'Angen gwario mwy o arian ar addysg'
- Cyhoeddwyd
Dylai Llywodraeth Cymru wario mwy o arian ar addysg wrth i'r wlad adfer o effeithiau'r pandemig, yn ôl economegydd blaenllaw.
Dywedodd yr Athro Gerald Holtham bod angen canolbwyntio adnoddau ar 'gefnogi addysg' a theuluoedd ifanc.
Awgrymodd hefyd y dylid ystyried cyflwyno "toll un-tro" er mwyn codi cyfalaf i adfer y system addysg.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi darparu arian ychwanegol y flwyddyn ariannol hon i gefnogi dysgwyr.
Yn ôl yr Athro Holtham, sy'n gyn-ymgynghorydd i'r llywodraeth ac yn athro gwadd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae'r "pwysau gwleidyddol i wario ar iechyd bob amser yn drwm iawn" ond mae'n pwysleisio bod gwariant ar addysg yn "arbennig o bwysig" ar hyn o bryd.
"Yn fy marn i mae'n bwysig iawn i Lywodraeth Cymru wario mwy o arian ar addysg ar hyn o bryd achos ar ôl y pandemig mae llawer o blant wedi colli cyfle, colli amser yn y system ac mae'n bwysig iawn ceisio llenwi'r twll yna - mae'n bwysig iawn."
Gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol yw tua hanner cyllideb Llywodraeth Cymru. Mae addysg yn cyfrif am oddeutu 21% o gyfanswm y gwariant.
Er ei fod yn credu bod angen 'strategaeth addysg tymor hir' mae'r Athro Holtham yn awgrymu y gallai 'toll un-tro' y flwyddyn nesaf helpu athrawon a disgyblion i ddal i fyny wedi'r holl darfu ar addysg.
Mae'r Education Policy Institute wedi amcangyfrif y bydd angen rhwng £600m a £900m dros dair blynedd i helpu plant yng Nghymru i ddal i fyny ar ddysgu coll.
Dywed Llywodraeth Cymru bod £150m o gyllid newydd eisoes wedi'i roi i'r sector eleni.
Yn gynharach yn y mis, ymddiswyddodd comisiynydd adfer addysg Lloegr gan ddweud bod y cyllid oedd wedi ei glustnodi gan lywodraeth Prydain yn is na'r hyn oedd ei angen.
'Colli hyder'
Mae Lesley Spurway, athrawes Blwyddyn 1 Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dweud bod modd gweld effaith y pandemig ar addysg y plant.
"Mae'r plant wedi colli eu hyder a'u hannibyniaeth gyda'r iaith Gymraeg, felly ni wedi bod yn ffocysu ar siarad a gwrando," meddai.
Ychwanegodd ei bod yn bwysig parhau i fuddsoddi fel bod plant yn dal i fyny gyda'u haddysg.
"Ni 'di bod yn ffodus iawn, ma'r ysgol wedi buddsoddi arian i gau'r bwlch. Ni wedi cyflogi mwy o staff, mae 18 o ddisgyblion gyda fi ym Mlwyddyn 1 a dwy gynorthwywraig.
"Felly ni wedi gweld yr effaith yn barod oherwydd o fewn y saith wythnos diwethaf, ni heb gael unrhyw doriad ar ei draws, ma'r plant wedi elwa. Ond dwi yn meddwl mae angen i hyn barhau yn y dyfodol agos er mwyn cau'r bwlch."
Mae wedi bod yn flwyddyn heriol i ddisgyblion hŷn hefyd, yn ôl Hannah Ambler, pennaeth Blwyddyn 11.
"Mae rhai wedi anghofio, efallai, fel mae cyfathrebu, wedi colli hyder yn y Gymraeg achos bod nhw wedi cael llai o amser i ymarfer gyda ni yma yn yr ysgol," meddai.
"Felly mae cau'r bwlch o ran sgiliau sylfaenol cyfathrebu wedi bod yn flaenoriaeth pan wnaeth y disgyblion ddychwelyd.
"Tase na fuddsoddiad o arian, bydde hynny yn hynod o werthfawr o ran cau'r bylchau yma," ychwanegodd. "
Mae'r pandemig a'r cyfnodau clo wedi cael effeithiau unigryw ar ysgolion gwahanol am bod disgyblion ysgolion yn wahanol ac felly byddwn ni'n sicr yn defnyddio pob un cymorth i gau'r bylchau."
Dywedodd Sophie, disgybl Blwyddyn 12 yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur ei bod wedi bod yn 18 mis "cymhleth".
"Ni'n colli'r cyfathrebu uniongyrchol gyda'r athrawon i fod yn sicr gyda phynciau. Ni wedi colli amser dysgu, colli amser i drafod i gael gwared [ag unrhyw ansicrwydd] cyn arholiadau," meddai.
"Mae'n gymhleth achos 'dy'n ddim eisiau colli amser yn dysgu pethau newydd [tra'n dysgu'r] pethau hen. Ond jyst i gael falle rhyw wersi i ddal lan gyda phethau fydd angen gwybod."
'Teimlo'n unig'
Dywedodd cyd-ddisgybl Sophie, Rhodri ei fod yn cael trafferth dysgu o gartref.
"Mewn dosbarth bydde ti'n gallu gofyn cwestiynau a chael ateb yn syth, ble os wyt ti ar-lein, ti'n gallu teimlo'n unig a falle ddim yn gallu cael yr atebion ti angen," meddai. "Felly ti ddim gyda'r cymhelliant i 'neud y gwaith a wedyn ti'n colli allan mwy."
Roedd Harry, hefyd ym Mlwyddyn 12, yn ei chael hi'n anodd addasu i ddysgu ar-lein i ddechrau. Dywedodd y byddai dal i fyny ag unrhyw addysg oedd wedi ei golli yn golygu bod athrawon yn gorfod rhoi mwy o amser i ddisgyblion.
"Mae na lawer o waith i 'neud," meddai. "Mae digon o amser i 'neud e ond oherwydd bod amser wedi cael ei dorri lan - ni mewn yn yr ysgol, ni bant o'r ysgol - ma'n galed i ni ffindio rhythm i orffen gwaith.
"Ma' fe jyst yn eitha' caled. Ond falle bydde cwpl o oriau'r wythnos i orffen gwaith sydd angen cael ei orffen yn syniad da i ni."
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru bod "cefnogi dysgwyr trwy gydol ac ar ôl y pandemig yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru".
Maen nhw'n dweud eu bod nhw wedi darparu dros £150m o arian ychwanegol i addysg, gan gynnwys recriwtio mwy na 1,800 o athrawon a staff ysgol fel rhan o'r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, dolen allanol mewn addysg.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2021
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2021