Gweithiwr rheilffordd 'o fewn eiliad i gael ei daro'
- Cyhoeddwyd
Fe fu bron i weithiwr rheilffordd yng Ngwynedd gael ei daro gan drên wrth wneud gwaith cynnal a chadw, medd adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi.
Dywed arolygwyr fod y gweithiwr yn nhwnnel Llandygai, ger Bangor, pan fu o fewn eiliad i gael ei daro.
Yn ôl eu hadroddiad mae'n debyg mai dim ond sŵn corn y trên wnaeth atal damwain angheuol ar 13 Chwefror.
Cafodd y digwyddiad ei ffilmio ar gamera cylch cyfyng y trên.
Yn ôl adroddiad Cangen Ymchwilio Damweiniau Rheilffordd roedd y ddau beiriannydd, oedd yn cael eu cyflogi gan gontractwyr AmcoGiffen, yn asesu cyflwr y twnnel ar y pryd.
Roedd un o'r dynion yn rheoli'r safle, a'r llall yn asesu'r sefyllfa.
Llwyddodd y rheolwr i glywed y corn a gweiddi cyn camu i'r lein arall, ond fe wnaeth y llall gwympo a "dim ond llwyddo i rolio i'r bwlch rhwng y ddwy lein."
Dywed yr arolygwyr fod y gwasanaeth 10:25 o Amwythig i Gaergybi yn teithio ar gyflymdra o bron i 75 mya a bu'n rhaid i'r gyrrwr ddefnyddio'r brêc argyfwng a chanu'r corn.
Yn ôl yr adroddiad doedd rheolwr y safle na'r gweithiwr yn "ymwybodol eu bod yn gweithio ar linell oedd dal ar agor i draffig".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2019