Euro 2020: 'Prawf i Gymru a phrofion i fi'

  • Cyhoeddwyd
HRKFfynhonnell y llun, Mike Hewitt

Mae dylanwad Johan Cruyff ar bêl-droed rhyngwladol Cymru yn anferth.

Gofynnwch i Hal Robson-Kanu lle gafodd o'r ysbrydoliaeth ar gyfer y gôl YNA yn erbyn Gwlad Belg yn Euro 2016.

Ar ôl derbyn y bêl o'r dde gan Aaron Ramsey llwyddodd Hal i gyflawni y 'Cruyff turn' perffaith i dwyllo Thomas Meunier a Marouane Fellaini a rhoi Cymru 2-1 ar y blaen.

Yfory yma yn Amsterdam bydd dim modd dianc o gysgod Johan Cruyff - mae Cymru yn herio Denmark yn Arena Johan Cruyff.

Mae delwedd Cruyff - un o'r chwaraewyr gorau i gicio pêl erioed - ym mhobman.

Y tu allan i'r stadiwm mae yna gerflun o'r dyn ei hun fel petasai'n dawnsio i lawr y cae, ei gydbwysedd yn berffaith.

Yng nghrombil y stadiwm mae yna ddelweddau ohono ym mhobman, ei lygaid yn dilyn chi o gwmpas yr arena anferth.

Disgrifiad o’r llun,

Does dim dianc rhag wyneb Johan Cruyff yn y stadiwm

Tua 16,000 o gefnogwyr fydd yma 'fory mewn stadiwm sy'n dal 55,000.

Cafodd y stadiwm ei hadeiladu chwarter canrif yn ôl ac mae'n fy atgoffa i o fersiwn llai o Stadiwm Principality.

Bydd y cefnogwyr yn agos i'r cae yfory - llawer agosach na maen nhw wedi bod yn ngemau Cymru yn erbyn y Swistir a Thwrci yn Baku, ac yn erbyn Yr Eidal yn Rhufain.

Ac fel y gemau yn erbyn Twrci a'r Eidal bydd y mwyafrif helaeth o gefnogwyr yn cefnogi gwrthwynebwyr Cymru.

Y disgwyl yw y bydd miloedd o gefnogwyr Denmarc yn teithio i Amsterdam tra fod aelodau'r Wal Goch wedi gorfod aros adre.

Disgrifiad,

Y cefnogwr sydd yn Amsterdam - a dau gafodd eu gwrthod

Ges i sgwrs gyda phlismon yn Amsterdam bore 'ma a gofyn iddo pwy oedd o am gefnogi 'fory.

"Wales!" meddai.

"Because it will be easier for the Netherlands in the next round!" dywedodd Mr Plismon.

Ia, os bydd Cymru yn llwyddo i guro Denmarc yfory bydd tîm Robert Page yn wynebu Yr Iseldiroedd neu y Weriniaeth Siec yn rownd yr wyth ola' yn Baku wythnos nesa'.

Ond mae'n rhaid curo Denmarc yn gynta' - prawf anodd i Gymru.

Disgrifiad o’r llun,

Arena Johan Cruyff - lleoliad gêm nesaf Cymru yn Euro 2020

Son am brofion, mi ydw i a fy nghydweithiwr ar y daith yma wedi cael llwyth o brofion Covid wythnos yma.

Roedd rhaid cael prawf arbennig i gael mynediad i faes ymarfer Cymru yn Rhufain ddydd Mawrth.

Dydd Mercher roedd rhaid cael prawf arall i fedru hedfan o Rhufain i Amsterdam ddoe.

Ges i ddiwrnod heb brawf ddoe, cyn cael un arall bore 'ma er mwyn cael mynediad i'r stadiwm ar gyfer y gêm 'fory.

A bore 'fory bydd rhaid cael prawf arall er mwyn hedfan ddydd Sul i Baku, neu i Gaerdydd.

Dwi'n falch o ddweud fod pob un o'r profion wedi bod yn negatif!

Dim ond un canlyniad positif dwi eisiau ei weld - a hynny i Gymru ar y cae yfory!