Cyflwyno deddf addysg i gyrraedd y miliwn o siaradwyr

  • Cyhoeddwyd
plantFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Gweinidog Addysg bod yn rhaid cael deddf addysg er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg

Er mwyn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg fe fydd Llywodraeth Cymru'n cyflwyno deddf addysg Gymraeg yn ystod tymor nesa'r Senedd.

Dyna mae'r gweinidog addysg, Jeremy Miles, wedi ei ddweud wrth Newyddion S4C, er bod ymchwil gan y rhaglen honno'n awgrymu mai aros yn eithaf cyson mae nifer y plant sy'n mynd i ysgolion Cymraeg.

Mae gan Mr Miles gyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg yn ogystal ag addysg.

"Mae'n fwriad yn ein maniffesto ni fel Llafur Cymru i gyflwyno deddf addysg gyfrwng Cymraeg er mwyn sicrhau bod ganddon ni sail statudol addas er mwyn delifro ar yr amcan sy gyda ni," meddai'r gweinidog.

"O ran cynlluniau awdurdodau lleol, neu rôl y Coleg Cenedlaethol Cymraeg, mae 'na amryw bethau y gallwn ni eu gwneud i gryfhau'r sail statudol a dyna'r bwriad yn y ddeddf honno maes o law."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Jeremy Miles gyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg yn ogystal ag addysg

Fe gysylltodd Newyddion S4C â chynghorau Cymru i ofyn faint o blant gafodd eu derbyn i addysg Gymraeg dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Roedd y darlun yn un cyson - cynnydd ambell i flwyddyn, a chwymp ambell i flwyddyn arall - a'r ffigyrau, at ei gilydd, yn eitha' sefydlog.

Fe ddywedodd Gwynedd fod yr holl ysgolion cynradd yn darparu addysg Gymraeg hyd at ddiwedd y cyfnod sylfaen.

Y niferoedd a gafodd eu derbyn i ddosbarthiadau derbyn ysgolion yn siroedd:

Caerdydd

  • 2016/17 - 688

  • 2018/19 - 650

  • 2020/21 - 712

Dinbych

  • 2016/17 - 277

  • 2018/19 - 320

  • 2020/21 - 295

Rhondda Cynon Taf

  • 2017 - 540

  • 2019 - 518

  • 2021 - 540

Yn ôl tystiolaeth Cyfrifiad 2011, 562,000 o bobl Cymru oedd yn siarad Cymraeg er bod peth amser ers hwnnw erbyn hyn.

Eto i gyd, fe fyddai miliwn yn agos at ddwywaith hynny.

Disgrifiad o’r llun,

"Bydd cael adeilad newydd yn sicr o godi'r niferoedd," medd Petra Davies, pennaeth Ysgol Gynradd Llyn y Forwyn

Fe fydd buddsoddi mewn adnoddau - ac adeiladau - yn hollbwysig ym marn Petra Davies, pennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yng Nghlynrhedynnog, Rhondda Cynon Taf.

"Dan ni'n gwybod mewn dwy flynedd mae'r sir yn garedig iawn wedi dweud y byddan nhw'n adeiladu adeilad newydd i ni fydd yn barod ym mis Medi 2023," meddai.

"Yn sicr mae 'na gynnydd yn mynd i fod oherwydd 'dan ni'n symud o adeilad Fictorianaidd a 'dan ni'n symud i mewn i adeilad newydd sbon gyda'r holl gyfleusterau anhygoel.

"Dwi'n meddwl y bydd 'na dwf naturiol wedyn yn y niferoedd sy' gynnon ni yn yr ysgol."