'Adolygiad fforensig' yn achos marwolaeth dyn o Fôn
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Met yn Llundain wedi cadarnhau eu bod yn edrych eto ar dystiolaeth fforensig yn ymwneud â marwolaeth Gareth Williams yn 2010.
Roedd Mr Williams, oedd yn wreiddiol o'r Fali ar Ynys Môn, yn gweithio i wasanaeth cudd-wybodaeth GCHQ. Cafodd ei gorff ei ddarganfod gan heddlu mewn bag yn ei fflat yn Pimlico, Llundain.
Yn 2012 fe wnaeth y crwner Fiona Wilcox gofnodi bod ei farwolaeth yn "annaturiol ac yn debygol o fod wedi bod yn ganlyniad i drosedd".
Y flwyddyn ganlynol fodd bynnag, daeth ymchwiliad gan yr heddlu i ben gyda ditectifs yn dweud eu bod yn credu bod y farwolaeth mwy na thebyg yn ddamweiniol.
Yn gynharach eleni fe wnaeth y Sunday Times adrodd ei bod yn bosibl y byddai'r dechnoleg DNA ddiweddaraf yn arwain at astudiaeth bellach o un blewyn a ganfuwyd yn y fflat.
Yn dilyn ei farwolaeth, roedd gwyddonwyr wedi methu cael proffil DNA llawn o rai o'r samplau ganfuwyd yn y fflat.
Ail archwiliad
Ym mis Chwefror eleni, dywedodd Heddlu'r Met y bydden nhw'n "adolygu'r wybodaeth" ond nad oedd astudiaeth fforensig lawn wedi ei chomisiynu.
Ond nawr mae llefarydd wedi cadarnhau bod ail archwiliad yn digwydd, a bod ditectifs yn disgwyl am y canlyniadau.
Dywedodd llefarydd: "Mae proses adolygu sefydliedig ar gyfer ymchwiliadau lle mae gwybodaeth neu gyfleoedd fforensig yn cael eu hystyried.
"Mae'r Met yn cynnal adolygiad fforensig i asesu a oes cyfleoedd pellach i ymchwilio yn yr achos yma, ac rydym yn disgwyl y canlyniadau.
"Rydym yn parhau mewn cysylltiad agos gyda theulu Gareth i sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth lawn."
Yn 2013, dywedodd teulu Mr Williams eu bod yn cytuno gyda chanlyniad y crwner, a bod ei sylwadau hi "wedi adlewyrchu'r amgylchiadau yn gywir".
Wedi ei farwolaeth, roedd cryn ddyfalu ar y cyfryngau y gallai fod yn gysylltiedig mewn rhyw ffordd gyda'r gwaith cudd-wybodaeth cyfrinachol oedd ganddo.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2012
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2012