Rogers a Carter i ennill capiau cyntaf yn erbyn Canada
- Cyhoeddwyd

Bydd Tom Rogers a Ben Carter yn chwarae eu gemau cyntaf dros Gymru ddydd Sadwrn
Bydd asgellwr y Scarlets, Tom Rogers, a chlo y Dreigiau, Ben Carter, yn ennill eu capiau cyntaf wrth i Gymru herio Canada yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Mae'n bosib y bydd tri chwaraewr yn rhagor - Taine Basham, Gareth Thomas a Ben Thomas - yn chwarae eu gemau rhyngwladol cyntaf oddi ar y fainc.
Bydd y cefnwr Leigh Halfpenny yn ennill ei 100fed cap dros Gymru a'r Llewod yn Stadiwm Principality, tra mai'r canolwr Jonathan Davies fydd yn gapten.
Mae Halfpenny wedi ennill 95 cap i Gymru a phedwar i'r Llewod hyd yma.

Jonathan Davies sy'n arwain y garfan yn absenoldeb Alun Wyn Jones
Bydd Cymru'n herio Canada ddydd Sadwrn cyn croesawu Ariannin i Stadiwm Principality ar gyfer dwy gêm ar 10 a 17 Gorffennaf.
Bydd 8,200 o gefnogwyr yn cael mynychu'r gemau hynny.
Mae'n rhaid i Gymru ymdopi heb 10 o'u chwaraewyr mwyaf blaenllaw ar gyfer y gemau hynny oherwydd eu bod yn Ne Affrica gyda charfan y Llewod.
Ni fydd Alun Wyn Jones a Justin Tipuric ar gael chwaith wedi i'r ddau gael eu hanafu yng ngêm baratoadol gyntaf y Llewod yn erbyn Japan dros y penwythnos.

Tîm Cymru
Leigh Halfpenny; Jonah Holmes, Uilisi Halaholo, Jonathan Davies (C), Tom Rogers; Callum Sheedy, Tomos Williams; Nicky Smith, Elliot Dee, Dillon Lewis, Ben Carter, Will Rowlands, Ross Moriarty, James Botham, Aaron Wainwright.
Eilyddion: Ryan Elias, Gareth Thomas, Leon Brown, Josh Turnbull, Taine Basham, Kieran Hardy, Ben Thomas, Nick Tompkins.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2021