650 o swyddi newydd i Lyn Ebwy

  • Cyhoeddwyd
Glass bottlesFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cwmni cynhyrchu gwydr wedi dewis lleoli eu ffatri newydd, a fydd yn cyflogi 650 o bobl, yng Nglyn Ebwy.

Mae disgwyl i'r ffatri newydd ar stad ddiwydiannol Rassau fod yn cynhyrchu o fewn 18 mis.

Bydd rhan gynta'r gwaith yn creu 400 o swyddi.

Bu'r cwmni Ciner - busnes teuluol o Dwrci - yn ystyried dau safle yng Nghymru, gyda'r llall ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Fe fyddan nhw'n mewnforio tywod er mwyn creu gwydr newydd ac yn ailgylchu gwydr sydd eisoes wedi'i ddefnyddio.

Fe fydd y swyddi newydd yn cynnwys gwaith yn y ffatri, ond hefyd i wyddonwyr a gwaith ymchwil a datblygu.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cefnogi busnesau i greu swyddi newydd yn flaenoriaeth i ni.

"Rydym wedi bod yn trafod gyda'r cwmni ers dros flwyddyn bellach ac wedi cynnig tir iddyn nhw, ac rydym nawr yn gweithio gyda Chyngor Blaenau Gwent am y ffordd orau i wireddu'r prosiect hwn."