Cofio'r trip Ysgol Sul i Bwllheli a drodd yn drychineb

  • Cyhoeddwyd
Trychineb OfnadwyFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Hanes y drychineb yn Baner ac Amserau Cymru, 5 Gorffennaf 1899

Ar fore Sadwrn, 1 Gorffennaf 1899, roedd pentrefi Dyffryn Peris yn ferw gwyllt o gyffro wrth i 750 o drigolion baratoi ar gyfer trip Ysgolion Sul Eglwysi'r ardal i Bwllheli.

I lawer, dyma oedd uchafbwynt eu blwyddyn, yn gyfle prin i ddianc o gysgod y tomennydd llechi i lesni tref glan môr, ond, buan trodd eu llawenydd yn alar pan foddodd deuddeg o drigolion pentref Dinorwig mewn damwain oddi ar arfordir Llŷn y prynhawn hwnnw.

Yr hanesydd Elin Tomos sy'n adrodd yr hanes trist.

Dewiswyd y dydd Sadwrn cyntaf ym mis Gorffennaf yn fwriadol; dyma'r 'Sadwrn setlo' a Chwarel Dinorwig ynghau ar ôl 'tâl mawr' y noson cynt.

Gydag ychydig o arian yn llosgi yn eu pocedi heidiodd aelodau o wyth Ysgol Sul yn ardaloedd Dinorwig, Deiniolen, Llanberis, Trosybwlch, Cwm-y-glo, Penisa'r-waun a Llanrug i ddal y trên rhad am hanner awr wedi saith y bore.

Ffynhonnell y llun, Phil a Lisa George
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gweithwyr Chwarel Dinorwig newydd gael eu talu, felly fe heidiodd criwiau mawr i Bwllheli am y diwrnod

Ymhen tair awr, cyrhaeddodd y teithwyr orsaf Pwllheli; yno, roedd llond gwlad o weithgareddau yn eu disgwyl. Erbyn troad y ganrif, diolch i fuddsoddiadau'r miliwnydd o Gaerdydd, Solomon Andrews, roedd Pwllheli yn datblygu'n gyrchfan gwyliau hynod boblogaidd.

Anelodd rhai am y dref, tra aeth eraill ymlaen i blasty Glyn-y-weddw yn Llanbedrog.

Taith cwch

Er gwaetha'r glaw mân a'r gwyntoedd cryfion, penderfynodd y gweddill i grwydro i gyfeiriad y traeth yn y gobaith o fachu taith ar y môr. Casglodd naw ohonynt o amgylch cwch meistr yr harbwr, Capten Rees Williams.

Gŵr pedair-ar-bymtheg mlwydd oed o'r enw Robert Thomas oedd yn gyfrifol am rwyfo'r cwch y diwrnod hwnnw ac yn ei farn ef roedd naw o deithwyr yn ormod.

Serch hynny, mynnodd teithiwr o'r enw John Hughes, y dylai tri phlentyn ychwanegol ymuno gan olygu bod deuddeg o deithwyr ar fwrdd y cwch rwyfo fechan.

Y criw ar y cwch oedd:

  • John Hughes, Tŷ Ddewi, Dinorwig a'i blant - John Rowland, Catherine Ann ac Ellen;

  • teulu Ty'n-y-fawnog, Owen Thomas a'i wraig Ellen a'u plant - Owen Parry, William Edward ac Ellen;

  • dau frawd o Dan-y-bwlch sef Thomas a Richard Hughes;

  • Charles Davies, Bron Elidir.

Mae ymchwil trylwyr Idris Thomas yn awgrymu nad oedd Jane a Richard Davies, rhieni Charles - a oedd yn dair-ar-ddeg mlwydd oed ar y pryd - eisiau iddo fynd ar y trip gan fod ei dad Richard yn ofni bod rhywbeth drwg am ddigwydd iddo.

Llwythwyd y teithwyr ym mhen ôl y cwch gyda Robert Thomas, y cychwr yn y pen blaen a John Hughes, Tŷ Ddewi y tu ôl iddo.

Ffynhonnell y llun, Drwy garedigrwydd Ivor Jones a Rhiw.com
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y trychineb yn y môr gyferbyn â gwesty mawr South Beach

Trychineb

Tua milltir o'r lan, sylweddolodd Robert Thomas bod cyfeiriad y gwynt wedi newid a phenderfynodd mai troi'r cwch yn ôl tua'r lan fyddai orau. Wrth i'r cwch droi rhybuddiodd un o'r plant bod pen ôl y cwch yn dechrau llenwi â dŵr.

Wedi cynhyrfu, neidiodd John Hughes o'i sedd yn y pen blaen at ei blant ym mhen arall y cwch gan arwain at bwysau ychwanegol yn y pen oedd eisoes yn suddo. Er mwyn osgoi'r dŵr a oedd yn casglu ym mhen ôl y cwch, rhuthrodd y teithwyr i un ochr gan achosi i'r cwch ddymchwel.

Ac yntau'n nofiwr cryf, llwyddodd Robert Thomas i nofio ychydig oddi wrth y cwch ond roedd hi'n amlwg nad oedd ei deithwyr mor brofiadol ag ef.

Roedd yr olygfa a oedd yn ei wynebu yn un erchyll ac er iddo geisio achub un o'r plant nid oedd yn gallu gwneud ryw lawer ond aros a disgwyl am gymorth.

Oni bai fod cwch gŵr o'r enw William Peters wedi cyrraedd yn fuan wedyn mae'n debyg na fyddai Robert Thomas wedi goroesi'r trychineb chwaith. Bu farw pob un o'r teithwyr ac mae'n debyg nad oedd yr un ohonynt yn gallu nofio.

Yn ôl gohebydd Y Faner, 'fflachiodd… y newyddion pruddaidd fel mellten trwy holl gymdogaeth Pwllheli,' a chafwyd ymdrech arwrol gan bysgotwyr a chychwyr yr ardal wrth iddynt geisio darganfod y cyrff a'u cludo i'r lan.

Y gymuned yn cyd-alaru

Erbyn nos Lun, 3 Gorffennaf, roedd y chwilwyr wedi dod o hyd i bawb ac eithrio John Rowland, mab John Hughes, Tŷ Ddewi; daethpwyd o hyd i'w gorff ef ger traeth Abererch ar 8 Gorffennaf.

Ffynhonnell y llun, Elin Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Carreg fedd plant John a Jane Hughes. Bu farw tri o'u plant, ynghyd â John ei hun, yn y digwyddiad erchyll ym Mhwllheli

Er nad oedd y chwilwyr wedi dod o hyd i gorff John Rowland eto, penderfynwyd y dylid claddu'r gweddill yr un diwrnod. Cynhaliwyd cynhebrwng ar gyfer un-ar-ddeg o drigolion ar ddydd Iau, 6 Gorffennaf.

Mae'n debyg bod oddeutu 4,000 o bobl wedi casglu ym mhentref Dinorwig y diwrnod hwnnw gyda cherbydau yn cludo degau i fyny o Lanberis a phentrefi'r dyffryn a dros y mynydd o Fethesda.

Ffynhonnell y llun, Eco'r Wyddfa
Disgrifiad o’r llun,

Daeth miloedd i'r angladd ym Mynwent Crist, Llandinorwig

Er bod damweiniau a marwolaethau disymwth yn ddigwyddiadau cyffredin ym mhentrefi'r chwareli dros ganrif a mwy yn ôl, does dim dwywaith mai dyma'r trychineb fwyaf ysgytwol a brofodd unrhyw gymuned chwarelyddol Gymreig erioed.

Pynciau cysylltiedig