Gwrthdrawiad Trawsfynydd: Rhyddhau dyn dan ymchwiliad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 35 oed gafodd ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A470 yn Nhrawsfynydd nos Fawrth wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad, medd Heddlu Gogledd Cymru.
Cafodd dynes 28 oed ei hedfan i ysbyty yn Stoke yn dilyn y digwyddiad ger yr orsaf bŵer, ac mae hi'n parhau mewn cyflwr difrifol.
Fe gafodd y dyn ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed difrifol drwy yrru'n beryglus a gyrru o dan ddylanwad alcohol.
Mae Heddlu'r Gogledd yn parhau i apelio am dystion i'r digwyddiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2021