Gweithwyr rheilffordd fu farw 'heb glywed y tren'
- Cyhoeddwyd
Roedd dau weithiwr rheilffordd gafodd eu lladd ar ôl cael eu taro gan drên heb glywed y cerbyd gan eu bod yn defnyddio offer swnllyd, yn ôl ymchwiliad.
Dywedodd y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) bod Michael Lewis, 58, a Gareth Delbridge, 64, yn cynnal gwaith ar y rheilffyrdd ger Margam - a oedd yn agored i draffig - ar 3 Gorffennaf.
Nododd RAIB bod gyrrwr y trên wedi canu'r corn ac wedi defnyddio'r brêc argyfwng.
Roedd y trên yn teithio ar gyflymder o tua 73mya wrth iddo gyrraedd y lleoliad.
Mae lluniau o gamerâu cylch cyfyng yn dangos nad oedd y gweithwyr yn ymwybodol o'r trên tan ei fod yn agos iawn iddyn nhw.
Dywedodd yr ymchwilwyr bod Mr Lewis a Mr Delbridge yn defnyddio offer gydag injan betrol ac roedd o leiaf un ohonynt yn gwisgo offer i amddiffyn eu clyw.
Fe wnaeth gweithwyr ar reilffordd gyfagos sylwi ar y trên a cheisio rhoi gwybod iddyn nhw am y perygl.
Bu bron iawn ddyn arall gael ei daro hefyd, yn ôl RAIB.
Bydd yr ymchwiliad yn ystyried sawl peth gan gynnwys y trefniadau diogelwch, cynlluniau Network Rail a'r penderfyniadau a wnaed gan y rhai oedd yn bresennol.
Cafod y cwest i farwolaeth y ddau ei ohirio wythnos diwethaf a bydd adolygiad arall ymhen chwe mis.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2019