Dim arolygu ysgolion Cymru tan 2022
- Cyhoeddwyd
Fydd y drefn arolygu ysgolion ddim yn ailddechrau yn nhymor yr hydref eleni wrth i effaith y pandemig barhau ar y byd addysg.
Ddydd Llun cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd Estyn yn dechrau peilota trefn arolygu newydd y flwyddyn nesaf.
Yn y cyfamser, bydd y corff arolygu yn canolbwyntio ar helpu ysgolion gyda'r cwricwlwm newydd ac yn monitro ysgolion sy'n achosi pryder.
Dywedodd Undeb UCAC fod y cyhoeddiad i'w groesawu ac y bydd yna "ochenaid o ryddhad ledled Cymru".
Yn ôl Llywodraeth Cymru bwriad yr oedi yw lleihau'r pwysau ar athrawon.
Bydd yn golygu hefyd na fydd ysgolion yn cael eu hasesu a'u dyfarnu yn ôl y drefn o 'oleuadau traffig' am y tro.
Cafodd y drefn ei ohirio yn 2020 oherwydd y pandemig.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles fod ysgolion am weld cynnydd "ond fod yna bwysau sy'n effeithio ar eu gallu i wneud hyn".
Fe fydd yna lacio hefyd ar yr angen i ysgolion adrodd yn ôl ar eu perfformiadau.
Roedd yna alwadau wedi bod gan Plaid Cymru am oedi'r arolygiadau gan Estyn, er mwyn i ysgolion ganolbwyntio ar y gwaith o ddal i fyny.
Bydd arolygiadau peilot yn cael eu cynnal yn y gwanwyn, ond fel arall ni fydd arolygiadau'n digwydd cyn Pasg 2022.
Roedd pryder ymhlith nifer yn y proffesiwn wedi ei fynegi am y pwysau ar athrawon yn wyneb effeithiau'r pandemig a'r angen i gyflwyno'r cwricwlwm newydd.
Yn ôl Rhian Kenny pennaeth ysgol gynradd Yr Hendy yn Sir Gaerfyrddin, roedd athrawon eisoes "ar eu pengliniau".
"Mae pobl dal yn sicrhau bod ni yn rhoi yr addysg gorau i'r plant... mae pethau yn newid o ddydd i ddydd i fod yn onest," meddai.
"Mae deddf newydd yn dod mewn gydag anghenion arbennig so mae ysgolion yn paratoi ar gyfer hwnna.
"Yr holl bethe ni wedi bod yn 'neud a bod yn onest, dros y cyfnod clo, dros y pandemig yw yn arwain at y cwricwlwm newydd so ni ddim yn aros yn segur o gwbl.
"Ond mae'r athrawon i gyd ar eu pengliniau," meddai.
"Goroesi mae athrawon yn 'neud nawr, maen nhw wedi dodi disgyblion yn gyntaf, yn olaf ac yn y canol - mae ishe rest arnyn nhw, mae ishe seibiant ar bawb i ail wefrio'r batris."
Dywedodd Rebecca Williams o Undeb UCAC fod cyhoeddiad Estyn i'w groesawu'n fawr.
"Mae'n newyddion gwych. Os gwrandewch chi yn ofalus fe glywch chi yr ochenaid o ryddhad ledled Cymru y bore 'ma.
"Mae'n braf iawn gweld bod yr arolygiaeth Estyn wedi deall sefyllfa ysgolion ac yn cydnabod y 18 mis bron iawn eithriadol o heriol sydd wedi bod.
"Beth sydd yn bwysig i sylweddoli hefyd yw mae yna lot o wahanol ffyrdd o weld sut mae ysgolion yn 'neud - a dim ond un ffordd yw arolygiadau fel hyn.
"Beth sydd angen wir ar ysgolion yw cefnogaeth nawr. A dyma yn union beth mae Estyn yn ei gynnig.
"Felly mi fyddan nhw yn ymweld ag ysgolion, ymweliadau ymgysylltu - ond bwriad rheina yw nid arolygu ond helpu ysgolion i ddechrau neu i barhau â'r paratoadau ar gyfer y cwricwlwm newydd."
Beth ddywedodd Estyn?
Dywed datganiad gan Estyn: "Rydym yn ymestyn cyfnod atal ein rhaglen arolygu craidd ar gyfer ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion i gynnwys tymor yr hydref 2021.
"Rydym yn cydnabod bod y flwyddyn a hanner diwethaf wedi bod yn anodd a heriol i lawer o ddysgwyr a'u teuluoedd ac i ddarparwyr addysg a'u staff.
"Yn ystod gweddill tymor yr haf, byddwn yn gofyn am eich adborth ar ein trefniadau arolygu newydd.
"Byddwn yn ystyried gyda Llywodraeth Cymru y ffordd orau o sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith ymgysylltu ac arolygu i gefnogi'r daith tuag at y Cwricwlwm i Gymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd14 Mai 2021
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2018