Cofio trychineb trên bach yr Wyddfa
- Cyhoeddwyd
Eleni, mae 'trên bach yr Wyddfa' yn dathlu ei ben-blwydd yn 125 mlwydd oed.
Ar Ddydd Llun y Pasg, 6 Ebrill 1896, agorwyd Rheilffordd yr Wyddfa yn swyddogol. Dyma ddigwyddiad oedd yn benllanw ar ddegawdau o drafod, trefnu ac ymgyrchu, ond, er y bwrlwm a'r cyffro dyma ddiwrnod trist yn hanes Llanberis - a Chymru - pan fu damwain angheuol y prynhawn hwnnw wrth i drên ruthro oddi ar y cledrau.
Yma mae'r hanesydd Elin Tomos yn adrodd hanes trist diwrnod hwnnw:
O Lundain i gopa Cymru
Syr Richard Moon, Cadeirydd London and North Western Railway oedd y cyntaf i awgrymu y dylid adeiladu rheilffordd i gopa'r Wyddfa. Pan gwblhawyd y llinell o Fangor i Lanberis ym 1869 roedd Moon yn awyddus i fentro ymhellach fyth a sicrhau rheilffordd uniongyrchol o Lundain, prifddinas yr Ymerodraeth, i gopa mynydd uchaf Cymru.
Un dyn a oedd yn daer yn erbyn y syniad oedd George William Duff Assheton Smith, perchennog Chwarel Dinorwig ac un o'r ystadau mwyaf pwerus yng Nghymru: Ystâd y Faenol, ger Bangor.
Yn nyddiau George, honnwyd bod modd iddo gerdded o Blasty'r Faenol i gopa'r Wyddfa - pellter o oddeutu deng milltir - a hynny, heb gamu oddi ar ei dir!
Er mwyn gwireddu'r freuddwyd o redeg trên i'r copa byddai'n rhaid ennill sêl bendith Assheton Smith, ond, yn ei farn ef, mi fyddai adeiladu rheilffordd yn difetha'r golygfeydd o harddwch naturiol a dim ond pan ddaeth sibrydion am adeiladu rheilffordd o Ryd-ddu i'r copa y newidiodd Assheton Smith ei feddwl.
Roedd y bygythiad o bentrefi eraill ger troed yr Wyddfa yn disodli 'hen bentref bach Llanbêr' yn fwy na digon i'w ddarbwyllo i gefnogi'r syniad gwreiddiol. Yn frysiog, ym mis Tachwedd 1894, sefydlwyd Snowdon Mountain Tramroad and Hotels Company Limited.
'Cyfnod newydd yn hanes Cymru'
Cwta fis yn ddiweddarach, bu cryn ddathlu ym mhentref Llanberis pan dorrwyd y dywarchen gyntaf gan Enid, merch fach bum mlwydd oed George, a'i wraig Laura Duff Assheton Smith. Mewn gwledd i ddilyn yng Ngwesty'r Fictoria yn Llanberis cynigwyd llwncdestun i 'ddechreu cyfnod newydd yn hanes Cymru.'
Adeiladwyd Rheilffordd yr Wyddfa rhwng Rhagfyr 1894 a Chwefror 1896, ar gyfanswm cost o £63,800 sy'n cyfateb i oddeutu £6.7 miliwn yn ein harian ni heddiw. Llwyddodd 150 o weithwyr efo dim ond ceibiau, rhawiau a dynameit osod bron i wyth cilometr o drac i fyny'r mynydd.
Fe barhaodd y dynion i weithio trwy ddau aeaf rhynllyd gan lwyddo i gwblhau'r gwaith mewn pedwar mis ar ddeg; ar gyfartaledd, gosodwyd dros 120 o lathenni o drac bob dydd. Roedd y gwaith o adeiladu rheilffordd i'r copa yn waith sychedig gyda nifer o weithwyr yn heidio i lawr i Lanberis ar nosweithiau Gwener i wario'u harian yn nhafarndai'r pentref.
Damwain angheuol
Agorwyd y rheilffordd yn swyddogol ar 6 Ebrill 1896, pan anfonwyd dau drên i'r copa toc wedi deg y bore hwnnw.
Ar y ffordd i lawr, aeth y locomotif stêm, L.A.D.A.S., i drafferthion ychydig gannoedd o lathenni uwchben Gorsaf Clogwyn. Collodd yr injan ei gafael ar ganol y cledrau gan achosi'r trên i gyflymu.
Ar droad uwchlaw Cwm-glas aeth L.A.D.A.S. oddi ar y cledrau a llithrodd y cerbyd dros y dibyn i'r cwm islaw. Llwyddodd y Rheolwr i godi'r brêc gan atal y cerbydau eraill rhag rhuthro dros yr ochr, gofynnwyd i'r holl deithwyr i aros yn eu seddi ac i beidio â chynhyrfu. Er gwaetha'r gorchymyn, neidiodd un teithiwr o'r enw Ellis Roberts, perchennog Gwesty'r Padarn Villa Llanberis, allan o'i sedd.
Yn dilyn y ddamwain, anfonwyd neges frys yn ôl lawr i Lanberis yn gofyn i R. H. Mills-Roberts, meddyg Ysbyty Chwarel Dinorwig, i deithio i fyny cyn gynted â phosib. Doedd dim modd i Mills-Roberts deithio ar y trên a bu'n rhaid iddo gerdded y mwyafrif o'r siwrne.
Anfonodd 'y rhai oedd wedi eu niweidio fwyaf difrifol i'r ysbytty', ond yn achos Ellis Roberts, bu'n rhaid torri ei goes dde yn y fan a'r lle, a bu farw'r diwrnod canlynol. Arhosodd y llenni ynghau ym mhob cartref yn Llanberis y diwrnod hwnnw fel arwydd o gydymdeimlad ei gymdogion.
Byddai damwain angheuol fel hyn ar ddiwrnod cynta'r fenter wedi bod yn ddigon i sawl cwmni, ond dal ati wnaeth Snowdon Mountain Tramroad and Hotels Company Limited ac fe ail agorwyd y llinell yr Hydref hwnnw.
Cant a chwarter o flynyddoedd yn ddiweddarach mae'n dal i bwffian ei ffordd i'r copa er bod Covid-19 wedi tynnu stêm o'r dathlu am y tro.
Hefyd o ddiddordeb