Cwest: Bachgen 20 mis ym Môn wedi marw o anafiadau pen
- Cyhoeddwyd
Clywodd cwest i farwolaeth bachgen 20 mis oed o Ynys Môn bod rhywbeth wedi mynd â sylw ei dad eiliadau cyn i'w car wrthdaro yn erbyn lori ar ffordd yr A55.
Bu farw Elis Wyn Owen o'r Fali o anafiadau difrifol i'w ben yn fuan wedi'r gwrthdrawiad ar ffordd yr A55 rhwng Llangefni a Rhosneigr ar 16 Chwefror y llynedd.
Cafodd ei fam, Ashley Morley, ei hanafu'n ddifrifol a chredir ei bod yn parhau i gael triniaeth wedi'r gwrthdrawiad angheuol.
Yn y cwest yng Nghaernarfon clywodd yr Uwch Grwner dros dro, Katie Sutherland bod gyrrwr y lori wedi cael ei orfodi i stopio wedi i deiar ei gerbyd golli gwynt yn sydyn. Doedd yna ddim llain galed ac felly roedd y lori, gyda goleuadau rhybudd, yn parhau ar y ffordd.
Dywedodd yr Ymchwilydd Gwrthdrawiadau, Gordon Saynor, bod modd gweld yn glir, bod arwynebedd y ffordd yn sych ac y byddai'r lori lonydd i'w gweld i gerbydau o bellter o 345m.
Dywedodd bod tad Elis, Dewi Owen, a oedd yn gyrru y Ford Mondeo ST, wedi dweud wrtho mewn cyfweliad yn fuan wedi'r gwrthdrawiad ei fod wedi troi ei ben er mwyn gweld a oedd ei blentyn, a oedd yn eistedd mewn sedd bwrpasol yn wynebu tuag ymlaen, yn cysgu.
Roedd e hefyd wedi dweud ei fod yn siarad â'i bartner, mam Elis a oedd yn sedd flaen y car, yn ystod y gwrthdrawiad.
"Roedd y lori jyst yno," meddai Mr Owen pan edrychodd i fyny.
Yn ei dystiolaeth dywedodd Mr Saynor ei fod wedi dod i'r casgliad "bod digon o amser a phellter i osgoi" y gwrthdrawiad.
"Mae angen ystyried bod yr hyn a wnaeth Mr Owen wedi cyfrannu'n sylweddol at y gwrthdrawiad," medd Mr Saynor.
Wedi ystyried dwyn achos
Wrth gofnodi'r rheithfarn dywedodd y crwner bod Elis Wyn Owen wedi marw o ganlyniad i wrthdrawiad ffordd.
Dywedodd hefyd bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi ystyried dod â chuddiadau yn erbyn Mr Owen ond eu bod wedi penderfynu peidio gweithredu ymhellach.
Dywedodd bod Elis Wyn Owen a gofnodwyd yn farw am 14:38 yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ar 16 Chwefror wedi marw o anafiadau difrifol i'w ben o ganlyniad i wrthdrawiad ffordd.
"Mae fy nghydymdeimlad dwysaf gyda chi, eich partner a'ch teulu," meddai'r crwner gan ddisgrifio marwolaeth Elis fel "colled drom".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2020