Cefn y rhwyd
- Cyhoeddwyd
Rwy'n un o'r bobl hynny sydd â rhiw faint o ddiddordeb mewn chwaraeon heb fynd yn benwan am y peth ac, wrth gwrs, rwy'n cefnogi Cymru beth bynnag yw'r gamp boed hi'n ffwtbol neu'n tidliwincs!
Efallai nad ydym weithiau yn sylweddoli pa mor ganolog yw chwaraeon i'n hymwybyddiaeth genedlaethol a pha mor rhyfedd yw hi fod gennym dimau cenedlaethol o gwbl.
Wedi'r cyfan, pan sefydlwyd y Gymdeithas Bêl-droed a'r Undeb Rygbi yn chwarter olaf y 19eg ganrif, prin oedd y sefydliadau cenedlaethol Cymreig.
Yn wir, ac eithrio'r Eisteddfod, yr enwadau anghydffurfiol ac ambell i gatrawd filwrol, mae'n anodd meddwl am unrhyw gorff oedd yn ystyried ei hun yn un cenedlaethol Cymreig.
Roedd hwn yn gyfnod lle'r oedd sawl un yn ystyried Cymru nid yn unig fel rhan o Brydain Fawr a'r Deyrnas Unedig ond yn rhan o Loegr hefyd. Ymddengys mai dyna oedd barn ein cricedwyr o leiaf!
Ond nid rhiw egin genedlaetholdeb wnaeth arwain at sefydlu'r Gymdeithas na'r Undeb ond rhywbeth llawer mwy syml, sef yn agen i lwyfannu gemau atyniadol a fyddai'n denu torfeydd.
Roedd 'na hefyd obaith y byddai arddel bathodyn Cymreig yn fodd i ledu'r ddwy gamp o'u cadarnleoedd, y gogledd-ddwyrain yn achos pêl-droed a'r de diwydiannol yn achos rygbi.
Er cymaint y gwladgarwch ar y cae ac yn yr eisteddleoedd, ar y cyfan sefydliadau Prydeinig eu hanian oedd y Gymdeithas a'r Undeb tan yn gymharol ddiweddar.
Oedd, roedd yr anthem yn cael ei chanu cyn y gêm ond prin oedd y Gymraeg yn y rhaglenni ac ar yr uchelseinyddion ac roedd 'na groeso bob tro i fandiau milwrol ac aelodau o'r teulu brenhinol.
Mae hynny wedi newid yn y ganrif hon gyda'r Gymdeithas Bêl-droed yn fwyaf arbennig yn arddel ei Chymreictod ac yn llusgo'r Undeb Rygbi i'r un cyfeiriad.
Mae'n hawdd bod yn sinigaidd ynghylch y peth. Ar un lefel arf farchnata yw penderfyniadau fel hyn i arddel yn enw Cymru yn hytrach na Wales i'r tîm pêl-droed, ond mae pethau felly'n gallu cael effeithiau pur sylfaenol ar hunaniaeth unigolion a chymunedau.
Dyw hi ddim yn rhyfedd efallai ei bod hi anodd synhwyro weithiau lle mae'r ffin rhwng cefnogi Cymru ar y cae ffwtbol a Yes Cymru ar y strydoedd tu fas.