Cyhuddo Trafnidiaeth Cymru o 'addewidion gwag' ar ddiogelwch
- Cyhoeddwyd
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cael ei gyhuddo o addewidion gwag am fethu â sicrhau bod modd cadw pellter cymdeithasol ar drenau.
Dywedodd Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, fod y cwmni wedi addo gwneud diogelwch yn "flaenoriaeth bennaf".
Ond honnodd bod Trafnidiaeth Cymru yna wedi rhoi canllawiau i staff yn dweud wrthynt am beidio â gorfodi'r rheolau ar gadw pellter.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru, wrth i'r galw am ei wasanaethau gynyddu, y bydd cadw pellter "ddim wastad yn bosib" yn ystod cyfnodau prysur.
Ychwanegodd Leyton Powell o'r cwmni nad cyfrifoldeb staff unigol ydy gorfodi canllawiau Covid-19, a'u bod yn "gweithio'n agos gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain a staff diogelwch er mwyn annog teithwyr i ddilyn y rheolau Covid diweddaraf".
Dywedodd ei bod yn bwysig i deithwyr gynllunio o flaen llaw a gwneud "penderfyniadau cyfrifol" am eu hangen i deithio.
Ond dywedodd Mr Williams AS bod "disgwyl i deithwyr stwffio mewn i drenau gorlawn yn annerbyniol ar unrhyw adeg", ond bod gadael i hynny ddigwydd yn ystod pandemig yn "hollol anghyfrifol".
"Mae angen i Drafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru ailasesu eu canllawiau ar frys fel bod staff, yn ogystal â theithwyr, yn cael eu diogelu wrth i nifer y teithiau gynyddu dros yr haf," meddai.
'Profiad anghyfforddus dros ben'
Un sydd wedi ategu'r angen am newid ydy Nia Jones, ddywedodd bod ei thaith o Crewe i Fangor yn ddiweddar yn "brofiad anghyfforddus dros ben".
"Roedd y trên yn llawn a doedd dim ffordd o gadw pellter, gan olygu bod yn rhaid i deithwyr eistedd wrth ochr ei gilydd a sefyll ochr wrth ochr," meddai.
"Mae'n rhaid i reolwyr Trafnidiaeth Cymru ystyried pa effaith fydd eu safbwynt ar fesurau diogelwch yn ei gael ar yr hyder sydd gan deithwyr yn eu gwasanaethau."
Cafodd galwadau am ymchwiliad eu gwneud fis diwethaf ar ôl i luniau gael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol o drenau gorlawn.
Wedi hynny fe wnaeth Trafnidiaeth Cymru ysgrifennu at wleidyddion yn dweud mai diogelwch cwsmeriaid yw ei "flaenoriaeth bennaf".
Ond mae Mr Williams wedi dweud mai "geiriau gwag" ydy hynny ar ôl iddo weld copi o'r cyngor sy'n cael ei roi i staff y cwmni.
Mae'r canllawiau yn dweud na ddylid gorfodi pobl i gadw pellter oherwydd ei bod yn anodd mesur faint o bobl sy'n ddiogel i'w cael ar drenau, oherwydd materion fel cartrefi estynedig a gofalwyr.
Dywedodd Mr Powell, cyfarwyddwr diogelwch Trafnidiaeth Cymru, bod staff yn cael eu hannog i roi gwybodaeth am unrhyw un sy'n torri'r rheolau ar gadw pellter a bod y wybodaeth yma'n cael ei defnyddio wrth i'r cwmni ystyried unrhyw newidiadau.
"Mae diogelwch ein cwsmeriaid a'n cydweithwyr wedi bod yn flaenoriaeth trwy gydol y pandemig ac rydyn ni'n parhau i weithredu nifer o fesurau diogelwch gan ddilyn canllawiau'r diwydiant a'r llywodraeth," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd8 Mai 2021
- Cyhoeddwyd1 Mai 2021