Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn penodi llywydd newydd

  • Cyhoeddwyd
Stephen WilliamsFfynhonnell y llun, John Smith
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stephen Williams wedi ei benodi am bedair blynedd

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau fod Stephen Williams wedi cael ei ethol fel y llywydd newydd.

Fe fydd Mr Williams yn olynu Kieran O'Connor ar ôl i'w gyfnod yn y rôl ddod i ben, ac mae Mr O'Connor wedi'i ethol yn is-lywydd oes gyda'r gymdeithas.

Bydd Mr Williams o Wrecsam yn aros ei rôl am bedair blynedd.

Un o'i ddyletswyddau cyntaf fydd penodi prif weithredwr newydd ar ôl i Jonathan Ford adael fis Mawrth yn dilyn pleidlais o ddiffyg hyder.

Cafodd Mike Jones ei ethol yn ddirprwy lywydd, a William Lloyd Williams a Mark Adams yn is-lywyddion.