Ffordd osgoi Llandeilo 'ddim yn rhan o adolygiad'
- Cyhoeddwyd
Mae wedi dod i'r amlwg na fydd penderfyniad i rewi cynlluniau adeiladu ffyrdd newydd yng Nghymru yn cynnwys cynllun ffordd osgoi ddadleuol yn y gorllewin wedi'r cyfan.
Ddydd Llun fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru fwriad i oedi pob cynllun newydd am y tro er mwyn cynnal adolygiad, ag eithrio prosiectau sydd eisoes wedi dechrau, fel ffordd Blaenau'r Cymoedd a ffordd osgoi Caernarfon.
Byddai hynny wedi dod â chynllun ffordd osgoi Llandeilo i stop tra bo'r weinyddiaeth yn ystyried effeithiau cynlluniau trafnidiaeth newydd ar ymdrechion i leihau allyriadau carbon.
Ond mae'r llywodraeth wedi cadarnhau bellach na fydd cynllun Llandeilo'n rhan o'r adolygiad.
Cafodd cyhoeddiad ddydd Llun gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters ganmoliaeth gan yr ymgyrchydd amgylcheddol blaenllaw, Greta Thunberg.
Dywedodd Mr Waters bod rhaid "rhoi'r gorau i wario arian ar brosiectau sy'n annog mwy o bobl i yrru" i geisio cyrraedd targed statudol o allyriadau sero-net erbyn 2050.
Ond mae datganiad byr diweddaraf Llywodraeth Cymru'n awgrymu tro pedol yn achos cynllun ffordd osgoi Llandeilo.
Dywedodd llefarydd: "Yn dilyn datganiad y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar 22 Mehefin, bydd ffordd osgoi Llandeilo, oedd yn rhan o'r cytundeb cyllidebol rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth Lafur Cymru yn y Senedd flaenorol, ddim yn rhan o'r Adolygiad Ffyrdd."
Cytunodd y ddwy blaid ar y cynllun, sy'n werth £50m, yn ystod trafodaethau ynghylch y Gyllideb yn 2016.
Roedd y cynllun eisoes wedi ei oedi tan 2025 cyn cyhoeddiad dechrau'r wythnos.
Mae yna bwysau i godi ffordd osgoi yn Llandeilo ers hanner canrif oherwydd problemau traffig yng nghanol y dref a phryderon cynyddol ynghylch lefelau llygredd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd18 Awst 2020
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2020