Tasglu gwerth £70m i ddiogelu gweithwyr rheilffordd
- Cyhoeddwyd
Mae Network Rail wedi sefydlu tasglu gwerth £70m er mwyn gwella trefniadau diogelwch ar gyfer gweithwyr rheilffordd.
Daw'r penderfyniad ar ôl i Michael Lewis, 58, a Gareth Delbridge, 64, farw ar ôl cael eu taro gan drên ger Port Talbot ar 3 Gorffennaf.
Y gred yw bod y ddau wedi methu â chlywed y trên gan eu bod nhw'n gwisgo offer i amddiffyn eu clyw, ond mae'r ymchwiliad yn parhau.
Dywedodd y cwmni y byddai'r cynllun newydd yn cynnwys rhybuddion am drenau cyfagos, briffiau manylach, ac ymdrech i wella iechyd a ffitrwydd y gweithlu.
Dywedodd prif weithredwr Network Rail, Andrew Haines: "Dydw i ddim eisiau gweld gweithiwr arall yn marw, a dyma pam ein bod ni'n creu'r tîm newydd... er mwyn sbarduno newid a gwneud y gwaith yn fwy diogel i'n gweithwyr.
"Galla i ddim meddwl am dasg bwysicach."
Bydd y tasglu'n rhan o bartneriaeth rhwng sawl sefydliad o fewn y diwydiant gan gynnwys y Swyddfa ar gyfer Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR), undebau llafur a chontractwyr.
Fe wnaeth yr ORR gyflwyno dau hysbysiad gwella i Network Rail ddydd Llun oherwydd pryderon am ddiogelwch gweithwyr, ond dywedodd llefarydd ar eu rhan nad oedd hyn o ganlyniad i'r marwolaethau yr wythnos diwethaf.
Martin Frobisher, cyfarwyddwr diogelwch Network Rail, fydd yn gyfrifol am arwain y tasglu.
"Fe wnawn ni sicrhau ei bod hi'n fwy diogel i weithio ar y rheilffordd nac ydy hi heddiw," meddai Mr Frobisher.
"Dylai pawb allu disgwyl cyrraedd adref yn ddiogel ar ddiwedd y dydd, ac er bod ein record ni'n dda, mae 'na feysydd sydd dal angen eu gwella.
Ychwanegodd: "Mae'r marwolaethau ofnadwy yng Nghymru wythnos diwethaf yn atgoffa ni oll bod angen gwneud mwy."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2019