Vaughan Gething yn wfftio galwadau i ddilyn amserlen Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Covid
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi cyhoeddi hyd yma pryd bydd y cyfyngiadau yng Nghymru yn dod i ben

Mae Gweinidog Economi Cymru wedi wfftio galwadau i ddilyn yr un amserlen â Lloegr o ran llacio cyfyngiadau Covid-19.

Dywedodd Vaughan Gething yn ystod cyfarfod llawn y Senedd y bydd cyfyngiadau Covid yn cael eu llacio yng Nghymru mewn "modd sy'n gyfrifol".

"Bydd penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn ddibynnol ar ddata, nid dyddiadau, a dyw hi ddim yn fwriad bod yn gystadleuol a chodi'r holl gyfyngiadau yn unol â Lloegr," meddai.

Daw ei sylwadau wrth i arweinwyr busnes yng Nghymru ddweud y bydd dryswch mawr yng Nghymru os nad yw'r cyfyngiadau yn cael eu codi yr un pryd ac yn yr un modd â Lloegr.

Disgrifiad o’r llun,

"Ni fydd yn rhaid disgwyl yn hir" cyn i'r angen i gadw pellter ddod i ben, meddai Vaughan Gething

Wrth ateb cwestiynau ar lawr y Senedd, dywedodd Mr Gething bod yn rhaid gwneud penderfyniadau ar sail yr hyn sy'n digwydd o'n cwmpas a bod y cabinet yn ystyried ar hyn o bryd beth ddylai ddigwydd nesaf - o ran ailagor a lles yr economi.

Gan gyfeirio at ddod â phellter cymdeithasol i ben er mwyn helpu busnesau, dywedodd: "Fe fyddwn yn darparu dyddiadau a data pan mae'r amser yn iawn ac ni fydd yn rhaid disgwyl yn hir."

Ychwanegodd y bydd Llywodraeth Cymru yn cydbwyso iechyd cyhoeddus â'r economi ac yn cydweithio â'r diwydiant lletygarwch i benderfynu ar y dyfodol.

"Byddwn yn parhau i edrych ar bwysau o fewn y GIG. Byddwn yn parhau i edrych ar yr effaith ar yr economi," meddai.

"A byddwn yn parhau i edrych ar lwyddiant y rhaglen frechu."

Fore Mercher roedd yna rybudd gan drefnwyr y Sioe Fawr yn Llanelwedd y byddai gwyliau a digwyddiadau mawr yng Nghymru yn cael eu gadael ar ôl "os nad oes dyddiad penodol ar gyfer dod â chyfyngiadau Covid i ben".

'Dwy set o reolau yn ddryslyd'

Dywed arweinwyr busnesau yng Nghymru y bydd cryn ddryswch os nad yw'r rheolau ar bellter cymdeithasol a gwisgo mygydau yr un fath â Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd mwyafrif y cyfyngiadau yn Lloegr yn cael eu codi ar 19 Gorffennaf

Mae Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, wedi dweud y bydd mwyafrif y cyfyngiadau yn cael eu codi yn Lloegr ar 19 Gorffennaf.

Er bod y CBI - y corff sy'n cynrychioli busnesau yng Nghymru - yn galw am i'r ddwy lywodraeth gydweithio ar ddychwelyd i fyd normal, dywed ysgrifennydd cyffredinol y TUC yng Nghymru ei bod hi'n bwysig fod penderfyniadau gweinidogion Cymru yn fwy gofalus.

Dywedodd Ian Price, cyfarwyddwr CBI Cymru: "Ry'n ni am i'r ddwy lywodraeth gydweithio. Fe fyddai cael dwy set o reolau - yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn benodol - yn achosi dryswch."

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn gyson fod penderfyniadau ar lacio pellach yn cael eu trafod fel rhan o'r adolygiad sy'n digwydd pob tair wythnos.

Bydd yr adolygiad nesaf yng Nghymru ddiwedd yr wythnos nesaf.