Arestio pump ar amheuaeth o lofruddiaeth yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae pump o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i ddyn gael ei ganfod yn farw yng Nghasnewydd nos Iau.
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi cael eu galw i adroddiad o ymosodiad difrifol ar Ffordd Balfe toc wedi 21:00 ar ôl i ddyn 26 oed gael ei ganfod yn anymwybodol.
Wedi i'r gwasanaethau brys fynychu fe wnaeth y gwasanaeth ambiwlans gadarnhau bod y dyn wedi marw.
Mae'r dyn fu farw wedi ei enwi'n lleol fel Ryan O'Connor.
Dywedodd yr heddlu bod pump o bobl - tri dyn 18 ac 19 oed o Gaerdydd, a dau fachgen 17 oed o Gaerdydd a Chaerffili - wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth a'u bod yn parhau yn y ddalfa.
Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.
'Llawn cariad'
Dywedodd brawd Mr O'Connor Johnny: "Rydw i dal mewn sioc, dydy hwn ddim yn teimlo'n real."
"Roedd fy mrawd yn gallu clebran, ond roedd yn llawn cariad.
"Roedd pawb ar y stad yn ei nabod."

Mae pobl wedi gadael balwnau ger y safle ble fu farw Ryan O'Connor
Dywedodd Mr O'Connor bod yr holl flodau oedd wedi cael eu gadael yn dangos pa mor boblogaidd oedd ei frawd, yn ychwanegu: "Roedd e ond wedi mynd i'r siop neithiwr, ac wedyn digwyddodd hwn."
Gan ein gohebydd yng Nghasnewydd, David Grundy:

Daeth pobl ynghyd yng Nghasnewydd fore Gwener i gofio am y dyn fu farw
Drwy'r bore mae pobl wedi bod yn dod â blodau i Heol Balfe ar Stad Alway, Casnewydd.
Mae rhyw 40 o bobl wedi ymgynnull ger y safle ble cafodd corff y dyn ei ddarganfod neithiwr.
Mae'r heddlu yma gyda swyddogion yn archwilio'r gylchfan gyda blaenau eu bysedd.
Mae balŵns gwyrdd wedi'i gadael yna hefyd gyda negeseuon o gydymdeimlad i deulu'r gwr ifanc fu farw.