Euro 2020: Sut i blyffio am bêl-droed Cymru

  • Cyhoeddwyd
Llun eiconig erbyn hyn, wrth i Aaron Ramsey fynd at Y Wal Goch i ddathlu ei gôl yn erbyn RwsiaFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae llwyddiant gwych tîm pêl-droed Cymru yn cyrraedd rownd nesaf Euro 2020 yn siŵr o ddenu diddordeb pobl sydd ddim fel arfer yn dilyn y bêl gron.

Tra bod croeso i bob bricsen yn y Wal Goch, hen neu newydd, does neb yn hoffi cael eu gweld yn dod yn hwyr i'r parti.

Felly dyma Beibl y Blyffiwr i bêl-droed Cymru.

1. Peidiwch â gwisgo daffodil ar eich pen

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tra bod y daffodil yn olygfa cyffredin mewn gemau rygbi Cymru, nid felly mewn gemau pêl-droed.

Mae 'na reswm da pam bod hwn ar frig y rhestr. Digon yw dweud bod gweld cefnogwr pêl-droed efo daff ar ei ben neu ei phen fel gweld John Redwood yn rhoi cynnig ar ganu Hen Wlad fy Nhadau pan oedd o'n Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

2. Peidiwch â gwisgo daffodil ar eich pen

Plîs.

3. Bodin a'r boen oesol

Pan glywch y geiriau Paul a Bodin, mae angen actio da.

Cofiwch yn ôl i'r Nadolig honno pan oeddech chi'n saith oed. Yr unig anrheg sydd ar ôl o dan y goeden ydi'r un meddal siâp 'sanau gan Anti Beryl... eto. Ar ôl yr holl edrych ymlaen, mae'r 'Dolig ar ben a tydi hi ond yn chwech y bore.

Lluoswch y siom efo holl hosanau'r byd, a dyna'r teimlad sydd angen ei gyfleu wrth glywed enw'r chwaraewr anffodus (a hyfforddwr tîm dan-21 Cymru) fethodd benalti yn erbyn Romania yn 1993 a chwalu gobeithion Cymru i fynd i Gwpan y Byd.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd Paul Bodin 23 gwaith dros Gymru, yn cynnwys yr un pan darodd y bar ym Mharc yr Arfau

Wedi cyfleu'r siom, fe allwch gyffroi a dweud "Ond ma hynny'n hen hanes!" a gwenu fel tasa Anti Nel rhywsut wedi llwyddo i guddio beic newydd sbon i lawr un o'r 'sanau. Hosanna i Anti Nel!

4. Y crys pêl-droed

Crys rygbi ydi crys rygbi. Nid crys pêl-droed ydi crys pêl-droed. Mae'n gyfuniad o ffasiwn, o tartan Albanaidd a gwin. Mae yna ddegau ohonyn nhw - rhai vintage, rhai prin, rhai sy'n gwneud i chi wingo, rhai gwych, ac maen nhw i gyd yn cynrychioli talp o hanes pêl-droed Cymru. Prynwch un, ond peidiwch â'i wisgo heb wybod y cefndir.

5. Nid Bale ydi bob dim

Mae cyfraniad Gareth Bale i bêl-droed Cymru yn amhrisiadwy, ond y dyn ei hun fyddai'r cyntaf i gydnabod mai'r tîm sy'n bwysig.

Does neb eisiau bloeddio canu Give Me Hope Joe Allen, cyn Gŵglo 'Pwy yw Joe Allen?'. Gwnewch eich gwaith cartref rŵan ar chwaraewyr fel Joe Morrell, Connor Roberts a Danny Ward.

6. Boddi wrth ymyl y lan

Dyma oedden ni'n arfer ei wneud (gweler pwynt 3). Mae angen ei dderbyn fel rhan o'n hanes balch, a symud ymlaen i'r llwyddiant presennol a'r holl gefnogwyr newydd sy'n dod yn sgil hynny - yn cynnwys hyd yn oed actorion Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Rob McElhenney

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Rob McElhenney

7. 1958 and all that

Fel Lloegr gyda'u Cwpan y Byd 1966, yn draddodiadol '58 ydi'r ffigwr glywch chi amlaf gan gefnogwyr Cymru. Dyma'r unig dro i Gymru gyrraedd Cwpan y Byd - a chael ein curo gan dîm Brasil yn y chwarteri. Fe gafodd yr unig gôl ei rwydo gan chwaraewr ifanc 17 oed oedd erioed wedi sgorio dros ei wlad o'r blaen - Pelé.

Erbyn hyn wrth gwrs mae ganddo ni'r ffigwr 2016 hefyd (pan aeth Cymru i'r rownd gynderfynol yn yr Ewros. Os nad ydych chi'n gwybod hynny, ewch nôl i rif 1 os gwelwch yn dda). Gobeithio y byddwn ni hefyd yn sôn am 2020 yn y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Mirrorpix
Disgrifiad o’r llun,

John Toshack yn sgorio yn erbyn Iwgoslafia yn yr Ewros yn 1976 - ond roedd yn camsefyll

Fe wnaeth Cymru hefyd gyrraedd rowndiau wyth ola' yr Ewros yn 1976. Does 'na'm cymaint o sôn am hynny gan fod trefn y bencampwriaeth yn wahanol iawn bryd hynny. Colli i Iwgoslafia wnaeth Cymru, ond wrth gwrs fel ffan roeddech chi'n gwybod hynny.

8. Y lejynds

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mwy o gapiau na neb arall dros Gymru, a'r neges yma i gefnogwyr Cymru ar ôl colli yn erbyn Lloegr yn Euro 2016 yn rhan o chwedloniaeth erbyn hyn

I fod yn ffan, mae angen adnabod mwy na'r enwau mawr fel Ian Rush, John Charles, Ryan Giggs ac Aaron Ramsey.

Mae'n bwysig gwybod nad gallu ar y bêl ydi'r unig ffactor sy'n creu chwaraewr yn arwr. Mae angen yr X Factor. Gall hynny fod am fod yn gymeriad hoffus a lliwgar (e.e. Mickey Thomas), ymroddiad a chalon fawr (Gary Speed/Joey Jones), neu am wneud rhywbeth sy'n aros yn y cof am byth ac yn mynd tu hwnt i'r gêm (Chris Gunter/Joe Ledley).

9. Y caneuon

Roedd 'na gyfnod pan mai'r brif siant mewn gemau oedd "Wa-les, Wa-les, Wa-les" undonog. Mae pethau wedi gwella ar ac oddi ar y cae.

Mae'r Barry Horns (band pres wedi eu henwi ar ôl y chwaraewr enillodd 59 cap rhwng 1987-1997) wedi bod yn codi'r ysbryd ers tro, mae Hen Wlad Fy Nhadau a Chalon Lân i'w clywed ymhob gêm, ac mae 'na glasuron newydd wedi dod i'r amlwg dros y blynyddoedd diweddaraf fel Viva Gareth Bale a Zombie Nation.

10. Don't Take Me Home

Peidiwch â dweud gormod. Mae'n anodd smalio eich bod wedi bod yn rhan o Wales Away (y cefnogwyr sy'n dilyn y tîm i'w gemau oddi cartref ar draws y byd) yn ystod y blynyddoedd tywyll - roedd cyn lleied yn mynd ar adegau fydden nhw'n siŵr o gofio'ch wyneb.

Ond os oes rhywun yn dechrau amau eich bod yn blyffio, mae ffordd hawdd iawn o ddod allan o'r twll.

Rhowch eich breichiau yn yr awyr, dechreuwch ganu Don't Take Me Home (i diwn sy'n perthyn drwy briodas i Achy Breaky Heart gan Billy Ray Cyrus), a fydd yr amheuwr - ac unrhyw gefnogwr arall - yn ymuno'n awtomatig, gan roi'r cyfle i chi sleifio i ffwrdd.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig