Covid yn gyfle i foderneiddio Eisteddfod Llangollen
- Cyhoeddwyd

Golyga'r pandemig nad oes modd estyn y croeso arferol i Eisteddfod Llangollen
Ar drothwy penwythnos Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen mae trefnwyr yr ŵyl yn dweud fod y pandemig wedi gorfodi'r Eisteddfod i newid a moderneiddio er gwell.
Gyda'r ŵyl yn digwydd ar ffurf rithiol eleni mae'r cyfryngau cymdeithasol a chyngherddau ar-lein yn rhan annatod o'r Eisteddfod.
Gyda disgwyl i gynulleidfaoedd brofi bwrlwm yr ŵyl yn rhithiol, mae 'na awgrym y gallai'r ŵyl wneud yn fawr o fodel hybrid yn y tymor hir drwy gyfuno digwyddiadau byw gyda rhai ar-lein.
Mae'r ŵyl wedi derbyn nawdd a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru dros gyfnod y pandemig er mwyn cefnogi'r gwaith.
Gŵyl 'wahanol ac unigryw'
Ymysg yr arddangosfeydd a pherfformiadau mae 'na ddarn corawl dan faner 'Tangnefedd' gan Paul Mealor a Mererid Hopwood.
Mi fydd Catrin Finch a gwesteion yn edrych ar, ac yn cynnwys, hanfod neges heddwch mewn cerddoriaeth ac mae plant ysgol hefyd wedi bod yn edrych ar y neges honno mewn manylder.
Mi fydd hyn oll felly ar gael yn ddigidol a thra y bydd "hi'n wahanol", yn ôl y y Prif Weithredwr dros dro, mi fydd hi hefyd yn "unigryw".

Betsan Moses tu allan i Bafiliwn Eisteddfod Llangollen
"'Da ni wedi edrych ar beth ydi ethos Llangollen a chreu hynny yn ddigidol," meddai Betsan Moses.
"Mae gynom ni gomisiwn corawl fel y disgwyl a bydd corau ar hyd y byd yn rhan o hwnna ond mae 'na bethau newydd fel comisiwn ar gyfer dawns ac felly mae 'na gyfle i fynd ar TikTok."
'Cadw'r berthynas gyda'r byd'
Wrth ymateb i'r ffaith fod yr Eisteddfod wedi gorfod newid, dywed Ms Moses nad yw'n credu y gallai "dim un Eisteddfod aros yn ei hunfan".
Ychwanegodd: "Gyda Covid bu'n rhaid edrych ar sut allwn ni greu a chadw'r berthynas gyda'r byd.
"Mae prosiectau felly'n dod a moderneiddio'r ŵyl ond mae hynny yn beth da."

Mae gwaith celf Luke Jerram yn cynrychioli'r gwledydd nad sy'n rhan o Eisteddfod Llangollen eleni
Un o brif atyniadau'r Eisteddfod eleni ydi'r gorchudd defnydd ar draws y bont yng nghanol Llangollen.
Fe gomisiynodd yr ŵyl yr artist Luke Jerram i greu darnau defnydd amrywiol oedd yn cynrychioli Cymru a'r gwledydd fydd ddim yn ymweld â'r dref eleni.
Mae'r defnydd lliwgar yn ymestyn dros 60 o fetrau ac mi fydd ar gael i bobl weld tan 5 Awst.
Mae'r darluniau defnydd hefyd wedi eu hysbrydoli gan y neges o heddwch a thangnefedd.

Rhys Davies yw Cadeirydd Eisteddfod Llangollen
O gofio digwyddiadau'r flwyddyn ddiwethaf mae'r neges honno yn "bwysicach nag erioed o blaen" yn ôl Cadeirydd yr Ŵyl, Rhys Davies.
"Da ni wedi bod yn gwneud y neges heddwch yma ers 1952 ac mae o'n bwysig i gario mlaen yn enwedig ar ôl Covid.
"Mae'n grêt i gael pobl yn helpu ni efo Tangnefedd.
"Mae'n neis gweld pobl fel'a a phlant ysgol yn cario mlaen efo'r neges heddwch."
Plant o'r ysgol leol, Ysgol Gymraeg y Gwernant sydd wedi bod yn gwneud hynny a hwythau wedi dysgu lot.

Tess, Carys a Huw - tri o ddisgyblion Ysgol Gymraeg y Gwernant
"Dw i di darganfod bod pawb yn meddwl bod heddwch yn rhywle saff a rhywle mae nhw'n teimlo'n gyfforddus," meddai Tess.
"Mae'n gyffrous iawn bod yr Eisteddfod yn dod 'nôl ac oedd o'n hwyl gweld beth oedd heddwch i bobl eraill," meddai Carys. "Di o ddim yn berffaith i bawb."
Wrth drafod dyfodol yr Eisteddfod dywedodd Betsan Moses ei bod hi'n gobeithio y bydd cynulleidfaoedd yn gallu dechrau dychwelyd i Langollen y flwyddyn nesa, ond mae hi'n cydnabod y gallai hynny fod "ar ffurf hybrid" o gofio anawsterau teithio dramor.
Mi fydd yr ŵyl felly yn wahanol eleni ond mae'r trefnwyr yn argyhoeddedig fod 'na rhywbeth ar gyfer pawb yn ddigidol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2021