Lemfreck: Y Gymru rwy'n ei hadnabod

  • Cyhoeddwyd
Lemfreck yng NghasnewyddFfynhonnell y llun, S4c
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r "gwirioneddau caled" ydy bod gan Gymru "berthynas wael gydag amrywiaeth", meddai'r artist Lemfreck

Ychydig o bobl sydd yn llwyddo i gyfuno gyrfa fel cerddor ac fel athletwr, ond dyna'r ddau lwybr mae Lemarl Freckleton - neu'r artist Lemfreck - yn eu dilyn ar hyn o bryd.

Yn sgil ei sengl U Gd? cafodd y gŵr ifanc amryddawn o Gasnewydd, sy'n un o gyn artistiaid cynllun Gorwelion y BBC, ei chwarae ar BBC Music Introducing fel un o'r artistiaid i ddal ein sylw yn 2021. Mae newydd gyfarwyddo ei fideo ei hun i'w sengl newydd, Falling.

Wedi hyfforddi fel rhedwr ers roedd yn 17 mlwydd oed ac ennill y ras 200m ym Mhencampwriaeth Cymru yn 2019, mae'n gobeithio cynrychioli ei wlad yn y ras gyfnewid 100m yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham yn 2022.

Cerddoriaeth o darddiad du

Yn gynharach yn 2021, fe gyflwynodd Lemfreck bennod o'r gyfres Curadur ar S4C - cyfres sy'n gwahodd unigolion dylanwadol ym myd cerddoriaeth Cymru i ddewis a dethol yr artistiaid i bob rhaglen.

Dewisodd ganolbwyntio ar gerddoriaeth o darddiad du o'r gornel o Gymru lle cafodd ei fagu, sef y de ddwyrain; Mace the Great, Lily Beau, Luke RV a Dom a Lloyd.

Ffynhonnell y llun, S4c
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rapiwr o Gaerdydd Mace the Great wedi rhyddhau ei albym cyntaf, My Side of The Bridge, yn 2021

Roedd y rhaglen yn gwthio ffiniau o ran dwyieithrwydd ar S4C drwy blethu'r Gymraeg a'r Saesneg yn naturiol mewn sgwrs.

Bu Cymru Fyw yn holi Lemfreck am y pynciau a drafodwyd ar y rhaglen ynghylch hunaniaeth, iaith a cherddoriaeth.

Beth roeddet ti eisiau ei ddangos yn dy ddewis o artistiaid ar raglen Curadur?

Y Gymru rwy'n ei hadnabod. Ro'n i jyst eisiau i bobl weld beth dwi'n ei weld, y diwylliant a'r talent anhygoel sydd ar gael. Ro'n i eisiau cyfle i ddangos y gerddoriaeth anhygoel o darddiad du sydd byth yn cael ei dangos yng Nghymru ac roedd Ynyr, y cyfarwyddwr, yn gymaint o help, wnaeth e ddim lleihau'r weledigaeth o gwbl - fe allech chi ddweud fod ganddon ni bwynt i'w brofi/rhywbeth i'w ddweud; fe helpodd e ni i wneud hynny.

Ffynhonnell y llun, S4c
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y rapwyr Dom a Lloyd o Gaerdydd eu bod am ganu yn Gymraeg am eu profiad o fod yn "fechgyn du, yn siarad Cymraeg yn mynd i ysgolion Cymraeg."

Beth yw dy berthynas gyda'r iaith Gymraeg a'r diwylliant cerddorol o gwmpas yr iaith?

Mae fy mherthynas gyda'r iaith Gymraeg yn gryfach na'r rhan fwyaf o bobl sydd ddim yn ei siarad fel iaith gyntaf. Fe es i i ysgol Gymraeg am gyfnod cyn inni symud ac wedyn roedd yr ysgol yn rhy bell, felly penderfynodd fy rhieni fy rhoi mewn ysgol oedd yn y dalgylch. Felly er mai dim ond am funud ro'n i yno, dwi'n cofio lot a dwi wedi ei ddatblygu dros y blynyddoedd diwethaf.

Ond dwi ddim mor agos at y sîn gerddoriaeth Gymraeg. Yn bennaf achos dwi ddim yn gweld fy hun ynddi - ond mae hynny wedi newid lot yn ddiweddar. Mae gen i ffrind agos iawn, Casi Wyn, sy'n anhygoel. Fy hoff gyfansoddwr Cymraeg o bell ffordd! Roedd y prosiect Ani Glass yna'n wych hefyd.

Soniwyd ar y rhaglen am ddiffyg cynrychiolaeth weledol fel esiampl i bobl ifanc ddu yn y diwylliant Cymraeg. Oeddet ti'n teimlo hynny wrth dyfu fyny ac ydy pethau wedi newid yn fwy diweddar?

100%. Os fedrwch chi ddim gweld rhywbeth, fedrwch chi ddim credu rhywbeth ac wedyn mae'n anodd i chi fod y peth yna. Dwi yn credu ei fod yn newid ond dim ond yn ddiweddar IAWN, yn y misoedd diwethaf, faswn i'n ddweud mae 'na newid yn y dynamic.

Mae pobl yn gofyn y cwestiynau iawn nawr a phan mae rhywun yn gofyn y cwestiynau iawn, rydych chi'n dysgu gwirioneddau caled. Un o'r rheiny ydy Cymru a'i pherthynas wael gydag amrywiaeth.

Ffynhonnell y llun, S4c
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n rhaid inni newid y ffordd rydyn ni'n derbyn menywod du yn yr iaith Gymraeg," meddai Lily Beau ar y rhaglen.

Oedd gwthio ffiniau'r sianel drwy gymysgu Cymraeg a Saesneg yn benderfyniad bwriadol? A ddylid gwneud mwy o hyn i agor yr iaith a'r diwylliant i bobl newydd, neu oes yna beryg y gallai hynny roi'r argraff fod y Gymraeg yn ddiangen?

Roedd yn benderfyniad bwriadol a dwi'n ddiolchgar bod y penaethiaid yn S4C wedi dangos eu dealltwriaeth o ran hyn. Beth sy'n gwneud iaith yn llai hygyrch (accessible) yw ei chyfyngiadau. Mae Wenglish yn cŵl, dyma lle mae'n iaith ni wedi datblygu ac mae angen inni gofleidio hynny. Oes, mae 'na amser i fod yn filwriaethus a gwneud yn siŵr bod yr iaith yn aros yn gryf ond mae yr un mor bwysig i wneud yn siŵr bod y byd yn gallu cyrraedd ati a'i gweld. Fedrai'r Gymraeg fyth fod yn ddiangen, mae'n rhan o'n hunaniaeth ni, mae'n rhan o'n cyfathrebu ni, bydd wastad ei hangen.

Oes 'na newid wedi bod mewn agweddau tuag at y Gymraeg neu oes 'na newid wedi bod mewn agweddau o fewn y diwylliant Cymraeg?

Dwi'n credu bod yr ymgyrch annibyniaeth wedi gwneud i ni edrych ar ein hunain. Os ydyn ni'n mynd ar ein liwt ein hunain pa fath o Gymru ydyn ni eisiau bod? Mae'n swnio fel ystrydeb efallai ond dim ond drwy wir adnabod eich hun fedrwch chi wybod i ble rydych chi'n mynd. Dwi ddim yn siŵr os ydi hyn yn ddechrau rhywbeth ond dwi'n mwynhau pwysigrwydd y foment.

Ffynhonnell y llun, S4c
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r artist hip hop o Gastell-nedd, Luke RV, yn perfformio yng Ngŵyl Focus yn Wrecsam fis Hydref 2021

Oes 'na newid wedi bod yn y syniad o hunaniaeth Gymreig?

Yn bendant, nid gwlad y rolling hills a Katherine Jenkins ydyn ni mwyach. Mae 'na ddiwylliant cŵl, dwfn, yma - ddewch chi ddim o hyd iddo yn unman arall yn y byd. Rydyn ni'n gwybod pwy ydyn ni a beth ydyn ni eisiau bod.

Ffynhonnell y llun, S4c