Colofn Owain Fôn Williams: 'Ti'm yn siŵr be' sydd o dy flaen di'
- Cyhoeddwyd
Drwy gydol ymgyrch yr Ewros bydd Cymru Fyw yn cyhoeddi cyfres o flogs gan gôl-geidwad sgwad Euro 2016, Owain Fôn Williams.
Yn ei golofn gyntaf, mae'n trafod be' sy'n digwydd o fewn y garfan ar drothwy gêm gyntaf pencampwriaeth a sut fydd un o sêr y tîm yn helpu i reoli nerfau'r sgwad.
Cyn mynd i Ffrainc yn 2016 wnaethon ni golli - a cholli'n drwm - yn erbyn Sweden.
Doedd y perfformiad ddim yn grêt ac roedd yr hogia' efo'u pennau i lawr ar ôl y canlyniad, ond yn fuan iawn ar ôl cyrraedd Ffrainc y bore wedyn roeddan ni wedi anghofio am honno - a dechrau meddwl yn syth bin am chwarae Slofacia yn Bordeaux a pharatoi at honno.
Dyna dwi'n siŵr fydd yr hogia' wedi ei wneud rŵan ar ôl colli i Ffrainc a chael gêm gyfartal yn erbyn Abania. Fyddan nhw wedi anghofio am y ddwy gêm ac yn barod am Y Swistir.
Dwi'n siŵr byddai Cymru wedi bod eisiau cael gôl yn y gemau hynny cyn mynd i Baku, ond y peth pwysicaf ydi eu bod nhw i gyd wedi dod drwyddo yn iach, a'u bod nhw wedi cael munudau dan eu belt o ran chwarae, achos tydi rhai heb chwarae ers 'chydig o wythnosau efo tymhorau pawb wedi dod i ben ar wahanol adegau.
Alli di ymarfer hynny ti eisiau, ond i gael dy hun yn match-fit ac yn barod dim jest at fory, ond hefyd at gêm arall pedwar diwrnod wedyn, a gêm arall pedwar diwrnod wedyn - alli di ddim cael y ffitrwydd yna drwy ymarfer mae angen gemau ac mae'r hogia' rŵan wedi cael hynny.
Yr 11 ar y cae
Mi fydd gan yr hogia' ryw fath o syniad pwy fydd yr 11 fydd yn dechrau ers dechrau'r wythnos faswn i'n meddwl. Be' fydd y tîm rheoli yn ei wneud ydi tynnu chwaraewyr allan o'r 11 sy'n dechrau a rhoi rhai eraill yn eu lle nhw jest i bawb gael rhyw fath o flas ar y siâp fyddan nhw'n defnyddio a'r ffordd fydd Rob Page yn disgwyl i'r hogia' chwarae.
Fyddan nhw'n gwybod erbyn heddiw, neu heno o leia, pwy fydd yn dechrau. Mae'n bwysig iawn bod y cwbl lot yn gwybod be' di'r swydd - dim jest yr 11 cynta' - achos mae unrhyw beth yn gallu digwydd mewn gêm.
Gareth Bale yn tynnu'r pwysau
Yn naturiol pan mae gen ti gêm mor fawr ar y scale yma, ti'n mynd i fod yn nerfus. Ti'm yn siŵr be' sydd o dy flaen di a ti'n gwybod y bydd miliynau yn gwylio'r gêm ar y teledu ac yn gwrando ar y radio - miliynau ar draws y byd. Mae 'na bwysau mawr.
Be' sy'n dda a be' nes i sylwi o'm mhrofiad i ydi mae gen ti rai fel Gareth Bale a Ramsey sydd wedi chwarae ar y lefel uchaf fedri di.
Dwi'n cofio pan oeddan ni'n chwarae yn erbyn Lloegr, y gêm fwya' oedd o'n blaenau ni yn Ewro 2016, a ro'n i'n disgwyl i bawb fod dipyn bach ar edge a nerfus. Tua 45 munud cyn i ni fynd am y stadiwm roddodd Gareth Bale gnoc ar fy nrws i a dyma fi'n agor y drws a gofyn 'Be tisho?'. Dyma fo'n dweud 'Pwy sy'n mynd i guro'r US Open - y golff?'
Ro'n i'n meddwl 'Da ni'n mynd i chwarae yn erbyn Lloegr yn munud boi!' ond be' oedd o'n wneud oedd newid agwedd yr hogia i dynnu yr edge o'r nerfusrwydd o'r gêm a phwysau oedd yr holl media yn ei roi ar y gêm.
Fydd yr hogia' yn nerfus does dim dwywaith am hynny, doedd rhai ohonyn nhw ddim yn Euro 2016 felly does ganddyn nhw ddim profiad o gwbl o fod mewn twrnamaint fel yma - felly mae'r profiad sydd gan y hogia' sydd wedi bod yn ofnadwy o bwysig.
Pwy fydd golwr Cymru?
Pa un fydd yn chwarae ddydd Sadwrn - Wayne Hennessey neu Danny Ward? Mae'n anodd ofnadwy oherwydd mae Wayne Hennessey wedi rhoi Cymru yn ôl yn Euro 2020 - y fo sydd wedi chwarae mwyafrif y gemau yn yr ymgyrch felly fasa ti'n meddwl yn naturiol mai fo sy'n dechra' yn y gôl.
Mae ei brofiad o yn anhygoel - 96 o gapiau dros y wlad, bob tro rhwng y pyst mae o'n gadarn, mae o'n steady... be' arall tisho mewn gôl-geidwad?
Wedyn ti'n sbïo ar Danny Ward, ac mae o wedi disgwyl am ei gyfle. Pan wnaeth Wayne Hennessey frifo, Adam Davies roddodd Ryan Giggs yn y gôl.
Yn anffodus iddo fo gafodd o anaf yr un pryd â Wayne Hennessey a dyna pryd gafodd Danny Ward ei gyfle ac mae o wedi gafael yn y cyfle efo dwy law - mae o wedi gwneud yn arbennig o dda i Gymru.
Peth arall efo Danny Ward ydi, mae o'n gallu delio efo pwysa'. Fo wnaeth ddechrau i Gymru yn erbyn Slofacia yn Bordeaux i agor y sioe yn Ffrainc.
Felly ydi rhywun yn mynd efo profiad Wayne Hennessey neu'r dyn sydd heb wneud dim byd o'i le ac sydd efo'i afael yn y crys - sef Danny Ward? Mae'n mynd i fod yn ddewis anodd ofnadwy.
Hefyd o ddiddordeb: