Ymchwilio i dân yng Nghlarach ger Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
clarach

Mae dynes wedi ei chludo mewn hofrennydd i'r ysbyty wedi tân mewn tŷ yng Nghlarach ger Aberystwyth.

Mae plismyn a'r gwasanaeth tân yn ymchwilio i'r digwyddiad ar hyn o bryd er mwyn canfod yr union achos.

Deallir bod y ddynes yn dioddef o losgiadau.

Dywed Gwasanaeth Achub Tân y Canolbarth a Gorllewin Cymru bod y ddynes wedi cael ei hedfan i'r ysbyty.

Pynciau cysylltiedig