Cymdeithas cefnogwyr am ffurfio CPD Bangor 1876

  • Cyhoeddwyd
Bangor 1876Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Cefnogwyr CPD Bangor

Mae Cymdeithas Cefnogwyr CPD Dinas Bangor wedi rhannu manylion clwb newydd y maen nhw'n gobeithio fydd yn cystadlu yng nghynghreiriau Cymru wrth i bryderon am ddyfodol y clwb presennol barhau.

Bangor 1876 fyddai enw'r clwb newydd - hynny oherwydd mai dyna'r flwyddyn cafodd y clwb gwreiddiol ei sefydlu.

Mae Cymdeithas Cefnogwyr CPD Bangor hefyd wedi rhannu llun o fathodyn y clwb newydd.

Daeth y syniad i ffurfio clwb newydd yn sgil pryderon cynyddol am ddyfodol ariannol CPD Bangor.

Cafodd CPD Dinas Bangor eu gorfodi i chwarae yn ail haen bêl-droed Cymru y tymor diwethaf wedi iddyn nhw fethu â sicrhau trwydded lefel uchaf oherwydd trafferthion ariannol.

Yna ar ddiwedd y tymor mae panel disgyblu Uwch Gynghrair Cymru docio 42 o bwyntiau oddi ar y clwb. Maen nhw'n apelio'r penderfyniad, ond os fydd yn cael ei gadarnhau fe fydd y clwb yn y drydedd haen y tymor nesaf.

Fe wnaeth y gymdeithas gyflwyno cais ffurfiol i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyfer ymuno â'r pyramid Cymreig 'nol ym mis Mai.

Mae disgwyl penderfyniad terfynol yn ddiweddarach y mis yma.