'Delta ydy'r math amlycaf o Covid-19 drwy Gymru gyfan'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
wrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Yr amrywiolyn Delta o Covid-19 ydy'r un mwyaf amlwg drwy Gymru gyfan erbyn hyn, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r amrywiad bellach wedi disodli mathau eraill o coronafeirws fel yr amlycaf ym mhob ardal bwrdd iechyd.

Mewn ffigyrau newydd a gyhoeddwyd ddydd Iau, cyfanswm yr achosion Delta ydy 1,749 - cynnydd o 961 ers y diweddariad diwethaf ar 24 Mehefin.

Dywedodd Dr Giri Shankar, cyfarwyddwr digwyddiad ICC, bod Gwynedd yn dangos "cynnydd sylweddol mewn achosion".

"Rydym yn gweld nifer yr achosion yn cynyddu ledled Cymru ond yn enwedig yng ngogledd Cymru lle mae teithio i Loegr ac oddi yno at ddibenion gwaith a hamdden yn gyffredin," meddai Dr Shankar.

Plediodd ar bobl, yn enwedig yn y gogledd, i gadw at y canllawiau ac i gael eu brechu.

Ychwanegodd: "Manteisiwch ar eich cynnig i gael brechiad pan fyddwch yn ei gael oherwydd mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn dangos bod brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca yn effeithiol yn erbyn amrywiolyn Delta ar ôl dau ddos."

Ar nodyn ychydig yn fwy cadarnhaol, mae nifer y bobl sydd yn derbyn triniaeth mewn ysbyty ar gyfer y feirws yn parhau'n isel.

Ar 30 Mehefin, roedd 86 o gleifion Covid mewn gwelyau ysbyty - y ffigwr isaf ers dechrau'r pandemig am yr ail ddiwrnod yn olynol,

Mae'r niferoedd hyn yn cynnwys cleifion sy'n gwella a'r rhai sy'n cael eu hamau o fod gyda Covid ond sy'n aros am ganlyniadau profion.

Bellach mae cleifion Covid - gan gynnwys y rhai sy'n gwella - yn cyfrif am 1% o holl gleifion ysbytai. Cyrhaeddodd y ffigwr yna 36% cyn y Nadolig.

Mae bron i ddwy ran o dair (63%) o'r achosion positif yn yr adroddiad dyddiol diweddaraf yn bobl dan 30 oed.

Mae ychydig dros 15% o'r holl achosion yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn gysylltiedig ag ysgolion.

Er mai yn y gogledd-ddwyrain mae'r nifer uchaf o achosion yn gysylltiedig ag ysgolion, mae un ysgol yn y canolbarth ac un arall yn y brifddinas hefyd wedi cofnodi nifer o achosion.

Mae 19 o achosion positif o Covid-19 yn Ysgol Glantaf, Caerdydd, gan achosi 325 o bobl i hunan-ynysu, yn ôl Cyngor Caerdydd.

Yn y cyfamser, mae grŵp o ddisgyblion ym Mlwyddyn 9 yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth yn hunan-ynysu am 10 diwrnod ar ôl achos positif yn yr ysgol.

Ychwanegodd Cyngor Ceredigion: "Yn ogystal, cysylltwyd â disgyblion sy'n teithio ar ddau fws a gofynnwyd iddynt hunan-ynysu am 10 diwrnod hefyd.

"Daw'r disgyblion hyn o fwy nag un Grŵp Blwyddyn o Ysgol Gyfun Penweddig."

Pryderon am y ffliw

Wrth siarad ar Dros Ginio ar Radio Cymru, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, y gallai ffliw fod bron yn gymaint o fygythiad i iechyd y cyhoedd â Covid dros y misoedd nesaf.

"Rwyf bron yr un mor bryderus am yr achosion posib o'r ffliw ag ydw i am Covid," meddai ddydd Iau.

"Dyw pobl ddim wedi datblygu imiwnedd dros y 18 mis diwethaf oherwydd doedd dim llawer o ffliw o gwmpas, ac felly 'dyn ni'n pryderu y bydd y ffliw yn dychwelyd.

"Ac wrth gwrs nid yw'r brechlynnau sydd ar gael i atal ffliw mor effeithiol â'r rhai sydd ar gael i atal Covid.

"Mae'r Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) wedi awgrymu y bydd yn bosib darparu dau frechlyn ar yr un pryd a fydd yn symleiddio'r broses o geisio cadw'r cyhoedd yn ddiogel."