore a bod Mr Woodland wrthi'n "drilio er mwyn gosod rhywbeth cryfach i ddal y to gan fod yr ystyllod a oedd wedi'u defnyddio ddim yn ddigon cryf".

Dyma pryd y torrodd y pren gan gaethiwo Mr Woodland a'r offer oedd yn ei ddefnyddio o dan graig a oedd yn pwyso hanner tunnell.

"Ro'n i'n cropian ar y ffas pan glywais graig yn cwympo. Es i lawr, ac roedd Gwyn yn sownd o dan garreg enfawr. Roedd yn rhaid symud y garreg gan ei fod yn cael trafferth anadlu," dywedodd.

"Roedd e'n sioc. Doedd e ddim yn cwyno llawer ond ro'n i'n gallu dweud ei fod mewn poen.

"Ond roedd Gwyn mor gryf, fel ych. Petai e ddim wedi bod mor gryf - fe fyddai wedi marw."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Huw Thomas ryddhau Gwyn Woodland cyn ei lusgo allan o'r pwll

Yn y cyfnod roedd Mr Woodland wedi'i gaethiwo o dan y graig, dywedodd Mr Thomas bod yna beryg i "ail gwymp" ddigwydd ac fe fyddai hynny wedi gwneud y "ffas lo yn hollol fflat".

Ychwanegodd: "Roedd yn rhaid i fi dorri y garreg oddi ar Gwyn gyda gordd.

"Fe dorrodd dri asgwrn yn ei gefn, roedd ei goesau wedi'u gwasgu, doedd e methu cerdded ac roedd e mewn cyflwr ofnadwy.

"Roedd yn rhaid i fi daro'r garreg yn ysgafn gan obeithio y byddai'n hollti yn y canol. Doedd hi ddim yn bosib i fi ei bwrw'n galed gan bod Gwyn o'i thani ac roedd e eisoes mewn poen. Roedd rhaid i fi weithio cyn gynted â phosib er mwyn ei ga'l e mas yn gloi.

"Petawn i ddim wedi 'neud hynny, mi fyddai wedi marw. Doeddwn i methu mynd i ffindio help - roedd yna gwymp arall ar fin digwydd ac roedd e'n cael trafferth anadlu."

Dywed Mr Thomas ei bod wedi cymryd dwy neu dair munud i symud y garreg oddi ar Mr Woodland cyn ei "lusgo" allan o'r pwll.

'Peryglu bywydau'

Roedd y perchennog, David Jones, wedi ceisio "cuddio" yr hyn a ddigwyddodd drwy beidio cyfeirio'r mater at y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, yn ôl Mr Thomas.

Dywedodd: "Pan es i'r gwaith drannoeth, fe wnaeth y perchennog ofyn i fi i ofyn i Gwyn ddod i'r gwaith fel nad oedd rhaid rhoi adroddiad am y digwyddiad.

"Fe ffoniais i Gwyn a gofyn 'wyt ti'n gallu dod i'r gwaith?' Ond doedd e ddim yn gallu symud allan o'i gadair heblaw sôn am ddod i'r gwaith."

Dywed Mr Thomas bod Mr Jones "yn amlwg" yn ceisio gwneud pethau y ffordd rhataf a bod cwmni Three Ds Mining Ltd "heb os" yn "peryglu bywydau pobl".

Dywedodd hefyd na chlywodd Mr Woodland air gan y perchennog wedyn.

"Dyw e ddim wedi cael cyflog ers tair blynedd a dwi'n meddwl bod hi'n gywilyddus y ffordd y mae wedi cael ei drin," meddai.

Wrth siarad â BBC Cymru dywedodd cyfarwyddwr Three Ds Mining, David Jones: "Does dim rhaid i fi ymateb i gelwyddau. Os oedd y rheithgor yn credu'r celwyddau yna, be' dwi'n gallu ei ddweud?"

Mae disgwyl i gwmni Three Ds Mining Ltd gael ei ddedfrydu ar 10 Medi.

Pynciau cysylltiedig