'Lladd anghyfreithlon' yn debygol

  • Cyhoeddwyd
Gareth WilliamsFfynhonnell y llun, Metropolitan Police
Disgrifiad o’r llun,

Fe barodd ymchwiliad yr heddlu i farwolaeth Gareth Williams am 21 mis

Mae crwner cwest i farwolaeth ysbïwr wedi dweud: "Rwy'n argyhoeddiedig mai'r tebygolrwydd yw bod Gareth wedi cael ei ladd yn anghyfreithlon."

Wrth gyhoeddi rheithfarn naratif, dywedodd Dr Fiona Wilcox ei bod yn "annhebygol y bydd eglurhad derbyniol" am farwolaeth Gareth Williams, yn wreiddiol o Ynys Môn.

Dywedodd fod "y rhan fwyaf o'r cwestiynau mwyaf sylfaenol mewn perthynas â sut y bu farw Gareth Williams" yn dal heb eu hateb wedi ymchwiliad 21 mis a chwest saith niwrnod.

Bydd teulu Mr Williams yn gofyn i Gomisiynydd yr Heddlu Metropolitan i ailystyried ac adolygu sut y bydd yr ymchwiliad yn datblygu "yng ngoleuni annigonolrwydd ymchwiliad SO15 i MI6 yn ystod yr ymchwiliad gwreiddiol."

Beirniadodd y crwner y modd y cafodd ffôn symudol ei gymryd o'r fflat lle canfuwyd corff Mr Williams ym mis Awst 2010.

Roedd lluniau ohono yn noeth wedi cael eu tynnu oddi ar y ffôn.

Er bod yr ymchwiliad wedi dechrau bryd hynny, doedd dim rhestr o gynnwys yr eitemau oedd dan reolaeth MI6 wedi ei chreu tan fis Medi 2011 - dros flwyddyn wedi'r farwolaeth.

'Dim tystiolaeth'

Ar ddechrau ei datganiad, dywedodd Dr Wilcox ei bod "yn bwysig iawn" peidio â cheisio dyfalu beth oedd achos y farwolaeth.

Ond mewn rhan arall o'i datganiad dywedodd nad oedd tystiolaeth fod Mr Williams wedi marw drwy law MI6 ond bod hynny'n dal yn "drywydd dilys" i'r ymchwiliad.

Cafwyd hyd i gorff Mr Williams, oedd yn wreiddiol o Ynys Môn, mewn bag chwaraeon oedd wedi ei gloi yn y bath yn ei fflat yn Pimlico, Llundain, ar Awst 23, 2010.

Fe gostiodd ymchwiliad yr heddlu filiynau o bunnoedd ond hyd yma mae wedi methu â datrys sawl dirgelwch.

Er bod tri phatholegydd yn dweud mai gwenwyno neu fygu oedd achosion mwyaf tebygol ei farwolaeth, doedd yr un ohonyn nhw yn medru dweud i sicrwydd beth oedd yr union achos.

Dywedodd arbenigwyr ar fagiau wrth y cwest y byddai Harry Houdini wedi cael trafferth fawr cloi ei hun i mewn i'r bag ac mae teulu Mr Williams wedi awgrymu mai "celfyddyd dywyll y gwasanaethau cudd" oedd y tu ôl i'w farwolaeth.

Ychwanegodd y crwner ei bod yn credu ei bod yn "annhebygol dros ben" fod Mr Williams wedi mynd i mewn i'r bag ar ei ben ei hun.

"Petai Gareth yn cynnal rhyw fath o arbrawf rhyfedd, fyddai dim ots ganddo petai'n gadael olion bysedd neu draed," meddai.

Roedd diffyg olion o'r fath yn "arwyddocaol," meddai.

Dywedodd Dr Wilcox nad oedd cysylltiad rhwng arfer Mr Williams o edrych ar wefannau rhyw caethiwed a'i farwolaeth ac roedd yn amheus o adroddiadau o'r fath am ei fywyd preifat a gafodd eu rhyddhau i'r wasg.

"Tybed oedd hyn yn ymgais gan rywun arall i gam-drin y dystiolaeth?" gofynnodd.

Cyfrinachedd

Ond dyw'r heddlu ddim wedi canfod tystiolaeth fod person arall yn bresennol yn y fflat ac nid ydyn nhw'n amau unrhyw un mewn perthynas â'r ymchwiliad.

Roedd cyfrinachedd swydd Mr Williams yn golygu nad oedd yr heddlu yn medru holi cydweithwyr yn MI6 yn uniongyrchol.

Dywedodd y crwner fod y ffaith hon wedi "effeithio ar safon y dystiolaeth a roddwyd yn y llys hwn."

Wrth grynhoi, dywedodd bod nifer o asiantaethau wedi methu yn ystod yr ymchwiliad.

Cyfeiriodd at ddiffyg cyfathrebu o fewn ei swyddfa ei hun wrth orchymyn ail archwiliad post mortem, cymysgwch DNA gan swyddogion fforensig a chyflwyno tystiolaeth yn hwyr i'r heddlu gan MI6.

'Dibynadwy'

Ond dywedodd: "O ystyried y ffaeleddau yma gyda'i gilydd, rwy'n hapus bod y dystiolaeth yn ddibynadwy ac nad oedd rhaid i mi ohirio'r cwest."

Yn y cyfamser, dywedodd Scotland Yard eu bod am adolygu pob trywydd o'r ymchwiliad, gan droi eu sylw o'r newydd at gydweithwyr Mr Williams.

Y Ditectif Brif Arolygydd Jackie Sebire arweiniodd ymchwiliad Heddlu Llundain.

"Yn amlwg, mae llawer o wybodaeth ddaeth gerbron y cwest nad oedd wedi dod i'n sylw ni," meddai.

"Fy nghred bendant i yw bod person arall ynghlwm wrth y mater a byddwn yn gofyn i bobl chwilio'u cydwybod a dod atom er mwyn ceisio canfod atebion i'r achos yma a chynnig rhywfaint o lonyddwch i'r teulu."

'Yn gwaethygu'

Ar ddiwedd y cwest darllenodd cyfreithiwr teulu Mr Williams, Robyn Williams, ddatganiad ar eu rhan.

"Mae colli mab a brawd ar unrhyw adeg yn drasiedi," meddai'r datganiad.

"Mae colli mab a brawd mewn amgylchiadau gafodd eu hamlinellu yn ystod y cwest ond yn gwaethygu'r drasiedi.

"Fe wnaed ein galar yn waeth oherwydd methiant ei gyflogwyr yn MI6 i wneud ymholiadau sylfaenol am ei iechyd a'i leoliad - rhywbeth y byddai unrhyw gyflogwr rhesymol wedi ei wneud."

Dywedodd y datganiad eu bod yn siomedig iawn oherwydd amharodrwydd a methiant MI6 i sicrhau bod gwybodaeth berthnasol ar gael.

"Byddwn yn gofyn i Gomisiynydd yr Heddlu Metropolitan, Bernard Hogan-Howe, i ailystyried ac adolygu sut y bydd yr ymchwiliad yn symud ymlaen yng ngoleuni annigonolrwydd ymchwiliad SO15 i MI6 yn ystod yr ymchwiliad gwreiddiol."

Cyfeiriodd y teulu at sut yr oedden nhw'n teimlo wrth ei golli bob dydd, gan ychwanegu: "Rydym yn dy garu di, Gareth, ac yn trysori dy atgof am byth.

"Nid marw yw byw yng nghalonnau'r rhai sydd yn ei garu." Gofynnodd y teulu am gael llonydd i alaru'n breifat.