Ailagor hen gamlas yng nghanol y brifddinas
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Cyngor Caerdydd wedi dweud fod yna ddyhead i wneud canol y brifddinas yn fwy gwyrdd.
Mae'r cyngor wedi ei gyhuddo yn ystod blynyddoedd diweddar o godi gormod o fflatiau myfyrwyr.
Ond yn ôl Huw Thomas mae cynllun i ailagor hen gamlas dan Ffordd Churchill yn rhan o gynllun ehangach i greu ardaloedd deniadol ar gyfer cymdeithasu, cynnal digwyddiadau awyr agored a helpu i adfywio canol y brifddinas.
Ar hyn o bryd mae'r ffos oedd yn sicrhau fod dŵr glân yn llifo i'r dociau ynghudd dan dunelli o goncrit a tharmac ac ond i'w gweld bob hyn a hyn yn y ddinas.
Mae gan Alwyn Evans gof plentyn o'r ffos yn cael ei chladdu ar ddiwedd pedwardegau'r ganrif ddiwethaf.
"Ryw frith go' plentyn sydd genna i ohonyn nhw'n cau o yn y lle cyntaf, tua 1949/50 oedd hi.
"Yr unig reswm mae hwn mor bwysig oedd ei fod o'n cadw dŵr y doc yn ffres."
Ond bu'n rhaid ail agor y ffos ddiwedd y pumdegau.
"Roedden nhw'n poeni byddai bysys yn mynd drwy'r concrit 'ma ac yn penderfynu agor hi i fyny tua 1959, 60 rhywbeth felly. Roedd rhaid iddyn nhw atal y feeder, gweithio arno fo, rhoi pibellau enfawr yr holl ffordd lawr a'i gau o i fyny eto"
Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i bobl weld y dŵr yn llifo unwaith eto gan greu ardal ddeniadol ar gyfer cymdeithasu a hamddena fel mae Huw Thomas yn egluro.
"Yn yr hydref byddwn ni'n mynd ati i ddatgymalu Churchill Way a chreu ardal werdd yng nghanol y ddinas, bydd hefyd yn gyrchfan i bobl gwrdd."
Mae gwaelod Heol y Frenhines yn frith o siopau gweigion ac mae'r cyngor yn cydnabod nad oes yna gymaint o fuddsoddi wedi bod yno ag sydd mewn rhannau eraill o ganol y dre. Maen nhw'n gobeithio y bydd cynllun y gamlas yn help i adfywio'r ardal gan ddenu ymwelwyr a thrigolion lleol.
"Dwi'n awyddus iawn i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau fod 'na gefnogaeth i'r busnesau sydd wedi dioddef yng nghanol y ddinas, ond fel rhan o'r adfywiad hynny 'da ni'n benderfynol fel cyngor o greu'r awyrgylch, a chreu ardal wyrdd ehangach fydd hefyd yn gartref i gerddoriaeth fyw yn yr haf - ein bwriad ni ydy creu lle y bydd pobl yn hoffi treulio amser, ac mae'r gwyrddni'n rhan annatod o hynny."
Mae'r cyngor nawr yn gofyn i gontractwyr gynnig ar gyfer y gwaith
Ar ôl cael ei chuddio cyhyd, mae cyngor Caerdydd yn gobeithio y bydd gan y ffos ran amlwg i'w chwarae wrth adfywio canol y ddinas.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2020