'Carchar ydy'r unig le fydd mam yn ddiogel'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-droseddwyr, arbenigwyr ac elusennau wedi dweud wrth BBC Cymru bod angen gwelliannau i wasanaethau adsefydlu yng Nghymru.
Dydy Ellie Anderson, 22, o Gaerdydd ddim yn synnu gan fod ei mam yn rhan o'r system gyfiawnder.
"Mae hi 'di bod mewn ag allan o gelloedd yr heddlu mor hir a galla i gofio. Fe gafodd hi ei harestio'r llynedd rhywbeth fel 30 o weithiau," meddai.
Mae hi'n dweud y byddai gwell gwasanaethau cefnogaeth ac adsefydlu yn helpu i dorri'r cylch o ail-arestio sy'n gyffredin i nifer o droseddwyr.
Mae ffigyrau diweddaraf y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer Ebrill 2018 - Mawrth 2019 yn dangos bod 37% o droseddwyr sy'n fenywod a 41% o ddynion yng Nghaerdydd yn ail-droseddu.
Mae'r weinyddiaeth yn dweud bod "cannoedd o filiynau o bunnoedd yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau adsefydlu i helpu troseddwyr i gefnu ar droseddu am byth".
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod eisiau "gwella'r canlyniadau i'r holl fenywod sy'n dod di gysylltiad gyda'r system gyfiawnder troseddol yng Nghymru", a'u bod yn pwyso ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder am ganolfan benodol i ofalu am fenywod yng Nghymru.
Roedd Ellie yn 5 oed pan ddaeth hi i'r amlwg bod gan ei mam broblem gydag alcohol.
Er gwaetha'r problemau ddaeth yn sgil hynny, mae Ellie, sydd bellach yn astudio gwleidyddiaeth yn y brifysgol, yn dweud ei bod hi eisiau iddi gael y gefnogaeth iawn er mwyn iddi fod yn ddiogel.
"Dwi'n caru mam, hi yw fy mam wedi'r cyfan. Rwy' wedi gweddïo, wedi gobeithio, ac wedi crefu ar unrhyw un oedd yn gwrando i wneud rhywbeth," meddai.
"Y gwir amdani ydy does dim ffordd o drwsio'r salwch neu gael gwared arno, dim ond gwella sut mae rhywun yn byw gydag e."
Eleni fe dreuliodd ei mam ddeufis yn y carchar, ond mae Ellie'n dweud fod y gefnogaeth ddaeth yno wedi gwneud gwahaniaeth yn syth.
"Ward arbenigol oedd hi lle'r oedd hi'n gallu gwneud detox mewn ffordd oedd yn cael ei reoli gyda chwnsela a therapi, ond yn syth ar ôl iddi gael ei rhyddhau, fe stopiodd y cyfan," meddai Ellie.
Ar y diwrnod gadawodd ei mam y carchar, fe geision nhw gael cymorth, ond roedd hi'n anodd cael peth.
"Fe gawson ni enwau therapyddion ond roedd ganddyn nhw restrau aros 15 wythnos o hyd a tydi hynny ddim yn ddigon da i rywun sydd newydd adael carchar sydd angen cefnogaeth yn syth," meddai.
Mae Ellie yn dweud mai'r opsiwn gorau fyddai rhywle, sy'n debyg i garchar, lle mae yna drefn a strwythur i'w diwrnod.
"Wy'n teimlo'n flin yn dweud hyn, a fydda i ddim yn dymuno hyn, ond y lle gorau i fy mam ydy i beidio â bod allan ar y strydoedd, nid mewn fflat cyngor heb gefnogaeth, ond oherwydd y system, lle'r ydyn ni nawr fel gwlad, yr unig le fydd yn ei chadw hi'n ddiogel ydy carchar."
Rhannodd Ellie ei stori er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r problemau sy'n wynebu cyd-garcharorion a'u teuluoedd, ac er mwyn tynnu'r stigma o fod yn berson ifanc gyda rhiant sydd dan ofal y system gyfiawnder.
Mae BBC Cymru wedi siarad â mam Ellie, sydd yn hapus iddi rannu ei stori ac fe gafodd hi gynnig cyngor a chefnogaeth cyn cyhoeddi'r erthygl.
Fe gafodd Chris Leslie ei garcharu am bedair blynedd am drosedd yn ymwneud â chyffuriau.
Mae wedi adsefydlu'n llwyddiannus ac mae bellach yn gweithio yng Nghaerdydd.
"Mae bywyd ar y tu allan yn gallu bod yn anodd iawn ar ôl gadael carchar - pethau syml fel mynd i siopa," meddai.
"Mae'n anodd pan chi 'di bod mewn rhywle - chi'n un o 300 ac mae pawb yn nabod enw pawb.
"Wedyn chi mewn siop lle mae 'na gannoedd o bobl, ac mae'n gallu achosi pryder mawr - chi ddim yn sylwi faint o bryder sy'n buildio lan dros y blynydde."
Fe newidiodd meddylfryd Mr Leslie wedi cyfnod yn y carchar ac roedd am sicrhau nad oedd o'n dychwelyd yno.
Fe wnaeth gwblhau cyrsiau addysg ac fe ddaeth yn rhan o'r tîm Cefnogaeth Tu Fewn Tu Fas Cymru, sy'n helpu eraill i wneud yr un fath.
Heb yr help iawn mae'n credu y byddai mewn sefyllfa wahanol iawn.
"Hawdd iawn fyddai llithro yn ôl i'r hen dref. Heb y gefnogaeth dwi wedi ei gael, pwy a ŵyr lle fyddwn i?" meddai.
'Mae wir angen newid'
Dywedodd Bernie Bowen-Thompson, pennaeth elusen Cymru Ddiogelach, sy'n rhoi cefnogaeth i unigolion sy'n gadael carchar: "I feddwl bod rhywun yn teimlo eu bod angen mynd nôl i'r carchar oherwydd diffyg gwasanaethau yn ofnadwy ac mae'n rhaid i hynny newid."
Mae hi'n dweud nad yw'n anarferol i weld cyd-garcharorion yn ail-droseddu.
"Mae'n ofnadwy pan chi'n gweld rhywun mewn cylchoedd, a dyna pam mae hi'n hanfodol bod gennym ni wasanaethau cymunedol sy'n cynnig cefnogaeth i bobl sy'n dod o'r carchar," meddai.
Mae Cymru Ddiogelach wedi bod yn gweithio ers 20 mlynedd i ddarparu cartrefi diogel, bwyd, a chefnogaeth iechyd meddwl - pethau sylfaenol, yn ôl Ms Bowen-Thompson, os ydy pobl am newid.
"Os ydych chi'n dod allan a does gennych chi ddim rhywle pendant i fyw, mae eich dyledion yn tyfu, mae eich iechyd meddwl yn wael, neu os ydych chi'n camddefnyddio cyffuriau, gan gynnwys alcohol, fydd y drefn ddim yn newid, mae'r cylch yn parhau," meddai.
"Os nad oes gan rywun y pethau hanfodol yna, sut mae symud ymlaen?"
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n eu hadnabod wedi'ch effeithio gan y materion a godwyd yn y stori yma, mae cefnogaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2021