Cynlluniau newid hinsawdd Cymru 'ddim yn ddigonol'

  • Cyhoeddwyd
Fairbourne, Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Fairbourne yn cael ei adael i'r môr o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd

Bydd bywydau a bywoliaethau mewn perygl os na fydd Cymru yn gwneud mwy i baratoi ar gyfer dyfodol poethach a gwlypach, yn ôl arbenigwyr.

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd (CCC) yn rhybuddio na fydd cynlluniau sy'n bodoli ar hyn o bryd i amddiffyn pobl, seilwaith a bywyd gwyllt "yn ddigonol".

Mae hyn er gwaethaf rhybuddion cyson mewn cyfres o adroddiadau gan y corff annibynnol ers 2011.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "croesawu adroddiadau manwl a helaeth" y pwyllgor.

O'r 61 o risgiau a nodwyd gan y CCC yn ei asesiad diweddaraf o'r effaith y mae newid hinsawdd yn ei gael ar y DU, mae angen "mwy o weithredu" yng Nghymru i fynd i'r afael â 32 ohonynt.

Mae 26 o risgiau wedi cynyddu lefel difrifoldeb ers yr adroddiad diwethaf yn 2016.

Maen nhw'n cynnwys bygythiadau i hyfywedd cymunedau arfordirol yn sgil codiad yn lefel y môr, llifogydd ac erydu, iechyd pobl oherwydd bod eu cartrefi yn gorboethi, ffyrdd a rheilffyrdd yn sgil tywydd eithafol a mellt, a bywyd gwyllt ar draws tir a môr.

Sut mae'r hinsawdd eisoes yn newid yng Nghymru?

Mae'n cynhesu yma ac mae'n fwy heulog - ond yn wlypach ac yn fwy gwyllt hefyd.

Ers canol y 1970au mae Cymru wedi gweld cynnydd mewn tymereddau blynyddol cyfartalog o 0.9°C, gyda chynnydd o 6.1% yn oriau heulwen ar gyfartaledd.

Mae'r adroddiad yn rhagweld cynnydd rhwng 1.3°C a 2.3°C mewn tymereddau blynyddol yma erbyn yr 2080au, yn dibynnu ar ba mor llwyddiannus yw'r byd o ran torri'r nwyon sy'n achosi newid hinsawdd.

Mae'n golygu hafau poethach a sychach gyda chyfnodau poeth mwy eithafol - rhywbeth rydyn ni eisoes yn dechrau ei brofi.

Disgwylir i lawiad ostwng oddeutu 15% yn yr haf erbyn yr 2050au a hyd at 26% erbyn yr 2080au - gan arwain at gyfnodau o sychder posib.

Mewn cyferbyniad - rydym yn debygol o gael gaeafau gwlypach o lawer, gan waethygu problemau llifogydd.

Mae lefelau'r môr hefyd yn codi - gyda rhagfynegiadau yn yr adroddiad y nodi y gallent fod rhwng 22 a 28cm yn uwch yng Nghaerdydd erbyn yr 2050au a rhwng 43 a 76cm erbyn yr 2080au - unwaith eto yn dibynnu ar ymdrechion byd-eang i dorri allyriadau.

Beth yw'r peryglon?

Gallai tarfu ar drafnidiaeth a seilwaith technoleg gwybodaeth o ganlyniad i dymereddau cyfnewidiol, tanau gwyllt a llifogydd effeithio o bosibl ar "gannoedd o filoedd o bobl yn flynyddol".

Mae'r adroddiad yn rhybuddio am y nifer o beryglon os yw cyflenwadau ynni yn cael eu heffeithio hefyd, o ystyried y bydd Cymru fel gweddill y DU yn ddibynnol iawn ar drydan ar gyfer popeth o wresogi i drafnidiaeth.

Gallai marwolaethau sy'n gysylltiedig â gwres yng Nghymru gynyddu o 2.4 fesul 100,000 o bobl y flwyddyn yn 2016 i 6.5 fesul 100,000 erbyn yr 2050au - mwy na dyblu'r risg.

Yn ôl yr adroddiad, mae mesurau i atal gorboethi yng nghartrefi pobl yn "fwlch polisi mawr" ar draws holl genhedloedd y DU.

Ffynhonnell y llun, PA

O ran codiad yn lefel y môr, nid oes "llawer o dystiolaeth" bod Llywodraeth Cymru nag awdurdodau lleol yn defnyddio dull strategol o nodi cymunedau a allai fod mewn perygl o golli cartrefi neu adnoddau, a'u cefnogi.

Er hyn, mae'r adroddiad yn cyfeirio at Fairbourne yng Ngwynedd fel enghraifft i weddill y DU lle mae cynllun yn cael ei roi ar waith gyda'r gymuned.

Mae ychydig dros 10,000 o eiddo mewn perygl o lifogydd arfordirol yng Nghymru ar hyn o bryd, gallai hyn gynyddu 260% erbyn yr 2080au - tra bod 2126 eiddo yn debygol o fod mewn perygl o erydiad arfordirol lle na chynhelir amddiffynfeydd.

Ar hyn o bryd mae 148,000 o bobl yn byw mewn ardaloedd lle mae risg sylweddol o lifogydd o afonydd, y môr a dŵr wyneb.

Wrth gydnabod bod "datblygiadau sylweddol" wedi'u gwneud o ran rheoli risg llifogydd ers ei adroddiad diwethaf yn 2016, daeth y CCC i'r casgliad bod angen mwy o weithredu o ystyried maint y bygythiad - gan gynnwys mynd i'r afael â datblygiad parhaus ar orlifdiroedd.

Yn yr un modd - mae'r problemau a allai gael eu hachosi gan dirlithriadau ac ymsuddiant mewn cyn ardaloedd mwyngloddio yn bryder arbennig i gymunedau Cymru, meddai.

Yn y cyfamser, mae angen "gweithredu ar frys" hefyd i wella gwyliadwriaeth o glefyd coed yng Nghymru, a chredir bod newid yn yr hinsawdd yn cyfrannu at gynnydd yn lledaeniad plâu a phathogenau clefyd coed ynn (Ash Dieback).

Gallem wynebu problemau mawr os caniateir i goed, mawndiroedd a chynefinoedd naturiol eraill ddioddef gan eu bod yn ffordd hanfodol o amsugno carbon deuocsid, ac osgoi effeithiau gwaeth fyth o gynhesu byd-eang.

Beth yw'r ymateb?

"Rydyn ni'n gweld hinsawdd yn newid nawr, nid yw'n fater i'r dyfodol mwyach," eglura Kathryn Brown, pennaeth addasu'r CCC.

"Mae bron i hanner y risgiau i Gymru wedi cynyddu o ran lefel y brys ers yr asesiad diwethaf ac mae hynny'n golygu y bydd angen mwy o addasu yn ychwanegol at yr hyn sydd eisoes yn digwydd."

"Bydd angen i Lywodraeth Cymru edrych ar yr holl risgiau a meddwl yn ofalus am sut i wella ei pholisïau ond hefyd cymryd camau brys yn y ddwy flynedd nesaf yn y meysydd blaenoriaeth (rydym wedi'u nodi)".

Dywedodd yr Athro Andrew Flynn sy'n arbenigo ar addasu hinsawdd yn ysgol daearyddiaeth a chynllunio Prifysgol Caerdydd ei fod yn fater sydd bob amser "yn tueddu i gael ei adael ar ôl".

"Mae cymaint o'r ffocws ar sut allwn ni leihau'r allyriadau carbon hynny - sy'n amlwg yn hynod bwysig."

"Ond mae addasu i newid yn yr hinsawdd yr un mor deilwng o sylw, ac mae'n bwysig iawn i bobl yn y cymunedau lle maen nhw'n byw," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Julie James ei phenodi'n weinidog newid hinsawdd wedi etholiad Senedd Cymru ym mis Mai

Dywedodd fod gan Lywodraeth Cymru draddodiad o fod yn "arloesol" ar yr amgylchedd a chynaliadwyedd a olygai fod ganddi "sylfaen dda i adeiladu arni".

Dylai meddwl am sut y dywedir wrth gymunedau am y bygythiadau a'r cyfleoedd y gallai newid yn yr hinsawdd eu cynnig yn eu hardaloedd, ac ymgynghori â hwy, fod yn un flaenoriaeth, dadleuodd.

"Nid mater o ddatblygu polisïau newydd yn unig yw hyn - mae'n ymwneud â chydnabod maint yr her sy'n ein hwynebu."

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud?

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: "Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r adroddiadau manwl a helaeth hyn gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, gyda'r amgylchedd a newid yn yr hinsawdd wrth wraidd ein penderfyniadau.

"Er mwyn helpu i gyfyngu ar newid yn yr hinsawdd ymhellach rhaid gwneud dwywaith gymaint yn y 10 mlynedd nesaf nag yn y 30 mlynedd diwethaf.

"Mae ein cynllun addasu presennol, Cymru sy'n Effro i'r Hinsawdd, dolen allanol, eisoes yn ei ail flwyddyn o gyflenwi - bydd y Pwyllgor Addasu yn ein galluogi i adolygu a diweddaru ein gweithredoedd yng ngoleuni'r wyddoniaeth ddiweddaraf."

Pynciau cysylltiedig