Heddlu'n ymchwilio ar ôl ymosodiad ar ddyn yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn ymchwilio i ymosodiad homoffobaidd ar fyfyriwr yng Nghaerdydd.
Roedd Yang Wu, 27, yn cerdded gyda ffrind yn ystod oriau man y bore ar ddydd Iau 1 Gorffennaf pan aethon nhw i mewn i orsaf betrol ar Heol y Gadeirlan yn y brifddinas.
Yn ôl Mr Wu fe stopiodd tacsi tu allan i'r garej ac fe ddechreuodd un o'r teithwyr weiddi geiriau homoffobaidd tuag at y ddau cyn cerdded draw atyn nhw.
Fe ddechreuodd y dyn daflu pethau at y ddau ffrind yn ôl Mr Wu, ond roedd ei ffrind wedi meddwi gormod iddyn nhw geisio rhedeg i ffwrdd meddai.
Dywedodd Mr Wu iddo benderfynu herio'r person oedd yn ymosod arno, ond fe gafodd ei daro ar ei wyneb a disgynnodd i'r llawr.
"Cefais fy mwrw yn fy wyneb, ac mae fy nwylo a fy mhenelin wedi'u torri - mae fy nant wedi torri a chollais i ddant hefyd", meddai Mr Wu.
"Fe wnaeth yr ymosodwr a dyn arall ddianc mewn tacsi. Mae'r heddlu yn ymchwilio ac yn ceisio adnabod yr ymosodwyr trwy ddefnyddio lluniau camerâu cylch cyfyng."
'Ofn mynd allan yn y nos'
Dywedodd y dyn o China sy'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ei fod o wedi cael braw wrth weld y dynion yn cerdded o'r tacsi.
Cafodd ei gludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad, ond mae'n debyg y bydd wedi colli ei ddant yn barhaol.
Mae'n dweud ei fod yn dal i gael trafferth siarad ac mewn poen. Mae hefyd yn dweud ei fod wedi gwneud iddo ystyried newid ei edrychiad, ac mae ganddo ofn mynd allan yn y nos.
Mae elusen Stonewall wedi disgrifio'r digwyddiad fel un "torcalonnus".
"Mae'n drychinebus i'r rhai sy'n cael eu targedu gyda'r fath gasineb. Mae'r cwestiwn o pam bod hyn yn dal i ddigwydd yma yn gwestiwn i'r bobl sy'n dewis taflu casineb o fewn y gymuned LGBT+", meddai Iestyn Wyn, llefarydd Stonewall Cymru.
"Rydyn ni yn ymwybodol bod yna fwy o bobl yn teimlo bod ganddyn nhw hawl i fod yn gas tuag at eraill o fewn ein cymdeithas ni.
"Tra bod hynny'n digwydd mae'n bwysig i sefydliadau fel Stonewall ac eraill i sefyll i fyny'n gadarn a dweud nad ydy hyn yn dderbyniol ym Mhrydain na Chymru chwaith."
Cafodd yr ymosodiad ei gofnodi ar gamera cylch cyfyng y garej, ac mae Heddlu De Cymru yn trin y digwyddiad fel trosedd casineb.
Mae'r heddlu yn chwilio am ddyn 5'9" hil gymysg gyda phen moel a dillad tywyll.
Mae swyddogion yn apelio ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o gymorth i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.