Gwennan Harries ac Euro 2020: Dal i ysu i wisgo'r crys coch
- Cyhoeddwyd
Ddydd Iau roedd Gwennan Harries yn brysur gyda diwrnod mabolgampau Ysgol Glantaf, Caerdydd, lle mae hi'n athrawes addysg gorfforol; ddydd Sadwrn mae hi'n sylwebu ar un o bencampwriaethau pêl-droed mwya'r byd.
Yn ystod tair gêm gyntaf Euro 2020 mae Gwennan, un o gyn sêr tîm merched Cymru, wedi ennill ei phlwy fel un hanner deuawd sylwebu S4C ar gemau Cymru yn y bencampwriaeth gyda Nic Parry.
Yn ogystal â sylwebu a dysgu yn llawn amser, mae hi hefyd wedi bod yn helpu gyda'r cneifio dros yr wythnosau diwethaf ar fferm y teulu ger y Bontfaen, Bro Morgannwg, lle gafodd hi ei magu.
Mae'n well ganddi fod yn brysur, meddai: "fi ddim yn un sy'n hoffi jyst eistedd yn llonydd am ormod o amser".
Teimlo pwysau i gynrychioli merched
Sut brofiad yw sylwebu am y tro cyntaf ar un o bencampwriaethau mawr tîm y dynion?
"Fi yn teimlo bach o bwysau a bod yn onest o ran y ffordd mae cymdeithas, yn enwedig o fewn pêl-droed," meddai.
"I lot o gefnogwyr, os ydw i'n gwneud camgymeriad fel merch, fi'n kind of adlewyrchu holl ferched pêl-droed - yn hytrach na fi fy hun, Gwennan Harries. Lle os yw John Hartson yn gwneud camgymeriad fyse pobl falle jyst yn ei feirniadu fe fel John Hartson.
"So fi wedi teimlo'r pwysau o orfod adlewyrchu merched."
Ond ar ôl cael y gêm gyntaf dan ei belt, mae wedi dod dros y nerfau cychwynnol yna ac mae'n gallu canolbwyntio ar y gêm ei hun, a dim arall.
"Oedd rhaid ifi jyst sortio fy hunan mas gyda hwnna tipyn bach, rwy'n credu falle mai oherwydd ei bod yn bencampwriaeth mawr o'n i'n teimlo'r pwysau.
"Fi'n teimlo bod fi jyst yn siarad gyda fy ffrindiau i yn y byd pêl-droed - sa'i'n meddwl gormod tu ôl i bethau."
Mae wedi cael adborth da a chefnogol meddai, er nad ydi hi'n dueddol o gymryd sylw, gan fod yna bob amser ambell 'un neu ddau' negyddol hefyd.
Weithiau mae pobl yn dweud 'ti ond fan'na achos ti'n llenwi'r blwch PC ac achos mae angen merch yna'.
"Fi jyst yn hapus bo' fi wedi cael y cyfle. Weithiau mae pobl yn dweud 'ti ond fan hynna achos ti'n llenwi'r blwch PC ac achos mae angen merch yna'.
"Falle dim gymaint nawr ond ar y dechrau yn bendant... Mae yn rhwystredig achos dwi ddim yn teimlo byse angen i rywun arall, fel Owain Tudur Jones neu John Hartson, brofi pwynt.
"Ond mae'n gwneud pob merch sydd yn y roliau yma gymaint mwy penderfynol; maen nhw'n gwneud mwy o waith ymchwil a gwaith paratoi so, nid ei fod yn helpu, ond mewn un ffordd mae'n sbarduno ti, mae'n rhoi bach mwy o dân yn eich bol i wneud yn well.
"Fi jyst yn gobeithio bod fi wedi profi erbyn nawr bod dealltwriaeth fi o'r gêm yn ddigon da, bod fi'n haeddu bod yna achos bod fi 'di chwarae ar y lefel uchaf a nid jyst bod fi'n llenwi blychau PC."
Anaf yn chwalu'r freuddwyd
O fod yr unig ferch yn chwarae gyda'r bechgyn yn Ysgol Gynradd Iolo Morganwg i ymuno gyda thimau merched Caerdydd, Bryste ac Everton Ladies a chael gwisgo'r crys coch, pêl-droed oedd popeth i Gwennan wrth dyfu i fyny.
Enillodd 56 cap a sgorio 18 gôl dros ei gwlad nes i anaf i'w phen-glin chwalu ei breuddwyd o yrfa bellach mewn pêl-droed. Roedd yn ergyd drom iddi orfod cyhoeddi ei bod yn ymddeol yn 2015.
"Ges i fy gêm olaf yn 24 mlwydd oed - o'n i ddim yn sylweddoli ar y pryd mai hwnna oedd gêm ola' fi," meddai.
"Daeth e allan o nunlle.
"Fi'n cofio'r teimlad 'na o fod yn rhan o'r tîm. O'n i allan yn yr Iseldiroedd pan ges i'n anafu am y tro olaf go iawn, yn paratoi i chwarae gyda Cymru - oedd e ddiwrnod cyn y gêm.
"Es i o deimlo fel ti'n rhan o'r lefel uchaf allet ti fod ar y pryd i ddau ddiwrnod wedyn, nhw'n dweud wrthat ti, basically 'mae dy yrfa di drosodd'. Oedd e'n lot i gymryd ymlaen achos pêl-droed oedd popeth, popeth o'n i wedi ffocysu arno, o'n i wedi ymroi gymaint iddo.
"Nes i frwydro am dair mlynedd i ddod nôl a profi pawb yn anghywir, ond jyst y ffordd oedd y gêm yn datblygu wedyn oedd dim posib, o ran fy mhen-glin i, i fi allu para' ar y dwysedd yna a byw bywyd iach," meddai.
"Dwi'n ffodus fy mod i wedi cael y cyfleoedd yna... er bod e wedi gorffen ar nodyn o'n i ddim rili mo'yn. Ond dyna chwaraeon.
"Roedd e'n lot i ddelio gyda, ond oedd e wedi gwneud fi'n gryfach yn yr hirdymor er bo' fi falle ddim yn sylweddoli fe ar y pryd pan o'n i'n ysu i fod mas 'na ar y cae yn ymarfer ac yn chwarae. Ond mae wastad rhywun yn mynd drwy rywbeth anoddach."
Cyfleoedd newydd
Mae'n ddiolchgar iawn ei bod wedi hyfforddi i fod yn athrawes cyn ymddeol o'r gêm "neu byswn i rili wedi bod yn styc." Fe roddodd dysgu ffocws iddi, a theimlad ei bod yn "gwneud gwahaniaeth".
Mae'n edrych nôl a meddwl efallai fod rhai pethau'n digwydd am reswm. Ymunodd gyda thîm Sgorio yn 2015 fel ei sylwebydd benywaidd cyntaf.
Ond hyd yn oed ar ôl symud ymlaen i sylwebu mae'n dal i ysu am fod ar y cae weithiau.
"Mae bach yn wahanol efo'r dynion, ond o ran y merched, ydw dwi dal hyd yn oed nawr pan maen nhw'n canu'r anthem, mae hwnna'n cael fi bob un tro.
Emosiwn yr anthem
"Byset ti'n meddwl erbyn nawr - nes i chwarae gêm olaf fi i Gymru yn 2012, mae 'di bod yn naw mlynedd - ond bob tro maen nhw'n canu'r anthem fi'n teimlo yn gutted am y ffordd 'nath e orffen.
"Byswn i'n caru bod mas yna nawr yn rhoi'r crys coch ymlaen achos oedd e jyst yn deimlad mor sbesial. Fi'n gwybod mae pawb yn dweud hwnna am bob gwlad ond mae jyst rhywbeth mor unigryw am y wlad yma, a gallu ei chynrychioli hi."
Pa mor gynhyrfus mae hi'n mynd wrth sylwebu?
"Os maen nhw'n agos i'r gôl, yn enwedig os mae'n gêm fawr, fi bron yn cicio pob pêl gyda nhw os fi'n onest, diolch byth chi methu gweld hwnna!
"Fi'n trio peidio mynd yn gynhyrfus, fi'n trio ddim dangos gormod o emosiwn, fi'n credu mae'n bwysig adlewyrchu sut mae pawb arall yn teimlo ond rhaid iti hefyd cadw bach o broffesiynoldeb a ddim bod yn rhy dros y top neu rhy emosiynol, ond mae deg munud olaf y ddwy gêm ddiwethaf wedi bod yn anodd os fi'n onest! Ti jyst yn trio cadw pwyll."
Mae hi wedi sylwebu gyda Nic Parry o'r blaen fel 'trydydd llais' ar gemau cynghrair Cymru ac mae adnabod ei chydgyflwynydd o flaen llaw yn gwneud pethau'n llawer haws meddai.
"Mae mor gyfeillgar, mae'n helpu gymaint hefyd a mae e mor naturiol yn ei rôl, mae'n gwneud fy job i gymaint haws."
Oherwydd cyfyngiadau Covid a chyfrifoldeb gwaith bob dydd dydi Gwennan na Nic ddim wedi gallu mynd i'r gemau eu hunain yn 2020 gan wneud eu sylwebu o stiwdio'r BBC yng Nghaerdydd.
Mae hynny'n golygu na fedran nhw deimlo'r awyrgylch fel y sylwebwyr sydd yn y stadiwm ond mae atgofion o deithio i Ffrainc a phrofi'r awyrgylch fel cefnogwr adeg Euro 2016 yn dal yn fyw iawn iddi.
"Es i i gêm Gogledd Iwerddon a wedyn o'n i yn y gêm Belg yna - fydda i byth, byth yn fy mywyd, sai'n credu, yn mynd i gêm well o ran yr awyrgylch a'r canlyniad. Oedd hwnna jyst yn noson sbesial sbesial iawn."
Er bod y cyfleoedd sydd ar gael i ferched chwarae a chyflwyno pêl-droed wedi cynyddu'n fawr dros y 10 mlynedd diwethaf, does dal "dim cweit digon o gyfle eto" yn ei barn hi.
"Ac mae'n bwysig achos mae chwaraeon yn gallu roi gymaint o sgiliau bywyd a chyfleoedd, a helpu o ran lles a ffrindiau hefyd. Mae gymaint o fanteision o gymryd rhan mewn chwaraeon so mae yn bwysig bod y cyfleoedd yna yn ifanc a chi'n gallu cymryd nhw a ehangu ar y profiadau a sgiliau ti wedi dysgu."