Euro 2020: Cymru 2-0 Twrci
- Cyhoeddwyd
Mae gan Gymru un droed yn rownd nesaf Euro 2020 ar ôl buddugoliaeth gampus o 2-0 yn erbyn Twrci yn Baku.
Sgoriodd Aaron Ramsey - seren y gêm - cyn hanner amser i roi tîm Robert Page ar y blaen.
Methodd Gareth Bale gyda chic o'r smotyn ar ôl awr o chwarae i egnïo'r Twrciaid, a oedd yn siomedig ar y cyfan.
Ond fe lwyddodd Cymru i ddal eu gafael ac fe sgoriodd Connor Roberts o bawb i selio'r fuddugoliaeth yn yr eiliadau olaf.
Bydd Cymru'n herio'r Eidal yn Rhufain ddydd Sul, ond maen nhw mewn safle da i fynd drwodd i'r rownd 16 olaf gyda phedwar pwynt ar ôl dwy gêm.
Page yn dangos ffydd yn yr 11
Dewisodd y rheolwr Rob Page yr un tîm am yr ail gêm yn olynol, ac fe gafodd ei wobrwyo gyda Chymru'n rheoli'r rhan fwyaf o'r chwarae yn yr hanner cyntaf.
Dechreuodd Cymru'n gryf, gyda chyfle cynnar i Aaron Ramsey ar ôl pas drwodd gan Bale, ond fe arbediodd gôl-geidwad Twrci, Ugurcan Çakir, gyda'i draed.
Yna fe beniodd Kieffer Moore - arwr y gêm agoriadol yn erbyn Y Swistir - dros y trawst ar ôl croesiad gan Dan James, a oedd yn achosi problemau lu i amddiffyn y Twrciaid.
Gydag ychydig dros 20 munud ar y cloc, daeth cyfle gwell fyth i Ramsey.
Pas gelfydd eto gan Bale yn canfod chwaraewr canol cae Cymru mewn llwyth o le, ond cyn-gapten Cymru'n rhuthro'r ergyd ymhell dros y trawst.
Ond fe drodd rhwystredigaeth yn orfoledd gydag ychydig funudau i fynd cyn yr hanner.
Unwaith eto, pas gan Bale i Ramsey, a oedd wedi rhedeg o ddyfnder.
Fe gymerodd yntau'r bêl ar ei frest a llithro'r bêl heibio i'r gôl-geidwad i roi Cymru'n haeddiannol ar y blaen.
Roedd 35,000 o gefnogwyr yn y stadiwm - y mwyafrif llethol o'r rheiny yn gefnogwyr Twrci, a dim ond ychydig gannoedd o Gymry.
Ond fe lwyddodd Ramsey i dawelu'r dorf, gyda'i 17eg gôl dros ei wlad - gan fynd ag o heibio i Rob Earnshaw, Cliff Jones a Mark Hughes ar restr prif sgorwyr Cymru.
Roedd yn ddylanwadol drwy gydol yr hanner cyntaf - fe gafodd fwy o gyffyrddiadau (41) nag unrhyw chwaraewr arall ar y cae.
Ond roedd calonnau'r Cymru yn eu gyddfau yn fuan yn yr ail hanner.
Gyda 54 munud ar y cloc, fe saethodd Burak Yilmaz - capten a chwaraewr mwyaf dylanwadol Twrci - ei foli ymhell dros y trawst o bum llath.
Daeth cyfle gorau Cymru i ddyblu eu mantais ar yr awr ar ôl i rediad nerthol gan Bale orfodi amddiffynnwr Twrci i'w faglu yn y cwrt cosbi - cic o'r smotyn.
Fe gamodd Bale - prif sgoriwr hanes pêl-droed Cymru - i fyny ond fe aeth ei gic, i anghrediniaeth pawb oedd yn gwylio, ymhell dros y trawst.
Ond fe sgoriodd Connor Roberts yn yr eiliadau olaf i selio'r fuddugoliaeth a rhoi Cymru ar frig Grŵp A.
Bydd golygon y garfan nawr yn troi at Rufain, a bydd cyfle i orffen ar frig y grŵp dim ots beth fydd y canlyniad rhwng Yr Eidal a'r Swistir nos Fercher.
Ond gyda phedwar pwynt eisoes, mae Cymru bron yn sicr o'u lle yn rownd yr 16 olaf yn barod.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2021