Gorchymyn Dŵr Cymru i dalu dros £200,000 am lygru afon
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i Dŵr Cymru dalu £205,000 dydd Mercher wedi iddyn nhw lygru afon mewn digwyddiad gafodd ei achosi gan broblem gyda malwod.
Clywodd llys yn Llandudno bod hyd at 675,000 litr o garthion heb ei drin wedi gollwng i Afon Clywedog ger Wrecsam mewn cyfnod o awr ar 4 Medi, 2018.
Wrth erlyn ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru, dywedodd Dafydd Roberts fod naw cilomedr o'r afon wedi dioddef, a bod may na 3,000 o bysgod - gan gynnwys brithyll ac eog - wedi marw.
Mae'r afon hefyd yn darparu dŵr yfed i fwy na dwy filiwn o bobl yng ngogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr.
Ychwanegodd Mr Roberts mai hwn oedd "y digwyddiad o ladd pysgod mwyaf yng ngogledd Cymru ers nifer o flynyddoedd".
Ymddiheuro
Wrth amddiffyn y cwmni, dywedodd Richard Kimblin bod niferodd y pysgod wedi adfer yn sylweddol. Digwyddodd yr anffawd pan oedd nythfa o falwod wedi tyfu ger gwaith trin dŵr Five Fords, ac fe gafodd penderfyniad ei wneud i wagio un siambr.
Ond fe wnaeth y cwmni gamgymeriad, ac roedd tanciau wedi gorlifo yn ystod y gwaith.
Dywedodd Mr Kimblin fod Dŵr Cymru yn "arwain y diwydiant" yn nhermau perfformiad amgylcheddol.
Fe wnaeth y barnwr Gwyn Jones roi dirwy o £180,000 i'r cwmni ynghyd â chostau o £25,800.
Plediodd Dŵr Cymru yn euog i dri chyhuddiad yn ymwneud â'r llygru.
Roedd y barnwr yn derbyn "i gwmni fel Dŵr Cymru mae'n anochel y bydd rhai trafferthion yn codi".
Wedi'r gwrandawiad, dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Rydym yn ystyried ein cyfrifoldeb i warchod yr amgylchedd o dan ein gofal o ddifri. Yn yr achos hwn rydym yn derbyn na wnaethom gyrraedd y safonau ac rydym yn ymddiheuro am hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2018
- Cyhoeddwyd6 Medi 2018