Dyn wedi'i arestio ar amheuaeth o lofruddio

  • Cyhoeddwyd
Salt LakeFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Carl Chinnock ei ganfod ym maes parcio Salt Lake ym Mhorthcawl ar 23 Mehefin

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i ddyn farw ddeuddydd wedi ymosodiad arno ym Mhorthcawl.

Cafodd Carl Chinnock, 50, ei ganfod mewn maes parcio gydag anaf difrifol i'w ben yn hwyr ar nos Fercher, 23 Mehefin.

Bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac fe wnaeth prawf post mortem awgrymu bod rhywun wedi ymosod arno.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod dyn lleol 27 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio a'i fod yn parhau yn y ddalfa.

Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig