Taith argyfwng newid hinsawdd yn cyrraedd Cymru
- Cyhoeddwyd
"Mae effeithiau newid hinsawdd i'w gweld yn barod a rhaid i wleidyddion weithredu ar frys," medd Nathan Munday - un o'r bobl ifanc a fydd yn ymuno â thaith gerdded arbennig a fydd yn cyrraedd Cymru ddydd Sadwrn.
Fe ddechreuodd y daith gyfnewid 1,000 o filltiroedd ar ddiwedd Uwch Gynhadledd y G7 yng Nghernyw ganol Mehefin ac fe fydd yn dod i ben ar drothwy cyfarfod COP26 y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow fis Tachwedd.
Y nod yw rhoi pwysau ar arweinwyr y byd i weithredu ar newid hinsawdd a thynnu eu sylw at ei effaithi ar y gwledydd tlotaf.
"Mae'r cynnydd allyriadau carbon yn arwain at fwy o afiechyd ac ansicrwydd, glaw trwm a sychder - mae gwledydd tlawd fel Ethiopia a Kenya yn wynebu problemau heddiw, nid fory," meddai Nathan Munday.
Ychwanegodd: "Mae yna dueddiad yn y wlad yma i gredu bod yr argyfwng yn mynd i ddigwydd yn y dyfodol ond mae'r tywydd yn effeithio ar ein brodyr a'n chwiorydd heddiw.
"Fel Cristion ifanc rwy' am wneud rhywbeth i helpu. Rhaid i eglwysi a chapeli godi eu lleisiau - mae'n ddyletswydd arnom i warchod y greadigaeth."
Bydd rhan Cymru o'r daith, sy'n 125 milltir, yn cychwyn yn Abertawe ar 3 Gorffennaf gan fynd trwy Fargam, Melin Ifan Ddu, Pen-rhys, Llantrisant, Caerdydd, Casnewydd, Magwyr a Chas-gwent cyn gorffen ym Mryste ar 12 Gorffennaf.
Mae'r daith gyfnewid yn cael ei threfnu gan Rwydwaith Hinsawdd Cristnogion Ifanc (YCCN) ac yn cael ei chefnogi gan yr Eglwys yng Nghymru.
Ar ddechrau'r daith ym Mehefin dywedodd Esgob Tyddewi, Dr Joanna Penberthy - yr esgob sy'n arwain ar yr amgylchedd: "Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd sy'n effeithio ar bob un ohonom.
"Bydd y penderfyniadau gaiff eu gwneud gan arweinwyr byd eleni gan gynnwys COP26 y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow yn cael canlyniadau difrifol ar gyfer dyfodol ein planed.
"Rwy'n cymeradwyo'r Cristnogion ifanc sydd wedi cynllunio'r daith gyfnewid i godi ymwybyddiaeth o'r materion dan sylw ac ymgyrchu dros gyfiawnder hinsawdd.
"Rwy'n gwahodd ein holl eglwysi, ysgolion ac aelodau i gymryd rhan yn yr ymgyrch. Mae pob cam ar hyd y ffordd yn alwad am gyfiawnder hinsawdd - gadewch i'n lleisiau gael eu clywed."
'Angen diogelu pobl, nid cyfrifon banc'
Rachel Mander yw cyd-arweinydd y daith gyfnewid: "Rydym yn sefyll yn gadarn gyda'r bobl a'r mannau sy'n cael eu bwrw i ddyled a thlodi oherwydd newid hinsawdd.
"Mae rhagor o allyriadau carbon yn golygu rhagor o afiechyd, mwy o ansicrwydd bwyd a mwy o dlodi.
"Byddwn ni yn ein 30au pan fydd y byd yn cynhesu 1.5 gradd. Fyddwn ni ddim yn gadael i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gynnal uwch gynadleddau ar drothwy ein drws i ddim ond clywed mwy o siarad heb unrhyw weithredu.
"Credwn ei bod yn bryd gwneud penderfyniadau sy'n diogelu pobl, nid cyfrifon banc, i benderfynu na fydd unrhyw wlad yn mynd i ddyled wrth ymdrin â newid hinsawdd. Mae'n gyfle diffiniol i wneud safiad."
Bydd y daith yng Nghymru yn dechrau gyda gweddi dros frecwast yn Eglwys Thomas Sant, Abertawe fore Sadwrn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2021