Targedau ffosffad yn codi gwrychyn adeiladwyr
- Cyhoeddwyd
Mae pob cais cynllunio ar stop mewn rhannau o Gymru wedi i dargedau newydd gael eu cyflwyno "yn ddirybudd" ar gyfer llygredd afonydd.
Ym mis Ionawr eleni, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru dargedau newydd am lefelau derbyniol o ffosffadau mewn afonydd a llynnoedd mewn ardaloedd cadwraeth arbennig.
Methodd dros 60% o'r afonydd a llynnoedd yn yr ardaloedd hynny y targedau; Afon Wysg, Afon Gwy, Afon Cleddau a gwaelodion afonydd Teifi a Dyfrdwy.
Mwynau naturiol yw ffosffadau y gellir eu canfod mewn carthion dynol a charthion anifeiliaid.
Rhwystredigaeth am y targedau
Pan fod lefelau uchel mewn afonydd a llynnoedd, maen nhw'n annog algae i dyfu yn gyflym, gan gymryd ocsigen o'r dŵr.
Mae'r lefelau uchel yn peryglu bywyd gwyllt.
Ond mae adeiladwyr a datblygwyr ar hyd a lled Cymru wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C eu bod nhw'n rhwystredig ac yn siomedig gyda'r targedau newydd.
Mae hyn, medden nhw, yn rhwystro unrhyw waith adeiladu newydd o gwbl yn yr ardaloedd dan sylw.
Yng Ngheredigion, mae'r adeiladwr Dylan Thomas yn un sy'n dweud ei fod yn dioddef.
Prynodd hen safle Ysgol Dyffryn Teifi gyda'r bwriad o godi 12 o dai, ond gyda thai newydd yn golygu mwy o wastraff i'r system garthffosiaeth, mae'r datblygiad ar stop.
"Mae 'da ni fois ni'n cyflogi, dau neu dri boi ac roedd gwaith 'da ni iddyn nhw, a sawl un arall oedd yn mynd i ddod i weithio yma," meddai Mr Thomas.
"Mae gyda ni ddau gwsmer lleol, bois lleol sydd wedi edrych ar y lleiniau o dir a'r cynlluniau ac maen nhw mo'yn prynu tŷ.
"Ond ar y foment ni gyd ar stop a dy'n ni ddim yn gwybod pryd byddwn ni'n gallu ailddechrau."
45 cais ar stop
Drwy Geredigion, mae 45 o geisiadau cynllunio yn sefyll yn eu hunfan oherwydd y targedau.
Mae'r rheiny yn cynnwys 47 o anheddau a 22 cais at ddibenion eraill.
Dywedodd yr Aelod Seneddol lleol, Ben Lake ei bod yn bwysig nad oes yn oedi diangen i gynlluniau datblygu.
"Mae'r 'log jam' yma wedi parhau ers tua mis Chwefror, mis Mawrth eleni, ac fel gallwch chi ddychmygu mae hynny'n golygu tipyn o geisiadau cynllunio, ac mewn ardal wledig fel Ceredigion mae'r effaith mae hynny'n cael ar geisiadau cynllunio ar gyfer cartrefi yn enwedig o bwysig gan ein bod ni yn wynebu argyfwng tai ar hyn o bryd," meddai.
"Felly dy'n ni ddim mo'yn gweld y ceisiadau yma yn cael eu dileu heb fod angen."
Dywed Llywodraeth Cymru, tra'u bod nhw'n blaenoriaethu codi tai fforddiadwy, bod llygredd ffosffadau yn peryglu cenedlaethau'r dyfodol a bod yn rhaid felly sicrhau nad yw iechyd afonydd yn cael ei beryglu.
Mae'r cyfreithiwr Rhys Evans o Gasnewydd yn galw am ddatrysiad, gan gyhuddo Cyfoeth Naturiol Cymru o beidio â bod yn ddigon eglur yn y cyngor maen nhw'n ei ddarparu i awdurdodau lleol.
Ychwanegodd nad oes unrhyw beth all datblygwyr ei wneud i sicrhau nad ydyn nhw'n gwaethygu'r broblem llygredd ffosffadau.
"Mae fe'n rhywbeth eithaf syfrdanol i ddod mas dros nos. Doedd dim rhybudd o gwbl, does dim neb 'di dweud 'mewn 12 mis neu dwy flynedd byddwn ni'n dod â'r rheolau newydd hyn mas'," meddai.
"Roedd pawb yn gwybod bod problem ond oedd neb yn gwybod bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn mynd i 'neud beth maen nhw wedi 'neud heb roi'r gwaith mewn lle o flaen llaw i 'neud yn siŵr bod pawb yn gwybod ble maen nhw'n sefyll.
"A dyna lle mae'r broblem, dyna lle mae'r penbleth."
'Problem gymhleth'
Pwysleisio mai dod gan gorff Prydeinig mae'r cyngor ar lefelau derbyniol o ffosffadau mewn afonydd o fewn i ardaloedd cadwraeth arbennig mae Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dywedodd eu pennaeth gwasanaethau cynllunio, Rhian Jardine: "Mae'r broblem yn gymhleth ac mae 'na ffyrdd o weithio trwy a ffeindio datrysiadau i hyn a dyna beth i ni'n ceisio 'neud ar y foment gan weithio gydag eraill i drial gweithio trwy beth falle allai gael ei adeiladu.
"Mae 'na ddatrysiadau ar gael fel glanhau'r ffosffad allan o'r garthffosiaeth, ac mae 'na rhai gweithleoedd sydd gyda Dŵr Cymru yn gwneud hynny. Felly dyw e ddim yn wir am bob man.
"Ni'n trial gweithio allan beth fydde'r datrysiadau arall yna gydag eraill."
Dywedodd Dŵr Cymru eu bod wedi gwario £85m ar brosiectau i waredu ffosffadau o'u holl safleoedd trin dŵr erbyn 2025.
Maen nhw hefyd yn dweud bydd £82m arall yn mynd ar brosiectau gwaredu ffosfforws.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2021