Arestio dyn wedi marwolaeth beiciwr modur

  • Cyhoeddwyd
accident

Mae gyrrwr lori 54 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus, wedi i feiciwr modur gael ei ladd mewn gwrthdrawiad.

Cadarnhaodd Heddlu'r De bod gyrrwr y beic modur wedi marw yn dilyn y digwyddiad ar yr A48 ger Stormy Down, Penybont ar-Ogwr, o gwmpas 06:00 .

Bu'r lôn ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng cylchfannau Porthcawl a'r Pîl, ond mae hi bellach wedi ailagor.

Nid yw enw'r beiciwr modur wedi cael ei gyhoeddi hyd yma.