Arestio dyn ar amheuaeth o geisio llofruddio yn Aberdâr
- Cyhoeddwyd
Mae pum person wedi cael eu harestio - un ar amheuaeth o geisio llofruddio - yn dilyn adroddiadau o drywanu yn Rhondda Cynon Taf nos Sadwrn.
Bu'n rhaid cludo tri dyn, oll yn 23 oed, i'r ysbyty yn dilyn y digwyddiad yn Heol Whitcombe, Aberdâr.
Roedd yna gred yn wreiddiol bod un o'r tri wedi cael anafiadau oedd yn peryglu ei fywyd ond nid dyna'r achos erbyn hyn, yn ôl Heddlu De Cymru.
Mae'r ddau ddyn arall bellach wedi gadael yr ysbyty ond mae'r tri chlaf wedi eu harestio ar amheuaeth o anhrefn dreisgar.
Cafodd dyn 19 oed ei arestio nos Sadwrn ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi i'r heddlu gael eu galw i Heol Whitcombe tua 20:25.
Cafodd ail ddyn 19 oed ei arestio ar amheuaeth o fod mewn ffrwgwd ac achosi niwed corfforol difrifol.
Mae'r ddau, a'r ddau ddyn fu yn yr ysbyty, yn cael eu holi yn y ddalfa.
'Pryder naturiol i'r gymuned'
"Bydd yr hyn a ddigwyddodd neithiwr yn naturiol yn achosi pryder i'r gymuned ond mae pum dyn oedd yn rhan ohono oll wedi cael eu harestio," meddai'r Ditectif Arolygydd Matt Hicks.
"Mae ein swyddogion yn parhau yn safle'r digwyddiad a byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i fynd atyn nhw a rhannu unrhyw beth all helpu ein hymchwiliad."
Mae'r llu hefyd wedi apelio am luniau fideo o'r digwyddiad.