Pasg 2021: Galw ar bobl i 'ganfod ffordd newydd o fyw'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Y Parchedicaf John Davies
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Archesgob Cymru'n pregethu yng Nghadeirlan Aberhonddu ddydd Sul Pasg mewn gwasanaeth fydd i'w weld ar-lein

Mae arweinwyr crefyddol Cymru wedi galw ar bobl i ganfod ffordd newydd o fyw yn eu negeseuon ar achlysur ail Basg y pandemig.

Yn ei neges Basg olaf fel Archesgob Cymru cyn ymddeol ym mis Mai, mae'r Parchedicaf John Davies yn apelio ar bobl i wneud ymdrechion i sicrhau "atgyfodiad" ym mywydau eu hunain ac eraill.

Mae hefyd yn apelio am roi diolch i'r rheiny sy'n ymestyn i eraill mewn "ffydd, dewrder a chariad" mewn "byd dioddefus".

"Y gair wrth galon y Pasg yw'r gair atgyfodiad," meddai, "bywyd newydd, ac mae llawer o bobl ar hyn o bryd sydd wirioneddol angen atgyfodiad yn eu hamgylchiadau.

"Maen nhw'n bryderus, yn ofnus, fe allwn nhw fod yn ddig, yn ynysig. Mae pob math o emosiynau gwahanol yn cael effaith arnynt wrth i ni barhau i wynebu'r pandemig.

"I wneud neges y Pasg yn real, hoffwn annog pobl i gydnabod beth allent gyflawni trwy ddangos rhywfaint o dosturi a chefnogaeth, a chysylltu gyda phobl all fod yn teimlo'n eithaf digalon ynghylch y dyfodol.

"Bydd yn troi neges y Pasg yn realiti i bobl all elwa o'r gobaith a llawenydd hynny yn eu bywydau. Dewch â blas o'r atgyfodiad i'r rheiny sydd o'ch cwmpas, gwnewch beth allwch chi i'w helpu."

Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyfyngiadau coronafeirws yn parhau i atal eglwysi a chapeli rhag cynnal y gwasanaethau arferol

Cyfeiriodd at Nicodemus, wnaeth geisio atal y Phariseaid rhag arestio Crist, ac a roddodd claddedigaeth iddo er "chwilfrydedd a dryswch" cychwynnol ynghylch yr Iesu.

"Mae'r byd heddiw'n parhau'n dywyll, wedi'i ddifetha gan bob math o ddioddefaint, nid yn unig gan y pandemig Covid-19 sy'n parhau, ond gan weithredoedd anfad, gwrthdaro, erledigaethau rhy niferus i'w rhestru... wedi'u hachosi neu'u gwaethygu i raddau helaeth gan groesineb, haerllugrwydd, twpdra a rhagfarn ddynol.

"Adeg y Pasg ac ar bob adeg, rhowch ddiolch i Dduw am fywyd newydd mewn Crist ac am bobl fel Nicodemus sydd, mewn ffydd, tynerwch, dewrder a chariad yn parhau i estyn i eraill mewn byd dioddefus a thoredig."

'Mae yna ffordd o ymateb gyda gobaith'

Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Ers y Pasg cyntaf, mae Cristnogion wedi canfod gobaith er gwaethaf amgylchiadau dinistriol, medd Esgob Bangor

Mewn neges fideo dywed Esgob Bangor, y Gwir Parchedig Andrew John bod y flwyddyn ddiwethaf "mewn sawl ffordd... wedi teimlo fel gwarchae, [wrth] ymladd gyda feirws sydd wedi dod â llanast i gymaint o rannau o fywyd.

"Wrth ddod at Basg arall, gyda'r byd yn dal ynghanol y pandemig, rwy'n ymwybodol fod y cyfnod hwn, i lawer ohonom, yn dal i fod yn un gwirioneddol echrydus.

"I'r rhai sy'n galaru am eu hanwyliaid, y rhai sydd wedi colli eu bywoliaeth, y rhai sydd wedi gohirio'n amhenodol gynlluniau yn eu bywyd, gallai edrych fel bod popeth yn deilchion. A'r effaith yn y pendraw yw argyfwng gobaith na fyddwn ni byth yn canfod 'normal' eto."

Awgrymodd bod argyfwng gobaith tebyg pan fu farw Crist, ond wrth i'r Cristnogion cyntaf fu'n dyst i'r croeshoeliad "honni ei fod yn dal yn fyw, er mewn ffordd newydd a gwahanol".

Roedd yr argyhoeddiad hwnnw, meddai "yn eu helpu i wneud synnwyr o fywyd gan fod "rhaid iddyn nhw ganfod eu ffordd mewn byd yn llawn ansicrwydd a her".

Ychwanegodd: "Allwn ni ddim gwadu poen y flwyddyn ddiwethaf a dyw'r stori Gristnogol ddim yn diystyru hynny nag unrhyw fath arall o boen. Ond yng nghanol yr hyn sydd i'w weld mor ddinistriol, mae yna ffordd o ymateb, mewn ffordd sydd ynghylch gobaith."

'Arwydd dibynadwy o fywyd newydd'

Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae llawer wedi newid yn y 12 mis diwethaf, medd Esgob Llanelwy

Yn ei neges yntau mae Esgob Llanelwy'n dwyn ysbrydoliaeth o weld y goeden fagnolia ger mynedfa'r Esgobty'n blaguro bob Pasg.

"Mae'r arwydd dibynadwy hwn o fywyd newydd bob Gwanwyn yn arwydd o ba mor ddibynadwy yw cariad Duw yn y greadigaeth," meddai'r Gwir Parchedig Gregory Cameron.

Ychwanegodd: "Mae thema bywyd newydd yn arbennig o bwysig i ni eleni. Yr adeg yma'r llynedd, roedden ni'n cychwyn ar y cyfnod clo.

"Doedd gan neb ddim syniad y bydden ni, flwyddyn yn ddiweddarach, yn dal i orfod wynebu heriau'r coronafeirws. Ac yn y flwyddyn ddiwethaf hon, bydd llawer wedi newid.

"Mae pobl wedi marw. Mae pobl yn cael trafferth. Bu'n rhaid i gymdeithas gyfan weithio'n galed iawn i gydweithio er mwyn i ni oroesi'r argyfwng. Ond addewid Duw adeg y Pasg yw y bydd yna fywyd newydd."

Apêl am oddefgarwch gwleidyddol

Ffynhonnell y llun, Undeb yr Annibynwyr Cymreig
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Parchedig Dyfrig Rees yn apelio ar bobl "i oddef pob safbwynt rhesymol" yn ystod yr ymgyrch etholiadol

Mae Undeb yr Annibynwyr Cymreig wedi apelio ar wleidyddion i "osgoi defnyddio iaith a allai achosi dicter neu gasineb" yn ystod yr ymgyrchu ar gyfer etholiadau'r Senedd.

"Roedd croeshoelio Iesu ar gyhuddiad ffals o geisio gwneud ei hun yn 'Frenin yr Iddewon,' fel nododd yr arwydd ar ei groes, yn llofruddiaeth rhywun oedd yn herio grym gyda'r gwirionedd," meddai'r Parchedig Dyfrig Rees.

"Fe wnaeth arweinwyr gwleidyddol a chrefyddol ei gyfnod ar y ddaear hon gorddi'r farn gyhoeddus er mwyn creu casineb yn ei erbyn. Mae gan wleidyddion heddiw gyfrifoldeb i osgoi defnyddio iaith ymfflamychol a allai ennyn dicter yn erbyn unigolion neu garfannau penodol o gymdeithas.

"Mae goddefgarwch yn ganolog i Gristnogaeth a phob cred a ffordd wâr arall o feddwl. Wrth i ni drafod y materion gwleidyddol dros yr wythnosau nesaf, apeliaf ar bobl i oddef pob safbwynt rhesymol."