Beirniadu 'arafwch' amserlen Deddf Aer Glân

  • Cyhoeddwyd
Llygredd aerFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae clymblaid o elusennau wedi gofyn i'r prif weinidog "gyflymu'r gwaith ar Ddeddf Aer Glân Cymru", gan alw am ddyddiad penodol i gyflwyno deddfwriaeth newydd.

Ddydd Mawrth wrth amlinellu ei raglen ddeddfwriaethol ar gyfer y pum mlynedd nesaf dywedodd Mark Drakeford fod gwella ansawdd aer yn un o brif gynlluniau ei lywodraeth er mwyn adeiladu Cymru "mwy teg" a "mwy gwyrdd".

Mae'r glymblaid, Awyr Iach Cymru, hefyd wedi ei anfon llythyr at Julie James y Gweinidog Newid Hinsawdd yn beirniadu'r amserlen bresennol fel un "llawer rhy araf."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymroi i sicrhau aer glân yng Nghymru.

Mae'r grŵp yn cynnwys elusennau Cyfeillion y Ddaear Cymru, Sustrans Cymru, Living Streets Cymru a Ramblers Cymru.

Yn yr etholiad, ymrwymodd Llafur Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, a Phlaid Cymru i gyd i alwad Awyr Iach Cymru i gyflawni Deddf Aer Glân.

Dywed Awyr Iach Cymru eu bod am i'r llywodraeth "gyflwyno map ar gyfer Bil Aer Glân (Cymru) a gosod dyddiad yn y flwyddyn seneddol gyntaf hon ar gyfer pryd y caiff ei chyflwyno i'r Senedd".

'Gosod targedau'

Dywedodd Joseph Carter, Cadeirydd Awyr Iach Cymru a Phennaeth Asthma UK a British Lung Foundation Cymru: "Mae llygredd aer yn niweidio ein hysgyfaint yn ddifrifol ac mae'n peryglu ein hiechyd.

"Mae'r lladdwr distaw hwn yn yr awyr rydym yn ei anadlu - ar y ffordd i'r gwaith, yr ysgol, ac wrth i ni fynd o gwmpas bywyd bob dydd - mewn lefelau sy'n llawer uwch na therfynau Sefydliad Iechyd y Byd.

"Os byddwn yn bwrw ymlaen ar y cyflymder presennol, gallai fod mor hwyr â 2024 cyn i unrhyw ddeddfwriaeth gael ei phasio a thymor arall cyn i'r rheoliadau ddod i rym."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymroi i sicrhau aer glân yng Nghymru.

"Rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd gosod targedau yn ein deddfwriaeth mor fuan â phosib a byddwn yn defnyddio'r broses o gasglu tystiolaeth er mwyn gwneud y gwaith yma."

Pynciau cysylltiedig