Boris, Dave a threigl amser
- Cyhoeddwyd
Yng nghanol y pandemig a helbulon Brexit mae'n hawdd anghofio bod y busnes dydd i ddydd o lywodraethu a deddfu yn mynd rhagddi ym Mae Caerdydd a San Steffan fel ei gilydd.
Dyna pam efallai y mae cyn lleied o sylw wedi ei roi i un nodwedd arbennig o lywodraeth Boris Johnson sef cymaint o amser sy'n cael ei wario ar ddadwneud polisïau a deddfau David Cameron.
Dydw i ddim yn gwybod p'un ai rhyw ddrama seicolegol wnaeth gychwyn ar feysydd chwarae Eton sy'n gyfrifol am y peth ond mae'n drawiadol iawn bod Boris fel pe bai am ddatgymalu gwaith ei ragflaenydd.
Anghofiwch am lymder a'r holl sôn am adfer y to wrth i'r haul dywynnu. Boed hi'n heulog neu'n wyntog mae'r Ceidwadwyr wedi darganfod bod y 'magic money tree' yn bodoli wedi'r cyfan ac mae Boris yn hael wrth rannu ei ffrwythau.
Yn y cyfamser, mae penderfyniad Chris Grayling i breifateiddio rhan helaeth o'r gwasanaeth prawf eisoes wedi ei wyrdroi ac mae newidiadau Andrew Landsley i'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr hefyd ar y ffordd i'r domen sgrap.
Diwygiadau cyfansoddiadol Cameron yw'r pethau nesaf i fynd.
Fe fydd hawl y Prif Weinidog i bennu dyddiad etholiad yn cael ei adfer gyda diddymu'r Fixed Term Parliaments Act, deddf a gyflwynwyd i sefydlogi'r glymblaid rhwng Cameron a Clegg.
Ar yr un pryd mae EVEL, y mesur sy'n gwahardd aelodau o'r gwledydd datganoledig rhag pleidleisio ar fesurau sydd ond yn effeithio ar Loegr hefyd ar y ffordd mas.
Nawr, mae 'na resymau gwleidyddol da dros bob un o'r newidiadau unigol yma ond mae'n anodd credu nad oes 'na wen ar wyneb y Prif Weinidog presennol wrth iddo fe racsio gwaddol gwleidyddol ei ragflaenydd.
Ond y tu hwnt i'r seico-ddrama gallwch ddirnad tric gwleidyddol clyfar iawn yn fan hyn. Rhywsut mae Johnson yn llwyddo i argyhoeddi'r etholwyr fod llywodraeth sydd bellach yn ei hail ddegawd yn rhywbeth newydd ac mai hi ac nid yr wrthblaid sy'n cynrychioli newid a newydd-deb.
Nes i Lafur ddod o hyd i ffordd i ddelio â'r ffenomen yna, dyw'r polau ddim yn debygol o symud rhyw lawer ac mae'r ceiliog yn saff ar dop ei domen!