Taith y Llewod yn Ne Affrica: Pwy, pryd a lle?

  • Cyhoeddwyd
LlewodFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe deithiodd y Llewod i Dde Affrica yr wythnos hon ar ôl herio Japan ym Murrayfield

Gyda'r Llewod yn dechrau eu hymgyrch yn Ne Affrica y penwythnos hwn, gohebydd chwaraeon BBC Cymru Dafydd Pritchard sydd wedi bod yn cymryd golwg ar y gemau sydd i ddod.

Y Llewod v Y Llewod

Parc Emirates Airline, Johannesburg, 3 Gorffennaf

Dim camgymeriad yw hwn, ond mae'r Llewod yn chwarae tîm o'r enw Llewod Emirates.

Hon fydd gêm gyntaf y garfan yn Ne Affrica, bnawn Sadwrn.

Gyda thaith Alun Wyn Jones yn dod i ben ar ôl saith munud yn erbyn Japan yr wythnos ddiwethaf, Connor Murray yw'r capten newydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd dwy gêm gyntaf, a dwy gêm olaf y Llewod yn Ne Affrica ym Mharc Emirates Airline yn Johannesburg

Mae Warren Gatland yn debygol o ddechrau chwaraewyr hollol wahanol i'r gêm gyntaf yn Ne Affrica yn erbyn Llewod Emirates.

Mae'n benderfynol i roi cyfle i bob chwaraewr yn y garfan o 37 - pwrpas hyn ydy rhoi chwarae teg i bob unigolyn er mwyn cael cyfle i gael eu henwi yn y garfan ar gyfer y profion.

Cartref Llewod Emirates yw Parc Emirates Airline, ond mae pobl yn 'nabod y lle yn well fel Ellis Park.

Mae'n dal 62,500 o bobl ond ni fyddwn ni'n gweld y stadiwm yma yn llawn nos Sadwrn oherwydd bod De Affrica newydd gyflwyno rheolau llym iawn oherwydd niferoedd achosion Covid-19.

Elton Jantjies yw capten y tîm, sydd hefyd wedi eu cynrychioli y nifer fwyaf o weithiau yn hanes y clwb ers iddo ffurfio yn 1996.

Ond mae hefyd wedi cael ei ddewis yng ngharfan De Affrica i wynebu'r Llewod, felly fydd e ddim ar gael i chwarae y penwythnos hwn.

Sharks v Y Llewod

Parc Emirates Airline, Johannesburg, 7 Gorffennaf

Mae llawer o newidiadau wedi bod dros y misoedd diwethaf wrth geisio penderfynu faint o deithio ddylai'r Llewod wneud tra yn Ne Affrica.

Yn syml, dydyn nhw ddim yn gwneud llawer.

Gall hyn fod o fudd mawr iddyn nhw gan eu bod yn cael mwy o amser i baratoi a llai o amser yn teithio o un rhan o'r wlad i'r llall.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r timau fydd yn herio'r Llewod wedi bod yn paratoi yn erbyn ei gilydd - fel Llewod Emirates v Sharks yma

Eu gêm ganol wythnos gyntaf yw'r Sharks. Yn wreiddiol o Durban, ac fel arfer yn chwarae mewn stadiwm mae'r cefnogwyr yn galw'n "y tanc siarcod".

Felly bydd hon yn gêm oddi cartref i'r ddau dîm gan fod y gêm yma yn cael ei chwarae yn yr un stadiwm â gêm gyntaf y Llewod.

Rhaid cofio bod Ellis Park yn sefyll 1,724 metr uwchben lefel y môr - mae hynny fel chwarae gêm o rygbi ar ben un Wyddfa a thri chwarter!

Dim ond 82% o ocsigen sydd ar gael yno o'i gymharu â lefel y môr.

Bulls v Y Llewod

Stadiwm Loftus Versfeld, Pretoria, 10 Gorffennaf

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Wedi dwy gêm yn Johannesburg bydd y Llewod yn teithio i Pretoria i chwarae yn Stadiwm Loftus Versfeld

Er mai dim ond taith o awr sydd rhwng Johannesburg a Pretoria, bydd hwn yn dir newydd i'r Llewod, sy'n chwarae talaith orau De Affrica eleni.

Ar ôl colli yn ffeinal Cwpan yr Enfys fis yma, mae ganddyn nhw lawer o chwaraewyr gorau'r tîm cenedlaethol fel Duane Vermeulen a Morne Steyn - a sicrhaodd fuddugoliaeth i Dde Affrica yn nhaith ddiwethaf y Llewod yn Ne Affrica yn 2009.

Bydd hon yn gêm anodd i'r Llewod. Er falle na fydd yr enwau mawr i gyd yn chwarae i'r Bulls, mae'n garfan brofiadol iawn gyda hyfforddwr llwyddiannus - Jake White.

Fe wnaeth White sicrhau buddugoliaeth i Dde Affrica yng Nghwpan y Byd 2007 a Phencampwriaeth y Tair Gwlad yn 2004.

Fe oedd yn arwain tîm mwyaf llwyddiannus De Affrica wrth chwarae gartref hefyd - rhediad o 13 gêm. Un peth mae'r dyn yma yn dda am wneud ydy chwarae ar dir cartref.

De Affrica A v Y Llewod

Stadiwm Cape Town, Cape Town, 14 Gorffennaf

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bydd y Llewod yn teithio i Cape Town am eu tair gêm nesaf - taith dwy awr ar awyren.

Yng nghysgod Table Mountain, mae'n un o dair prif ddinas De Affrica, gan gynnwys Pretoria.

Fel arfer cyfuniad o chwaraewyr sydd heb gael eu dewis ar gyfer y brif garfan sy'n ffurfio tîm A unrhyw genedl.

Mae De Affrica A yn cael eu hadnabod fel y Junior Springboks neu'r Springboks Cynyddol. Fydd hon ddim yn gêm hawdd o bell ffordd.

Mae hefyd yn gyfle i Gatland chwarae ei garfan ar gyfer y prawf cyntaf, sydd 10 diwrnod i ffwrdd o'r gêm yma.

Stormers v Y Llewod

Stadiwm Cape Town, 17 Gorffennaf

DHL Stormers fydd y gêm baratoadol olaf i Warren Gatland a'r Llewod.

Er dweud hynny, mae'n annhebygol iawn y bydd unrhyw chwaraewr fydd yn herio De Affrica yn y gêm gyntaf yn cymryd rhan yn y gêm yn erbyn y Stormers gan ei fod wythnos cyn y prawf cyntaf.

Er mai pwyslais y daith yw'r gemau prawf, mae Gatland wedi dweud nad yw am danseilio'r un gêm ar y daith, a'i fwriad yw ennill pob un.

Mae momentwm yn hynod bwysig er mwyn cadw meddylfryd y garfan yn bositif.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Stadiwm Cape Town ei adeiladu ar gyfer Cwpan y Byd pêl-droed yn 2010

Chwaraeodd Jamie Roberts, sydd â 94 o gapiau i Gymru a thri i'r Llewod, i'r Stormers.

Dywedodd bod chwarae allan yno gyda'r capten Siya Kolisi, a gododd dlws Cwpan y Byd gyda De Affrica yn 2019, yn brofiad anhygoel.

O ran y rygbi, honnodd Roberts ei fod yn gêm hollol wahanol i'r rygbi sy'n cael ei chwarae yn hemisffer y gogledd - mae'n gyflymach, poethach ac mae'r gêm yn cael ei chwarae ar ddwysedd uchel iawn.

Mae hyn yn syniad o beth mae'r Llewod yn ei wynebu dros yr wythnosau nesaf, ond yn enwedig yn erbyn y Stormers.

Fe orffennon nhw yn ail yng Nghwpan yr Enfys eleni. Bydd y Stormers yn anelu i gynhyrfu Gatland cyn iddyn nhw ddechrau'r gemau yn erbyn De Affrica.

De Affrica v Y Llewod

Prawf 1 - Stadiwm Cape Town, 24 Gorffennaf

Prawf 2 - Parc Emirates Airline, Johannesburg, 31 Gorffennaf

Prawf 3 - Parc Emirates Airline, 7 Awst

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

De Affrica oedd yn fuddugol o 2-1 yn y gemau prawf ar daith ddiwethaf y Llewod yno yn 2009

Erbyn hyn bydd y Llewod wedi chwarae cwpl o gemau yn Stadiwm Cape Town ac yn gyfarwydd iawn gyda'u hamgylchiadau - paratoad perffaith i'r prawf cyntaf hynod bwysig.

Y tro diwethaf i'r Llewod chwarae De Affrica yn Cape Town oedd yn 1997. Ennill oedd eu hanes o 25-16, gyda Neil Jenkins yn serennu.

Anodd iawn yw gwybod pwy fydd yn dechrau ar hyn o bryd gyda chymaint o gemau paratoi i'w chwarae, ac o bosib anafiadau i'w hystyried.

Ar gyfer y ddau brawf olaf mae'r Llewod yn mynd 'nôl i Johannesburg, a chwarae 1,700 metr uwchben lefel y môr.

Mae'r Llewod wedi bod yn paratoi am hyn wrth ymarfer gyda masgiau sy'n rhyddhau canran is o ocsigen er mwyn paratoi am yr amgylchedd yn Johannesburg.

Mantais i Warren Gatland yw'r ffaith mai hon fydd y daith gyntaf heb gêm ganol wythnos rhwng y profion, a fydd ddim yn rhaid teithio cymaint o wythnos i wythnos, sy'n golygu mwy o amser i baratoi.

Mae'r dasg o flaen y Llewod yn un heriol. Anodd iawn yw mynd i Dde Affrica a'u curo ar eu tir eu hunain.

Ond un peth sy'n sicr, mae'n addo i fod yn daith a chyfres gyffrous iawn dros yr wythnosau nesaf.

Pynciau cysylltiedig