Caerdydd a thaith Capten Scott i Antarctica ar y Terra Nova
- Cyhoeddwyd
Mae hanes ymdrech fawr Capten Scott a'i griw i fod y cyntaf i gyrraedd Pegwn y De yn stori sy'n dal i danio'r dychymyg dros 100 mlynedd yn ddiweddarach - ac roedd gan Gaerdydd ran i'w chwarae yn y stori.
Heddiw mae effaith ein bywyd modern yn achosi i Antarctica ddadmer oherwydd cynhesu byd-eang ond yn 1910 doedd dim llawer ers i'r cyfandir rhewllyd gael ei ddarganfod; roedd hi'n oes yr anturiaethwyr a Scott yn un o nifer oedd eisiau'r bri o fod y cyntaf i osod baner ar y pegwn eithaf.
O borthladd Caerdydd, gyda glo Cymru yn ei chrombil a miloedd yn cymeradwyo o'r lan, yr hwyliodd y Terra Nova am 13:00 ar Fehefin 15, 1910, ar daith a arweiniodd yn y diwedd at dranc Scott a phedwar arall.
Café Terra Nova
I nodi 111 mlynedd ers yr achlysur mae sgwrs am yr hanes wedi ei threfnu gan Gwilym Roberts mewn caffi sydd wedi ei enwi ar ôl y llong, Caffi Terra Nova, ger Llyn y Rhath, Caerdydd, ddydd Mawrth, 15 Mehefin 2021.
"Mae pawb bron wedi clywed am y Capten Robert Falcon Scott a'r fordaith aflwyddiannus i Begwn y De," meddai Gwilym Roberts sy'n byw yn y brifddinas ac wedi ymddiddori yn yr hanes.
"Efallai nad Scott oedd y trefnydd mwyaf effeithiol i fod yn arweinydd y fenter - ond does dim amheuaeth am arwriaeth Capten Scott a'i gyd-forwyr fel anturiaethwyr mentrus."
Un o'r rheiny oedd y Cymro Edgar Evans o Rosili, Penrhyn Gŵyr.
Cafodd ei ddewis am ei fod yn forwr ac anturiwr cryf a phrofiadol oedd eisoes wedi hwylio gyda Scott ar ei daith flaenorol i Antarctica ar long y Discovery.
Oherwydd arwyddocâd Caerdydd i'r daith mae goleudy yn Llyn y Rhath er cof am Scott a'i griw.
Pam hwylio o Gaerdydd?
Y dirprwy i Scott oedd y swyddog morwrol Edward (Teddy) Evans oedd â chysylltiadau Cymreig ac a oedd hefyd wedi bod ar y Discovery gyda Scott.
Yn ddiweddarach dyrchafwyd Teddy Evans yn Admiral a'i wneud yn Arglwydd.
Fel Scott roedd yn benderfynol o roi cynnig ar gyrraedd Pegwn y De unwaith yn rhagor.
"Mae'n debygol bod taid Lieutenant E.R.G.R Evans (Teddy Evans) wedi ei eni yng Nghaerdydd ac roedd yn argyhoeddedig y byddai'r Cymry yn gefnogol i gasglu arian i noddi anturiaeth newydd dan ei arweiniad," meddai Gwilym Roberts.
"Roedd yn frwd ac yn egnïol a llwyddodd i argyhoeddi golygydd y Western Mail i'w gefnogi trwy roi cyhoeddusrwydd effeithiol iawn yn ei ymdrech i godi swm sylweddol o arian oedd yn angenrheidiol os oedd y fenter i lwyddo.
'The Welsh National Antarctic Expedition'
"Roedd Golygydd Y Western Mail yn awyddus i gefnogi a hyrwyddo The Welsh National Antarctic Expedition.
"Llwyddodd William Davies, Y Golygydd, i berswadio ei gyd-Gymro, David Lloyd George, oedd yn Ganghellor Y Trysorlys ar y pryd i ddarparu cymhorthdal o £20,000 gan y llywodraeth.
"Roedd Scott ar yr un pryd yn ymdrechu i gael cefnogaeth ariannol a'r adnoddau angenrheidiol yn Lloegr ar gyfer ei ail gynnig i gyrraedd Pegwn y De yn llwyddiannus y tro hyn.
"Ei brif nod oedd 'to reach the South Pole and to secure for the British Empire the honour of his achievement'. Roedd hefyd yn fwriad i gynnal ymchwil gwyddonol a daearyddol."
Yn y pen draw, fe ddaeth Scott a Teddy Evans â'u hymdrechion at ei gilydd ac unwyd eu hymgyrch.
Cytunwyd bod Teddy Evans yn dod yn ddirprwy arweinydd ar y fenter ac, oherwydd yr ymdrech i godi arian yng Nghymru, mai porthladd Caerdydd fyddai man cychwyn y daith.
Y nod ariannol
Treuliodd Teddy Evans lawer o'i amser yn 1909 yn cynnal darlithoedd a chyfarfodydd yng Nghaerdydd a'r cylch ac yn creu propaganda ar gyfer ariannu'r daith.
Llwyddodd i gael cyfraniadau sylweddol gan berchnogion llongau a diwydianwyr a chludiant a chyfleusterau yn rhad ac am ddim er mwyn angori'r Terra Nova yn nociau'r ddinas.
Un noddwr adnabyddus oedd James Howell, perchennog siop Howells, a roddodd faner y Ddraig Goch i'w chario ar fwrdd y llong.
Rhoddwyd yr offer coginio ar gyfer y gegin gan y Welsh Tin Plate Company o Lanelli.
Gwledda cyn hwylio
"Teddy Evans oedd yn gyfrifol am hwylio'r llong o Lundain i Gaerdydd ar Fehefin 1, 1910 a llwyddodd i lanio 12 awr yn gynt na'r disgwyl. Roedd cyrraedd mor gynnar yn syrpreis ac yn embaras i bwysigion y ddinas. Angorwyd y llong yn Noc y Rhath, Mehefin 10 a heidiodd miloedd o bobl yno er mwyn croesawu a gweld y Terra Nova," meddai Mr Roberts.
"Cynhaliwyd cinio ffarwelio ysblennydd ar Fehefin 13, ar gyfer Scott a'i brif swyddogion yn Y Royal Hotel yn Heol y Santes Fair, Caerdydd.
"Cyfanswm cyfraniad dinas Caerdydd ar ôl hynny oedd y swm rhyfeddol o £2,500. Roedd hyn yn fwy na chyfanswm unrhyw ddinas ym Mhrydain.
"Am un o'r gloch Mehefin 15fed, 1910 hwyliodd y Terra Nova o Doc y Rhath yng Nghaerdydd."
Cape Evans a siom wedi cyrraedd y pegwn
Cyrhaeddodd y criw le a enwyd yn Cape Evans yn Antartica ar ôl y llywiwr Teddy Evans a chodi caban pren a fyddai'n ganolfan i'r daith. Wedi mynd ymlaen i wersyll pellach, dewisodd Scott y pump aelod a fyddai'n parhau ar ran ola'r daith tuag at y pegwn.
Chafodd Teddy Evans mo'i ddewis ac ar y daith nôl at y prif wersyll aeth yn sâl iawn gyda sgyrfi; bu bron iddo farw ond achubwyd ei fywyd gan gyd-anturiaethwyr wnaeth ei lusgo nôl drwy'r eira.
Ond roedd y Cymro cydnerth Edgar Evans yn un o'r pump, ynghyd â Scott; y Swyddog Henry Robertson Bowers; Lawrence Oates a'r gwyddonydd Dr Edward Adrian Wilson.
Yn ei ddyddiaduron, disgrifiodd Scott Edgar Evans fel "cawr o weithiwr - ef sy'n gyfrifol am bob sled, y pebyll, y cydau-cysgu a phob harnes. A phan mae dyn yn methu cofio un problem gyda'r holl eitemau yma, mae'n dangos ei fod yn gynorthwy-ydd amhrisiadwy".
Cyrhaeddodd y cwmni o bump Begwn y De ar Ionawr 17, 1912, tua 20 mis ar ôl gadael Caerdydd.
"Y siom fawr oedd iddynt ddarganfod bod Roald Amundsen [yr anturiaethwr o Norwy] wedi cyrraedd yno fis yn gynt," esbonia Gwilym Roberts.
Y daith yn ôl
"Wrth iddynt geisio dychwelyd ar draws plateau y Pegwn a lawr Glacier Beardmore ac ymlaen ar draws y Great Ice Barrier tuag at McMurdo gan dynnu'r unig sled oedd ganddynt heb gymorth cŵn na cheffylau, fe gawsant dywydd erchyll.
"'Roeddent yn brin o fwyd maethlon a thanwydd ar gyfer y daith hunllefus yn ôl i'r porthladd."
Y Cymro Edgar Evans oedd y cyntaf i farw - o anafiadau, blinder a diffyg bwyd. Roedd yr ail i farw, Capten Oates yn dioddef o frath rhew drwg (frostbite) ac yn teimlo ei fod yn fwrn ar y lleill - cerddodd allan o'r babell i'r storm a ddaeth o byth yn ôl.
"Methodd Scott, Bowers a Wilson â chyrraedd y depo ble roedd cyflenwad o fwyd, diod a thanwydd i'w galluogi i barhau ar eu taith yn ôl i ddiogelwch y porthladd," meddai Gwilym.
"Wrth i Scott orwedd yn ei babell gan sylweddoli bod y tri ohonynt oedd yn weddill yn wynebu marwolaeth er bod cyflenwad o fwyd, diod a hylif mewn stordy dim ond 11 milltir i ffwrdd fe gofnododd yn ei ddyddiadur 'A Message to the Public':
"'Had we lived, I should have had a tale to tell of the hardihood, endurance and courage of my companions which would have stirred the heart of every Englishman. These rough notes and our dead bodies tell the tale…'"
Gosodwyd croes uwchben McMurdo Sound er cof am Scott a'i gyd-anturwyr gyda geiriau'r bardd Tennyson wedi eu hargraffu arni: To strive, to seek, to find and not to yield.
Daeth Teddy Evans nôl i Brydain gyda'r Terra Nova a laniodd nôl yn Noc y Rhath, Caerdydd, ar 14 Mehefin 1913. Cafodd yrfa yn y Llynges gan wasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r ail; bu farw yn 1957 yn 76 mlwydd oed.
Hefyd o ddiddordeb: