Euro 2020: 'Pwysig cael seibiant meddyliol' - Owain Fôn Williams
- Cyhoeddwyd
Wedi i dîm Robert Page fynd ar daith bws o gwmpas Rhufain cyn teithio i'w gêm yn Amsterdam, Owain Fôn Williams sy'n dweud pa mor bwysig ydi ymlacio er mwyn delio gyda'r pwysau.
Drwy gydol ymgyrch yr Ewros bydd gôl-geidwad sgwad Euro 2016 yn cyhoeddi cyfres o flogs i Cymru Fyw.
Pan ti mewn twrnament efo dy wlad mae o'n intense iawn, tydi o ddim fel yn dy glwb lle ti'n cael byw yn dy dŷ dy hun a bod efo dy deulu.
Efo dy wlad ti'n styc mewn gwesty pob munud o'r diwrnod a ti'n wyneb yr hogia'. Mae o reit galed heb sôn am y gemau lle ti'n cystadlu i drio cael y mwya' o bwyntiau.
Mae'n bwysig cael y seibiant 'na yn feddyliol.
Roedd hi reit neis cael blasu rhywbeth gwahanol pan gafon ni fyrgyrs ac yfed rhywbeth fizzy yn lle cael dŵr fflat.
Roedd fy nghyfnod i yn wahanol i'r un yma achos fe gafon ni weld ein teuluoedd a chael barbeciw ar ôl cyrraedd yr 16 olaf.
Roedden ni wedi byw ar fwyd iach ofnadwy fel pasta a reis sy'n sych ofnadwy, ond roedd hi reit neis cael blasu rhywbeth gwahanol pan gafon ni fyrgyrs ac yfed rhywbeth fizzy yn lle cael dŵr fflat.
Dyna fydd hi tro yma. Fe gawn nhw ddiwrnod fel 'na ond yn saff wedyn fe fydd eu meddylia' nhw ar y gêm nesa. Mae cael y balans yn bwysig ond mae 'na bobl yna heblaw am Rob Page yn gwneud y penderfyniadau yna.
Dyna pam fod 'na gymaint o staff. Fe welson ni'r holl staff hyfforddi'r ar risiau'r awyren a rhai yn gofyn 'waw, pam fod cymaint o staff?' a dyna pam.
Mae barn pawb mor bwysig wrth neud y penderfyniadau cywir yna.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Fe benderfynodd Cymru beidio teithio i Gaerdydd cyn mynd ymlaen i wynebu Denmarc yn Amsterdam, ac aros ymlaen yn Rhufain yn lle - a mwynhau taith ar fws heb do o amgylch lleoliadau hanesyddol Rhufain.
Felly ti eisiau cadw'r lefel a'r balans yn spot on ac fel yna fuodd hi yn 2016 ac roedd gan Chris Coleman y staff hyfforddi iawn efo ac fe wnaethon nhw bob penderfyniad yn wych.
Roedd pawb efo'i gilydd a dwi'n eu gweld nhw'n cario'r momentwm yna ymlaen rŵan. Mae momentwm mewn cystadleuaeth fel hyn mor bwysig.
Mae'r ysbryd yn y garfan yma yn uchel.
Mae 'Gyda'n Gilydd yn Gryfach' wedi bod yn cael ei ddefnyddio'n gyson efo'r tîm cenedlaethol ers blynyddoedd rŵan, ac ar ôl y fuddugoliaeth yn erbyn Twrci, roeddech chi'n gweld pawb yn dod at ei gilydd
Y criw ifanc a'r rhai hyn, roedd pawb efo'i gilydd a dwi'n ei gweld nhw'n cario'r momentwm yna rŵan ymlaen. Mae momentwm mewn cystadleuaeth fel hyn mor bwysig.
Hefyd o ddiddordeb: