Covid-19: 570 o achosion newydd ond dim marwolaethau
- Cyhoeddwyd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 570 yn fwy o achosion positif o coronafeirws dros gyfnod o 24 awr.
Cyfanswm yr achosion positif erbyn hyn yw 219,296 gyda chyfanswm y marwolaethau yn aros ar 5,575.
Nifer y bobl sydd wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn yw 2,261,066, sef 71.7% o'r boblogaeth.
Mae 1,695,819 o bobl wedi cael ail ddos, sef 53.8% o'r boblogaeth.
Mae'r gyfradd achosion ar gyfer Cymru wedi codi eto i 71.7 fesul 100,000 o'r boblogaeth dros saith niwrnod. 10 oedd y ffigwr hwnnw ar ddechrau Mehefin.
Pump o siroedd y gogledd sydd â'r cyfraddau uchaf - Sir Y Fflint (161.4), Wrecsam (147.8), Sir Ddinbych (146.3), Conwy (102.4) a Gwynedd (102.0).
Cafodd 165 o'r achosion diweddaraf eu cofnodi yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Cyfraddau ffigwr dwbl sydd yn achos pob sir arall oni bai am Gaerdydd (100.0), ble cofnodwyd 83 o'r achosion coronafeirws mwyaf diweddar.
Merthyr Tudful (23.2), Casnewydd (24.6), Powys (27.9) a Blaenau Gwent (30.1) sydd â'r cyfraddau isaf.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn berthnasol i'r 24 awr hyd at 09:00 ddydd Iau.
Does dim marwolaethau yn gysylltiedig â coronafeirws wedi eu cofnodi yng Nghymru ers 23 Mehefin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2021