Y Gymraeg yn 'sgil dymunol' i swyddi Llywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae pencadlys Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd

Mae "newid sylweddol ar y gweill" i'r ffordd y mae swyddi'n cael eu hysbysebu yn Llywodraeth Cymru.

O dan y drefn newydd, bydd y Gymraeg yn cael ei nodi fel "sgil dymunol, hanfodol neu i'w dysgu yn y swydd" wrth hysbysebu pob swydd wag a swydd newydd.

Bydd yr holl swyddi "yn mynnu y bydd yr ymgeiswyr yn gallu dangos lefel 'cwrteisi' sylfaenol fan leiaf o safbwynt sgiliau Cymraeg" o fewn chwe mis.

Dywedodd y Ceidwadwyr y dylai'r llywodraeth "recriwtio'r person gorau ar gyfer y swydd".

'Ymwybyddiaeth ieithyddol'

Bydd y dewis "nid oes angen sgiliau Cymraeg ar gyfer y swydd hon" yn cael ei ddiffodd o system recriwtio y llywodraeth.

Daw hyn yn sgil nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 "a chynyddu'n sylweddol y defnydd o'r iaith o ddydd i ddydd ledled y wlad".

Mae'r ail nod yn ymwneud ag "arferion gwaith mewnol y llywodraeth wrth i ni anelu at ddod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog", fel bod "holl staff Llywodraeth Cymru yn gallu deall y Gymraeg, o leiaf, erbyn 2050".

Bydd yr holl swyddi a hysbysebir gan Lywodraeth Cymru yn "mynnu y bydd yr ymgeiswyr yn gallu dangos lefel 'cwrteisi' sylfaenol fan leiaf o safbwynt sgiliau Cymraeg, o fewn amserlen y cytunir arni... fel arfer, o fewn chwe mis i gychwyn yn y swydd".

Ffynhonnell y llun, ANDREW MOLYNEUX
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwyafrif staff Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gartref yn ystod y pandemig

Caiff lefel 'cwrteisi' yn y Gymraeg ei diffinio fel y gallu i wneud y canlynol:

  • ynganu geiriau, enwau, enwau lleoedd a thermau Cymraeg;

  • ateb y ffôn yn ddwyieithog, cyfarch pobl neu gyflwyno pobl yn ddwyieithog;

  • mynd ati'n rhagweithiol i ddeall a defnyddio ymadroddion bob dydd a geiriau allweddol syml yn ymwneud â'r gweithle;

  • darllen a deall testunau byr sy'n cynnwys gwybodaeth sylfaenol, er enghraifft mewn gohebiaeth, neu ddehongli cynnwys trwy ddefnyddio'r dechnoleg sydd ar gael;

  • dangos ymwybyddiaeth ieithyddol - sy'n cynnwys y gallu i werthfawrogi pwysigrwydd yr iaith o fewn y gymdeithas ac ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n ofynnol er mwyn darparu gwasanaeth dwyieithog i'r cwsmer.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig wrth BBC Cymru eu bod wedi ymrwymo i'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, "ond ar adeg o adferiad cenedlaethol, dylai Llywodraeth Cymru fod yn recriwtio'r person gorau ar gyfer y swydd".

"Ar hyn o bryd nid yw'r mwyafrif helaeth o bobl yng Nghymru - bron i dri chwarter - yn siarad Cymraeg, ond ni ddylai hynny eu gwahardd rhag gweithio yn y gwasanaeth sifil a chyfrannu at fywyd cyhoeddus Cymru," meddai llefarydd.

Ddim yn ofynnol

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod gan "bawb y potensial i fod yn siaradwr Cymraeg", ac nad oedd y strategaeth yn mynd yn groes i'w "hymrwymiad i fod yn agored, yn gynhwysol ac yn amrywiol".

"Er y bydd sgiliau Cymraeg yn fwyfwy angenrheidiol ar gyfer nifer cynyddol o swyddi, nid yw meithrin gweithle dwyieithog yn golygu (nac yn awgrymu) bod y sgiliau hynny'n ofynnol ar gyfer ymuno â Llywodraeth Cymru."

Ychwanegodd y llywodraeth y byddan nhw'n "buddsoddi yn ein staff a chynnig cyfleoedd iddynt ddysgu Cymraeg a meithrin sgiliau ieithyddol" trwy "ddarparu hyfforddiant effeithiol a hwylus, gan roi amser a chymhelliant i bobl wella'u sgiliau Cymraeg yn barhaus".

Mae tua 5,500 o staff Cyfwerth ag Amser Llawn yn Llywodraeth Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r polisi newydd yn rhan o nod Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr

O'r 112 o swyddi a hysbysebwyd yn allanol yn ystod y cyfnod adrodd 2020-2021, roedd 25 wedi eu dynodi'n rhai nad oedd angen sgiliau Cymraeg ar eu cyfer, 64 gyda'r iaith yn ddymunol, tair "I'w dysgu ar benodiad" ac 20 lle'r oedd yn hanfodol.

Mae holl benodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru - megis Comisiynwyr - yn destun asesiad sgiliau iaith Gymraeg.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cynhaliwyd 39 o asesiadau sgiliau penodiadau cyhoeddus. O'r 39 asesiad hynny, roedd 14 wedi'u categoreiddio'n hanfodol a 25 yn ddymunol.

Gohebiaeth yn y Gymraeg

Gwelwyd tudalennau o wefan Llywodraeth Cymru yn Saesneg 34 miliwn o weithiau dros y flwyddyn ddiwethaf, o gymharu â 652,000 yn Gymraeg.

Derbyniodd swyddfeydd preifat y gweinidogion 41,037 o eitemau o ohebiaeth, ac roedd 970 (2.36%) ohonynt yn Gymraeg.

O ran galwadau ffôn a dderbyniwyd o'r tu allan i Lywodraeth Cymru, roedd 4.3% yn Gymraeg a 95.7% yn Saesneg.

Rhwng 2020 a 2021, roedd cynnydd o 44% mewn ceisiadau gan staff Llywodraeth Cymru am wersi Cymraeg wythnosol.

Ers 2018, mae Comisiwn y Senedd - sy'n rhedeg Senedd Cymru o ddydd i ddydd - "wedi mabwysiadu dull recriwtio lle mae angen o leiaf lefel sylfaenol o sgiliau Cymraeg (Cymraeg Cwrteisi) ar gyfer pob swydd a hysbysebir."

Mae hefyd disgwyl i ymgeiswyr naill ai ddangos tystiolaeth o'r sgiliau hynny adeg eu penodi neu "ymrwymo i ddysgu'r sgiliau hynny fel rhan o'r broses gynefino".